Ynglŷn â'n data

Mae Darganfod Prifysgol yn defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy, gan gynnwys arolygon cenedlaethol o fyfyrwyr a data gan brifysgolion a cholegau. Mae hyn yn cynnwys data o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yr Arolwg Deilliannau Graddedigion, data Deilliannau Addysg Hydredol a data a gasglwyd gan brifysgolion a cholegau.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i’ch helpu i gymharu cyrsiau a gwneud penderfyniadau am addysg uwch.

Ar y dudalen hon, fe allwch weld:

  • o ble y daw ein data
  • beth mae’r data’n ei olygu
  • sut rydym yn cyfrifo a chyhoeddi’r wybodaeth

Mae set ddata Darganfod Prifysgol yn cael ei diweddaru’n flynyddol yn yr hydref. Cyhoeddwyd data 2026 (C26062) ar Darganfod Prifysgol ar 1 Hydref 2026.

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn holi myfyrwyr blwyddyn olaf ynglŷn â’u profiad o’r brifysgol neu’r coleg.

Mae prifysgolion a cholegau’n defnyddio’r canlyniadau i wella eu cyrsiau a gall darpar fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth wrth gymharu cyrsiau.

Cynhelir yr arolwg bob blwyddyn ledled y Deyrnas Unedig.

Gofynnir i fyfyrwyr ynglŷn â’r canlynol:

  • addysgu
  • cyfleoedd dysgu
  • asesu ac adborth
  • cymorth academaidd
  • trefniadaeth a rheolaeth cyrsiau
  • adnoddau dysgu
  • llais y myfyriwr
  • gwasanaethau lles meddyliol
  • rhyddid mynegiant (ar gyfer myfyrwyr yn Lloegr yn unig)
  • boddhad cyffredinol (ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig)

Canlyniadau arolwg 2026

  • cwblhawyd yr arolwg gan 71.8% o fyfyrwyr cymwys
  • ymatebodd fwy na 360,000 o fyfyrwyr.

O gymharu â 2025, cynyddodd ymatebion cadarnhaol ar draws holl themâu’r arolwg yn y Deyrnas Unedig.

Gallwch weld dangosfwrdd data Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 a rhagor o wybodaeth am set ddata Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS).

Mae data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a ddangosir ar Darganfod Prifysgol yn dod o Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026.


Os nad oes digon o ddata o un flwyddyn, efallai byddwn yn cyfuno dwy flynedd o ganlyniadau arolwg. Mae hyn yn ein helpu i ddangos gwybodaeth ddibynadwy ar yr un pryd â gwarchod preifatrwydd myfyrwyr.

Os ydym wedi cyfuno dwy flynedd o ddata, byddwn yn dweud hyn wrthych ar dudalen y cwrs.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd gennym ddigon o ddata i gyhoeddi’r wybodaeth ar lefel cwrs, neu efallai bydd gan y cwrs sawl achos o ddata yn gysylltiedig ag ef (er enghraifft, rhai cyrsiau cydanrhydedd). Yn yr achosion hyn, efallai byddwn yn casglu’r data ynghyd ar gyfer y pwnc yn lle hynny.

Gweler ein hadran ‘deall y data’ isod i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn arddangos y data ar ein tudalennau cwrs.


Mesurau thema

Mae’r mesurau thema’n crynhoi grwpiau o ymatebion i gwestiynau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn themâu cyffredinol (er enghraifft, ‘addysgu ar fy nghwrs’).

Yn yr enghraifft isod, yn seiliedig ar ddata gan 350 o fyfyrwyr, roedd 81% yn gadarnhaol ynglŷn â’r addysgu ar y cwrs.

Rydym yn eu cyfrifo trwy gyfuno’r ymatebion cadarnhaol i gwestiynau tebyg a’u harddangos fel un gwerth ar gyfer y thema. Gweler y dudalen Ynglŷn â data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr o fewn yr adran ‘Deall data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr’ i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cyfrifo’r sgoriau thema.

Mae’r mesurau thema’n rhoi trosolwg i ddarpar fyfyrwyr o brofiadau myfyrwyr ar y cwrs. Gall hyn eu helpu i ymchwilio i gyrsiau a phenderfynu pa un sy’n iawn iddynt.

