Paratoi i ddechrau yn y brifysgol

Mae’r cyfnod pan fyddwch yn dechrau'r brifysgol yn llawn prysurdeb a chyffro.

Gwiriwch eich negeseuon e-bost, gwefan y brifysgol a'r tudalennau cwrs yn rheolaidd am fanylion a darllenwch y newyddion diweddaraf gan eich prifysgol neu goleg er mwyn bod ar ben eich pethau.

Ar ôl penderfynu beth rydych chi am ei astudio ac ymhle, mae angen ichi ystyried eich opsiynau llety os byddwch yn penderfynu symud i'r brifysgol.

  • Mae yna wahanol fathau o lety ar gael fel arfer, a all gynnwys llety sy'n eiddo i'r brifysgol neu'r coleg, llety myfyrwyr sy'n eiddo i gwmnïau preifat a llety preifat. Efallai y bydd yn well gennych chi fyw ar y campws; efallai y bydd peidio gorfod teithio'n bell i'r brifysgol neu'r coleg yn bwysig ichi; neu fod mewn ardal lle mae popeth ar gael ar garreg eich drws.
  • Edrychwch ar wefan eich prifysgol neu goleg a'r cyfryngau cymdeithasol am gyngor a gwybodaeth am lety yn yr ardal. Os byddwch yn dewis neuadd breswyl, efallai y bydd modd sicrhau ystafell ar-lein.
  • Os ydych chi'n fyfyriwr anabl neu os oes gennych chi anghenion dysgu penodol, efallai y bydd angen gwneud trefniadau arbennig ar eich cyfer. Dylai pob prifysgol gynnig llety hygyrch, ond mae'n bosibl na fydd y math hwnnw o lety ar gael bellach. Gall gwasanaethau i fyfyrwyr anabl yn eich prifysgol eich helpu i ganfod lle priodol. Dylent hefyd allu eich cynghori ynghylch unrhyw gyllid y gallwch gael mynediad ato. Cysylltwch â nhw i gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau o ran llety.
  • Cyn ichi symud i mewn bydd angen ichi holi pa ddodrefn a chyfleusterau fydd yn cael eu darparu: gwelyau, dillad gwely, desgiau, cadeiriau ac offer cegin hyd at y rhent a'r biliau y bydd disgwyl ichi eu talu.
  • Edrychwch ar y manylion: mae gan y rhan fwyaf o ddarparwyr llety (gan gynnwys neuaddau preswyl) reolau. Darganfyddwch bopeth y gallwch er mwyn ichi allu cynllunio a dod â'r hanfodion gyda chi, a gwybod lle i nôl yr allweddi.
  • Gwiriwch y trefniadau teithio. Sut fyddwch chi'n cyrraedd yno, a sut fyddwch chi'n teithio o amgylch y lle ar ôl cyrraedd? Ymchwiliwch i'r opsiynau sydd ar gael er mwyn ichi deimlo'n barod am eich diwrnod cyntaf ar eich cwrs.
  • Gwiriwch y trefniadau cymdeithasu. Gallwch chi gysylltu â'ch cyd-letywyr ymlaen llaw drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae gan sefydliadau dudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol, a gallai fod yn fuddiol cysylltu drwy'r rheiny. Efallai y byddwch hefyd am ymchwilio i gymdeithasau a chlybiau ymlaen llaw drwy undeb y myfyrwyr, ac edrych ar flogiau myfyrwyr presennol, oherwydd gallent gynnwys ambell air o gyngor.
  • Mae gan bob myfyriwr yr hawl i dŷ neu fflat sy'n ddiogel ac yn addas i fyw ynddo, boed y llety hwnnw'n eiddo i'r brifysgol neu'n llety preifat. Mae hyn yn cynnwys trefniadau awyru da, deunydd inswleiddio a darparu system wresogi. Cewch ragor o wybodaeth am eich hawliau a chymorth gan Cyngor ar Bopeth.

Mae ceisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar agor ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Os ydych chi wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr, dylech wirio bod yr holl fanylion gofynnol wedi'u cyflwyno i sicrhau eich bod yn cael eich benthyciad mewn pryd.

Bydd angen i unrhyw fyfyriwr a newidiodd ei gwrs yn y Clirio ddiweddaru ei fanylion gyda'r cwrs newydd a'r brifysgol neu'r coleg.

Os nad ydych chi wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr, bydd angen ichi wneud cais nawr i'ch helpu i dderbyn rhywfaint o arian ar gyfer dechrau'r cwrs, neu cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl i'r cwrs ddechrau. Cewch hyd i lwyth o wybodaeth am gyllid a benthyciadau myfyrwyr ar ein tudalennau 'sut y byddaf yn talu amdano'.

Os ydych chi'n fyfyriwr o'r DU: ceir gwahanol sefydliadau i ymgeisio iddynt am gyllid myfyrwyr, yn dibynnu o ba wlad yn y DU yr ydych y ymgeisio. Chwiliwch am ragor o fanylion ar gyfer Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, cewch ragor o wybodaeth yng nghanllaw Cyngor y DU ar gyfer Materion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA) ar gyllid myfyrwyr a chanllaw Study UK ar ysgoloriaethau a chyllid y British Council.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio dramor, holwch y brifysgol neu'r coleg rydych chi wedi'i ddewis am fanylion ffioedd a chostau. Mae gwybodaeth hefyd ar gael am Gynllun Turing. Cynllun gan lywodraeth y DU yw hwn i ddarparu cyllid ar gyfer cyfleoedd rhyngwladol ledled y byd ym maes addysg a hyfforddiant.