Mae’r arolwg Deilliannau Graddedigion yn gofyn i raddedigion beth maen nhw’n ei wneud 15 mis ar ôl gorffen eu cwrs.

Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am y canlynol:

  • p’un a yw graddedigion yn gweithio, yn astudio, neu’r ddau
  • faint maen nhw’n ei ennill
  • sut maen nhw’n teimlo ynglŷn â’u gwaith
  • p’un a yw eu gwaith yn cyd-fynd â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Cynhelir yr arolwg gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Canlyniadau’r arolwg Deilliannau Graddedigion

Mae data Deilliannau Graddedigion 2026 yn cynnwys ymatebion gan raddedigion a gwblhaodd eu cyrsiau yn 2022-23 a 2023-24.

Ymatebodd fwy na 353,000 o raddedigion i’r arolwg diweddaraf.

Mae dadansoddiad o’r data gan HESA yn dangos y canlynol:

  • roedd 87% o raddedigion mewn rhyw fath o waith neu astudio pellach
  • roedd 5% yn astudio’n amser llawn
  • dywedodd 85% fod eu gweithgarwch presennol yn ystyrlon
  • dywedodd 76% fod eu gweithgarwch presennol yn cyd-fynd â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol
  • roedd 7% yn ddi-waith
  • roedd 81% mewn cyflogaeth neu waith di-dâl
  • roedd mwyafrif y graddedigion a oedd mewn cyflogaeth yn gweithio’n amser llawn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Deilliannau Graddedigion a gwefan HESA.

Mae’r data Deilliannau Graddedigion a ddangosir ar Darganfod Prifysgol yn dod o Arolwg Deilliannau Graddedigion 2026. Chwiliwch am y cwrs ar Darganfod Prifysgol i weld ymatebion graddedigion.


Sut rydym yn cyhoeddi data Deilliannau Graddedigion

Mae’r data a ddangoswn ar Darganfod Prifysgol yn dod o arolwg Deilliannau Graddedigion 2026, sy’n ymdrin â graddedigion a orffennodd eu cyrsiau addysg uwch rhwng mis Awst 2023 a mis Gorffennaf 2024.

Rydym ond yn cyhoeddi data Deilliannau Graddedigion:

  • pan fydd o leiaf 10 o raddedigion wedi ymateb
  • pan fydd o leiaf 50% o raddedigion cymwys wedi cwblhau’r arolwg.

Rydym yn cyfuno dwy flynedd o ddata arolwg pan nad oes digon o fyfyrwyr yn y flwyddyn ddiweddaraf o ddata (ar gyfer graddedigion o 2022-23 a 2023-24) er mwyn i ni ei gyhoeddi. Mae tudalen pob cwrs yn dangos a yw’r data’n defnyddio un neu ddwy flynedd o ddata arolwg.

Mae ein tudalen enillion a chyflogaeth yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r data a ddarperir ar Darganfod Prifysgol.


Enillion ar ôl y cwrs

Mae’r adran hon yn dangos beth oedd graddedigion yn ennill 15 mis ar ôl gorffen eu cwrs.

Y cyflog a ddangosir yw’r cyflog canolrifol.

Ceir y cyflog canolrifol trwy restru’r holl gyflogau ar gyfer grŵp o bobl o’r isaf i’r uchaf, ac yna dewis y gwerth canol. Felly, gellid disgrifio’r cyflog canolrifol fel y cyflog “nodweddiadol” ar gyfer grŵp o bobl.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwymplen i weld data enillion Deilliannau Graddedigion ar lefel y Deyrnas Unedig neu ar lefel genedlaethol (Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon). Rydym yn cyhoeddi’r data hwn i ddarparu cyd-destun.

Mae hyn yn golygu y gallwch weld yr enillion canolrifol ar gyfer graddedigion o bob cwrs yn y pwnc sy’n byw neu’n gweithio yn y lleoliad a ddewiswyd. Oherwydd y gallai’r enillion canolrifol ar gyfer rhanbarth fod yn uwch neu’n is na’r enillion canolrifol ar lefel genedlaethol neu ar lefel y Deyrnas Unedig, rydym hefyd yn cynnwys canran y graddedigion o’r sefydliad sydd wedi’u lleoli yn y rhanbarth a ddewiswyd. Mae hyn yn dangos a yw’r ffigur rhanbarthol a ddewisoch yn feincnod da ar gyfer y sefydliad.

Nid ydym yn cynnwys data enillion ar gyfer y rhai sy’n hunangyflogedig.

Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys data enillion o’r set ddata Deilliannau Addysg Hydredol, sy’n dangos enillion tymor hwy graddedigion o faes pwnc. Mae’r data Deilliannau Addysg Hydredol yn dangos enillion canolrifol carfanau cynharach o raddedigion yn yr un pwnc dair a phum mlynedd ar ôl graddio.

Gweler yr adran isod ar Ddeilliannau Addysg Hydredol am ragor o fanylion.


Cyflogaeth 15 mis ar ôl y cwrs

Mae’r adran hon yn dangos beth oedd graddedigion yn ei wneud 15 mis ar ôl cwblhau eu cwrs.

Mae’n cynnwys canran y graddedigion a oedd:

  • yn gweithio
  • yn astudio
  • yn gweithio ac yn astudio
  • yn ddi-waith.

Mae hefyd yn dangos pa fath o swyddi y mae graddedigion yn eu gwneud 15 mis ar ôl graddio, a ph’un a yw’r swyddi hyn wedi’u dosbarthu’n alwedigaethau tra medrus (sy’n golygu yr ystyrir eu bod yn alwedigaethau proffesiynol neu reoli gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Dosbarthwyd galwedigaethau gan ddefnyddio system Dosbarthu Galwedigaethol Safonol 2020.


Canfyddiadau graddedigion

Mae’r adran hon yn dangos sut oedd graddedigion yn teimlo ynglŷn â’u cwrs a’u gweithgarwch presennol 15 mis ar ôl graddio.

Mae’n cynnwys canran y graddedigion a ddywedodd:

  • fod yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu yn ddefnyddiol yn eu gweithgarwch presennol
  • bod eu gwaith yn ystyrlon
  • bod eu gwaith yn cyd-fynd â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefannau Deilliannau Graddedigion a HESA.

Gweler ein tudalen Cyflogaeth ac enillion i gael rhagor o wybodaeth am sut gall y wybodaeth hon eich helpu i ymchwilio i’ch cwrs.

Mae’r set ddata Deilliannau Addysg Hydredol yn defnyddio cofnodion treth y llywodraeth i ddangos faint y mae graddedigion yn ei ennill ar ôl y brifysgol neu’r coleg.

Yn wahanol i arolygon, nid oes angen i raddedigion ymateb er mwyn i’w gwybodaeth gael ei chynnwys.

Rydym yn defnyddio data Deilliannau Addysg Hydredol i ddangos enillion graddedigion dair a phum mlynedd ar ôl graddio.

Dangosir y data ar gyfer meysydd pwnc yn hytrach na chyrsiau unigol.

Dangosir data Deilliannau Addysg Hydredol ar gyfer myfyrwyr a raddiodd rhwng 2015 a 2017.

Gall data Deilliannau Addysg Hydredol eich helpu i ddeall enillion tymor hwy graddedigion o faes pwnc.

Un rhan yn unig o ddewis cwrs yw enillion. Fe allai ffactorau fel boddhad â swydd, nodau gyrfa, lleoliad, a dewisiadau astudio pellach effeithio ar ddeilliannau graddedigion hefyd.

Am y rheswm hwn, argymhellwn ddefnyddio data Deilliannau Addysg Hydredol ochr yn ochr â’r wybodaeth arall sydd ar gael ar Darganfod Prifysgol.

Ynglŷn â’r data Deilliannau Addysg Hydredol a ddangosir ar Darganfod Prifysgol

Mae rhai pethau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddefnyddio’r data Deilliannau Addysg Hydredol ar Darganfod Prifysgol:

  • Mae data Deilliannau Addysg Hydredol ar gael ar gyfer cyrsiau a addysgir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn unig. Nid yw data Deilliannau Addysg Hydredol ar gael ar gyfer cyrsiau yng Ngogledd Iwerddon.
  • Mae data Deilliannau Addysg Hydredol yn dangos faint yr oedd graddedigion sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig yn ei ennill dair blynedd a phum mlynedd ar ôl graddio. Mae’r data’n dangos yr ystadegau hyn ar gyfer yr un garfan o fyfyrwyr.
  • Mae’r data’n cynnwys incwm trethadwy ar gyfer y rhai y didynnodd eu cyflogwr dreth wrth y ffynhonnell. Nid yw’n cynnwys enillion ar gyfer y rhai a oedd yn hunangyflogedig.
  • Mae’r data a gyhoeddwyd ar gyfer maes pwnc y cwrs ar hyd dwy flwyddyn dreth. Rydym ond yn cyhoeddi pan fydd gennym ddata Deilliannau Addysg Hydredol ar gyfer 15 o raddedigion o leiaf.
  • Mae’r data’n cynnwys enillion ar gyfer gweithwyr amser llawn a rhan-amser, sy’n golygu y gallai’r ffigurau ymddangos yn is pan fydd mwy o raddedigion yn dewis gweithio’n rhan-amser.

Mae’r data Deilliannau Addysg Hydredol a ddangosir ar Darganfod Prifysgol yn dod o 2025. Chwiliwch am y cwrs ar Darganfod Prifysgol i weld gwybodaeth am gyflogau.


Sut rydym yn cyhoeddi data Deilliannau Addysg Hydredol

Mae’r data Deilliannau Addysg Hydredol ar Darganfod Prifysgol yn ymdrin â graddedigion a orffennodd eu hastudiaethau rhwng 2015 a 2017.

Rydym yn ei ddefnyddio i ddangos enillion nodweddiadol graddedigion o’r un maes pwnc mewn prifysgol neu goleg.

Mae’r data enillion wedi’i gasglu mewn meysydd pwnc ar gyfer dwy flynedd o raddedigion. Nid ydym yn cyhoeddi data Deilliannau Addysg Hydredol ar gyfer cyrsiau unigol.

Enillion ar ôl y cwrs

Cyflogau canolrifol yw’r cyflogau a ddangosir mewn teip trwm yn yr adran ‘Enillion ar ôl y cwrs’.

Ceir y cyflog canolrifol trwy restru’r holl gyflogau ar gyfer grŵp o bobl o’r isaf i’r uchaf, ac yna dewis y gwerth canol. Felly, gellid disgrifio’r cyflog canolrifol fel y cyflog “nodweddiadol” ar gyfer grŵp o bobl.

Rydym yn defnyddio data Deilliannau Addysg Hydredol yn yr adran hon o’r tudalennau cwrs ar Darganfod Prifysgol i ddangos enillion canolrifol ar gyfer yr un grŵp o fyfyrwyr dair a phum mlynedd ar ôl iddynt raddio. Mae’r data ar Darganfod Prifysgol yn ymwneud â’r holl raddedigion mewn maes pwnc penodol yn y sefydliad, nid graddedigion o gwrs penodol (oni bai yr addysgwyd un cwrs yn unig yn y maes pwnc penodedig).

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwymplen i weld data enillion Deilliannau Addysg Hydredol ar y lefelau canlynol:

  • y Deyrnas Unedig (ac eithrio graddedigion o sefydliadau yng Ngogledd Iwerddon)
  • cenedlaethol (Cymru, Lloegr neu’r Alban)
  • rhanbarthau yn Lloegr
  • dinasoedd craidd yng Nghymru a’r Alban.

Nid yw data ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi’i gynnwys gan nad yw’r set ddata Deilliannau Addysg Hydredol yn cynnwys data gan raddedigion Gogledd Iwerddon.

Mae hyn yn golygu y gallwch weld yr enillion canolrifol ar gyfer yr holl raddedigion yn y maes pwnc yn y lleoliad a ddewiswyd. Oherwydd y gallai’r enillion canolrifol ar gyfer rhanbarth fod yn uwch neu’n is na’r enillion canolrifol ar lefel genedlaethol neu ar lefel y Deyrnas Unedig, rydym hefyd yn cynnwys canran y graddedigion o’r sefydliad sydd wedi’u lleoli yn y rhanbarth a ddewiswyd. Mae hyn yn dangos a yw’r ffigur rhanbarthol a ddewisoch yn feincnod da ar gyfer y sefydliad. Mae hyn yn eich helpu i ddeall sut gall enillion amrywio yn dibynnu ar ble mae graddedigion yn byw a gweithio.

Gallwch hefyd gymharu’r ffigurau hyn ag enillion o’r arolwg Deilliannau Graddedigion, sy’n dangos enillion 15 mis ar ôl graddio.

Mae ein tudalen ‘cyflogaeth ac enillion’ yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r data enillion a ddarperir ar Darganfod Prifysgol.

Gallwch ddysgu mwy am sut y cynhyrchir yr ystadegau a rhoi adborth ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Yr Adran Addysg sy’n berchen ar y data Deilliannau Addysg Hydredol a ddefnyddir ar Darganfod Prifysgol. Nid yw’r Adran Addysg yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau a wneir gan drydydd partïon o ganlyniad i’r data Deilliannau Addysg Hydredol.

Mae cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch y DU yn casglu data gan brifysgolion a cholegau am eu holl fyfyrwyr unigol. Rydym yn defnyddio'r data hwn i greu rhai o'r ystadegau a ddefnyddiwn.

Y setiau data a ddefnyddir gennym yw:

Cofnod Myfyrwyr HESA.

Cofnod Myfyrwyr Darparwyr Amgen (AP) HESA

Cofnod Dysgwr Unigol.

Data ar gyfer blynyddoedd academaidd 2022-23, 2023-24, a 2024-25 a ddefnyddir gennym oni nodir fel arall.

Parhad

Rydym yn defnyddio'r data hwn i ddweud wrthych beth mae myfyrwyr yn ei wneud flwyddyn ar ôl dechrau'r cwrs. Gelwir nifer y myfyrwyr sy'n dal i astudio’n 'gyfradd parhad'. Mae'r ffigyrau hyn yn seiliedig ar ganran y myfyrwyr a ddechreuodd yn 2021-22 ac a wnaeth barhau i mewn i 2022-23 ac o 2023-24 a wnaeth barhau i mewn 2024-25.

Nid yw'n anarferol i rai myfyrwyr adael yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Er ei bod yn dda gweld niferoedd uwch o fyfyrwyr yn parhau ar gwrs ar ôl blwyddyn, gall fod llawer o resymau pam fod myfyrwyr yn penderfynu cymryd hoe neu adael y cwrs. Mae'n bwysig cofio mai ciplun mewn amser yw hwn - nid tuedd ar gyfer cwrs. Os yw'r gyfradd parhad yn llawer is na chyrsiau eraill, gallai hyn fod yn arwydd nad yw'r cwrs yn bodloni disgwyliadau myfyrwyr.

Gwybodaeth am fynediad

Mae hyn yn dangos y cymwysterau a'r gwerthoedd pwyntiau tariff a oedd gan ddechreuwyr blaenorol (nid y gofynion mynediad ar gyfer cwrs yw hyn). Mae'n rhoi darlun o'r ystod o gymwysterau a oedd ganddynt a'r 'graddau' a enillwyd gan y rhai a oedd yn dechrau’r cwrs. Cofiwch, mae penderfyniadau gan sefydliadau i gynnig lleoedd i ymgeiswyr yn cael eu gwneud yn seiliedig ar ystod o feini prawf - nid dim ond y cymwysterau neu'r graddau a enillwyd.

Y data ar bwyntiau Tariff UCAS yw'r cyfartaledd ar gyfer cymwysterau sy'n seiliedig ar ddechreuwyr ym mlwyddyn academaidd 2023-24, ac weithiau dechreuwyr yn 2022-23 a 2023-24 wedi’u cyfuno pan fydd niferoedd y cwrs neu'r pwnc yn rhy fach i'w gyhoeddi ar gyfer un flwyddyn.

Mae'n bwysig gwybod bod rhai prifysgolion a cholegau'n derbyn ystod ehangach o gymwysterau ar gyfer mynediad i'w cyrsiau, na roddir cyfrif am rai ohonynt ym mhwyntiau Tariff UCAS. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y data pwyntiau tariff a ddangoswn ar gyfer rhai cyrsiau'n adlewyrchu'r gwerth a'r graddau a enillwyd gan rai myfyrwyr a dderbyniwyd ar y cwrs. Gall hyn effeithio ar y mwyafrif o gyrsiau mewn rhai sefydliadau sydd â chyfran uwch o fyfyrwyr rhyngwladol neu o’r tu allan i’r DU ymhlith y rhai a dderbyniwyd.

Nid ydym yn cyhoeddi gwybodaeth am bwyntiau tariff UCAS ar gyfer cyrsiau rhan-amser. Y rheswm dros hyn yw y bydd cyfran fwy o ymgeiswyr rhan-amser yn dilyn llwybrau gwahanol wrth wneud cais i fynd i'r brifysgol, neu y bydd ganddynt gymwysterau amgen sy'n golygu na fyddai cymwysterau'r ymgeiswyr hyn yn ymddangos yn y set ddata hon. Noder bod gwybodaeth am bwyntiau tariff UCAS wedi cael ei dangos drwy gamgymeriad ar gyfer nifer bach o gyrsiau rhan-amser rhwng 2 Hydref 2025 a 25 Mawrth 2026. Mae'r data hyn bellach wedi cael eu dileu.

I gael rhagor o wybodaeth am Dariff UCAS a gofynion mynediad, gweler ein tudalen 'Gofynion Derbyn'.

Achrediad

Mae cwrs achrededig wedi cael ei wirio a’i gymeradwyo gan un neu fwy o gyrff proffesiynol.

Mae hyn yn golygu bod dysgu a chyflawniad graddedigion yn bodloni’r meincnodau a’r safonau proffesiynol a osodwyd gan y corff achredu.

Os ydych yn astudio i ymuno â gyrfa benodol, efallai y bydd angen i chi ddilyn cwrs sydd ag achrediad proffesiynol, neu weithiau mae achrediadau’n dangos bod cyflogwyr yn cefnogi’r cwrs. Mae hyn yn golygu eu bod yn cydnabod ei fod yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr ar gyfer cyflogaeth mewn sector penodol neu rôl swydd benodol.

Mae tudalennau cwrs Darganfod Prifysgol yn esbonio unrhyw achrediad proffesiynol a pham mae’n bwysig i fyfyrwyr. Er enghraifft, fe allai cwrs achrededig fodloni’r gofynion ar gyfer gweithio mewn proffesiwn penodol. Mae pob achrediad a restrir yn cysylltu â gwybodaeth ychwanegol ar wefan y corff proffesiynol.

Mae darparwyr yn cyflwyno’r wybodaeth achredu ar gyfer eu cyrsiau, gan ddewis o blith rhestr o achrediadau cymeradwy a/neu ragnodedig, gan gynnwys y rhai hynny a osodwyd gan Gyrff Statudol a Rheoleiddiol Proffesiynol. Gallwch weld unrhyw achrediadau proffesiynol, a’r hyn maen nhw’n ei olygu i fyfyrwyr, ar ein tudalennau cwrs a chael rhagor o wybodaeth ar wefan y corff proffesiynol.

Gweler rhagor o wybodaeth am achrediadau proffesiynol.

Defnyddio data wrth benderfynu

Mae'r data yr ydym yn ei gyhoeddi ar Darganfod Prifysgol yn dod o ffynonellau dibynadwy a gall eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae'n bwysig nad ydych yn gwneud penderfyniadau ar sail gwahaniaethau bach rhwng cyrsiau. Yn hytrach, chwiliwch am wahaniaethau mawr, ac yn enwedig lle mae'r ffigyrau'n llawer is nag ar gyfer cyrsiau eraill rydych chi'n eu hystyried. Rhagor o wybodaeth am gymharu cyrsiau.

Meintiau samplau a chyfraddau ymateb

Ar Darganfod Prifysgol rydym yn dweud wrthych gan faint o fyfyrwyr y cafodd y data a gyhoeddir gennym ei gasglu, ac os oedd o arolwg, y gyfradd ymateb.

Gallai'r niferoedd hyn fod yn llai na’r disgwyl, gan ein bod yn ceisio cyhoeddi data ar gyfer y cwrs ac nad oes nifer fawr o fyfyrwyr ar bob cwrs.

Mae cyfradd ymateb uchel gan nifer fawr o fyfyrwyr yn golygu y gallwch fod yn fwy hyderus yn y data. Gyda niferoedd llai, mae'n arbennig o bwysig nad ydych yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar wahaniaethau bach.

Ni fyddwn ond yn cyhoeddi data os yw’r data gennym ar gyfer mwy na nifer penodol o fyfyrwyr. Mae hyn yn rhannol er mwyn diogelu eu hunaniaeth ac yn rhannol i sicrhau dibynadwyedd yr hyn yr ydym yn ei gyhoeddi. Ar gyfer arolygon, nid ydym yn cyhoeddi data os yw'r cyfraddau ymateb yn isel ychwaith.

Ar gyfer y rhan fwyaf o'r data, mae angen data gan o leiaf 10 myfyriwr i'w gyhoeddi. Ar gyfer LEO, mae angen o leiaf 15 o fyfyrwyr.

Cyrsiau bach

Ar gyfer llawer o gyrsiau llai, efallai na fydd gennym ddata gan ddigon o fyfyrwyr i'w gyhoeddi. Er mwyn i ni allu dangos rhywfaint o ddata, rydym yn grwpio data ar gyfer cyrsiau yn yr un maes pwnc yn y brifysgol honno neu'r coleg hwnnw.

Rydym yn dweud ble’r ydym wedi gwneud hyn ar dudalen y cwrs a’r offeryn cymharu cyrsiau.

Graddau cyd-anrhydedd a chyrsiau â data ar gyfer sawl pwnc

Mae rhai cyrsiau'n cwmpasu mwy nag un maes pwnc, ac weithiau’n arwain at ddyfarniad a elwir yn radd gyd-anrhydedd (megis "BSc Mathemateg a Chyfrifiadureg"). Lle mae gan gwrs fwy nag un pwnc, ceisiwn gyflwyno eitemau data yn seiliedig ar y bobl sy'n astudio'r cwrs hwnnw yn unig.

Weithiau os nad oes digon o bobl yn astudio'r cwrs, neu os nad oes digon ohonynt yn ymateb i arolwg, rydym yn cynnwys data ar gyfer pawb yn y sefydliad sy'n astudio cyrsiau sy'n cynnwys y pynciau hynny. Er enghraifft, mae hyn yn golygu yn ein henghraifft uchod y byddem yn cyflwyno ffigyrau ar wahân ar gyfer Mathemateg ac ar gyfer Cyfrifiadureg. Cyflwynir y rhain fel tabiau ar dudalennau cyrsiau. Gall rhai cyrsiau eang iawn gyda dewisiadau agored rhwng llawer o fodiwlau fod â chymaint â phum maes pwnc, neu fwy byth hyd yn oed.

Wrth feddwl am gwrs lle cyflwynir nifer o ffigyrau ar lefel pynciau, mae'n bwysig edrych ar yr holl bynciau. Dylech hefyd ystyried sut y gallai'r ffigyrau hyn ar gyfer pynciau adlewyrchu'r cwrs yr ydych yn edrych arno, sydd efallai'n cynrychioli nifer fach o fyfyrwyr yn unig yn y meysydd pwnc hynny.

Cyrsiau breiniol neu wedi’u hisgontractio

Weithiau, bydd cwrs yn cael ei ‘is-gontractio’. Mae hyn yn golygu bod prifysgol neu goleg yn caniatáu i sefydliad arall gyflwyno cwrs addysg uwch cyfan, neu ran ohono, ar ei rhan/ran. Adwaenir y rhain hefyd fel partneriaethau is-gontractio, darpariaeth ar y cyd, trefniadau breiniol neu freinio.

O dan drefniadau o’r fath, bydd myfyrwyr yn cofrestru gyda phrifysgol neu goleg, ond bydd prifysgol, coleg neu sefydliad ar wahân yn eu haddysgu am y cwrs cyfan neu ran ohono. Bydd myfyrwyr yn talu ffioedd dysgu i’r darparwr arweiniol, naill ai’n uniongyrchol neu drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Bydd y darparwr arweiniol yn trosglwyddo cyfran o’r ffioedd dysgu i’r partner addysgu.

Y darparwr arweiniol sy’n gyfrifol am ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr yn gyffredinol ar y cwrs a gyflwynir gan ddarparwr arall.

Wrth ymchwilio i gyrsiau, mae’n bwysig i ddarpar fyfyrwyr wybod os yw’r cwrs cyfan neu ran ohono’n cael ei is-gontractio/his-gontractio er mwyn iddynt wybod ble y cânt eu haddysgu ac fel y gallant wneud ymchwil bellach.

Os yw cwrs yn cael ei freinio, bydd hyn yn cael ei nodi ar dudalen y cwrs ar Darganfod Prifysgol a bydd y darparwr cofrestredig a’r darparwr addysgu’n cael eu cynnwys.

Cyrsiau newydd

Lle mae cyrsiau'n newydd neu lle nad oes unrhyw fyfyrwyr wedi eu gorffen eto, rydym yn cyhoeddi data ar gyfer cyrsiau eraill yn y maes pwnc hwnnw. Rydym yn gwneud hyn er mwyn rhoi rhyw syniad i chi o brofiad a deilliannau myfyrwyr yn y brifysgol honno a'r coleg hwnnw.

Unwaith eto, rydym yn dweud lle’r ydym wedi gwneud hyn ar dudalen y cwrs.

Talgrynnu

Rydym yn cyhoeddi data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr i’r pwynt canran agosaf. O ran data arall, os oes gennym ddata ar gyfer llai na 52.5 o bobl, rydym yn talgrynnu’r data i’r pum pwynt canran agosaf. Rydym bob amser yn talgrynnu nifer y bobl i’r pump agosaf, hefyd.

Fe all hyn olygu nad yw’r ffigurau a ddangosir bob amser yn adio i 100%. Yn lle hynny, fe allai’r cyfanswm fod yn 95% neu’n 105% pan fyddwch yn eu hadio.

Adborth

Byddem yn croesawu adborth ar ba mor ddefnyddiol yw'r ystadegau a beth ellir ei wneud i'w gwella. Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio ein manylion cyswllt ar y dudalen ‘Darganfod Prifysgol’.

Cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch y Deyrnas Unedig sy’n berchen ar Darganfod Prifysgol a’i weithredu.

Mae pob corff cyllido a rheoleiddio’n monitro ansawdd y prifysgolion a’r colegau yn eu gwlad. Mae Darganfod Prifysgol yn cynnwys gwybodaeth am ansawdd a safonau prifysgolion a cholegau, sy’n eich helpu i weld sut mae’r brifysgol neu’r coleg wedi cael ei hadolygu/adolygu gan y corff cyllido a rheoleiddio yn ei gwlad/wlad.

Mae’r wybodaeth hon ar gael ar dudalen y brifysgol neu’r coleg ar wefan Darganfod Prifysgol.

Prifysgolion a cholegau yn Lloegr – y Swyddfa Fyfyrwyr – Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu

Cynllun cenedlaethol yw'r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) sy'n cael ei redeg gan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) ac sy'n amcanu at annog darparwyr addysg uwch i wella a chyflawni rhagoriaeth yn y meysydd sydd bwysicaf i fyfyrwyr: addysgu, dysgu a chyflawni deilliannau cadarnhaol o'u hastudiaethau.

Mae'r TEF yn gwneud hyn trwy asesu a graddio prifysgolion a cholegau ar gyfer rhagoriaeth uwchlaw set o ofynion sylfaenol ar gyfer ansawdd a safonau. Mae darparwyr sy'n cymryd rhan yn y TEF yn cael sgôr cyffredinol yn ogystal â dau sgôr sylfaenol – y naill ar gyfer profiad myfyrwyr a’r llall ar gyfer deilliannau myfyrwyr.

Bydd canlyniadau'r TEF yn cael eu cyhoeddi ar y tudalennau sy’n rhoi gwybodaeth am ddarparwyr o ganol mis Hydref. Gallwch gael mynediad at y rhain trwy glicio ar enw'r sefydliad ar dudalen pob cwrs. Cewch ragor o wybodaeth am y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Prifysgolion a cholegau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon – yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd

Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) yw'r corff ansawdd dynodedig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'r QAA yn monitro ansawdd a safonau'r addysgu mewn prifysgolion a cholegau ar ran y cyrff cyllido a rheoleiddio ym mhob gwlad. Mae'r QAA yn cwblhau adolygiadau sicrhau ansawdd ac yn cyhoeddi adroddiad i grynhoi eu canfyddiadau. Gellir dod o hyd i adroddiadau’r QAA ar dudalennau darparwyr ar Darganfod Prifysgol, y gallwch eu cyrchu trwy glicio ar enw'r sefydliad ar dudalen pob cwrs. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am am ansawdd a safonau.

Back
to top