Cyllidebu a chostau byw:

Mae costau byw'n newid yn gyson, felly wrth ymchwilio i gostau byw mewn lleoliad penodol, ceisiwch ganfod yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael.

Edrychwch ar ein tudalennau Costau Byw am ragor o wybodaeth ac adnoddau i'ch helpu i reoli eich arian tra byddwch yn y brifysgol.

Gall costau byw myfyrwyr sy'n astudio yn y brifysgol neu'r coleg amrywio yn dibynnu beth fyddant yn ei astudio ac ymhle, eu ffordd o fyw ac unrhyw ymrwymiadau ariannol a allai fod ganddynt.

Os ydych chi'n ansicr ynghylch pa gostau ychwanegol a allai fod yn gysylltiedig â'ch astudiaethau, gallwch ofyn i'ch prifysgol neu goleg am ragor o wybodaeth. Gallai'r enghreifftiau gynnwys:

  • costau llety - fel rhent
  • teithio
  • deunyddiau cwrs
  • bwyd a diod
  • cyfleustodau – fel biliau nwy a thrydan

Mae Student Space yn cynnig cyngor a chymorth, gan gynnwys gwybodaeth am adnoddau cyllidebu.

Edrychwch ar ein gwybodaeth ddiweddaraf am gostau byw tra yn y brifysgol.

Cewch gyngor pellach am gyllidebu yn MoneySavingExpert Save The Student.

Byddwch yn derbyn e-bost neu lythyr gan eich prifysgol neu goleg gyda manylion ar sut a phryd i gofrestru ar gyfer eich cwrs. Fe ddylech chi hefyd ddod o hyd i fanylion ar wefan y sefydliad.

  • Mae gan lawer o brifysgolion a cholegau gofrestru ar-lein: dylech dderbyn manylion ar sut i fewngofnodi a chofrestru. Fel arfer, mae angen i chi gofrestru yn ystod wythnos gyntaf y tymor.
  • Mae'n bwysig eich bod yn cofrestru ar gyfer eich cwrs fel y gallwch fynychu'r cwrs, ond hefyd i gael mynediad i'ch benthyciad a'ch cyllid myfyriwr, cael eich cerdyn adnabod prifysgol, cael mynediad i'ch cyfrif e-bost prifysgol, argraffu tystysgrif gofrestru, a sicrhau eich bod wedi'ch eithrio rhag talu’r dreth gyngor.

  • Adolygwch eich pynciau cyn ichi gyrraedd a darllen unrhyw ddeunyddiau a anfonir atoch am y cwrs rydych chi'n ei ddechrau. Mae llawer o brifysgolion a cholegau'n awgrymu rhestrau darllen ac yn darparu dolenni i adnoddau ar-lein. Gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo amser i'w hastudio. Gan fod Covid wedi tarfu ar ysgolion gan achosi iddynt gau am gyfnodau hir, gallai prifysgolion a cholegau fod yn cynnig cymorth ychwanegol i lenwi unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth, a'ch helpu i deimlo'n barod i ddechrau'r cwrs. Holwch eich prifysgol neu goleg a roddir unrhyw gefnogaeth ychwanegol cyn i'r cwrs ddechrau.

  • Darllenwch am y modiwlau sydd ar gael o fewn eich cwrs - gallech edrych ar fanylion neu amlinelliad o'r modiwlau cwrs y byddwch yn eu hastudio yn ystod tymor cyntaf neu flwyddyn gyntaf eich cwrs. Gall hyn roi rhyw syniad chi o unrhyw wybodaeth am y pwnc y gallech fod am ailedrych arni a'i hadolygu. Gall hyn eich helpu i fod ar eich gorau ar ddechrau'r cwrs.

Efallai y bydd rhai cyfyngiadau ar fywyd myfyrwyr, ond mae bariau ar y campws, cyfleusterau chwaraeon ac undebau yn debygol iawn o fod ar agor. Mae campfeydd a chanolfannau chwaraeon ar agor ar hyn o bryd, ac mae chwaraeon yn cael eu caniatáu fwyfwy ledled y DU, felly dylech chi allu cymryd rhan yn y brifysgol neu'n lleol. Efallai y bydd y niferoedd a ganiateir i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn gyfyngedig.

Mae prifysgolion a cholegau yn cynnig ystod eang o gymdeithasau cymdeithasol i ymuno â nhw, a bydd undebau myfyrwyr yn debygol o barhau i gynnal digwyddiadau dan do ac awyr agored. Y llynedd, roedd prifysgolion yn dal i allu cynnal digwyddiadau wythnos y glas, fel nosweithiau cwis rhithwir a gweithgareddau wrth gadw pellter cymdeithasol. Bydd prifysgolion ac undebau myfyrwyr yn gweithio i groesawu myfyrwyr newydd, pa bynnag gyfyngiadau sydd ar waith. Gall digwyddiadau fod yn gyfyngedig o ran maint a gall fod angen trefnu lle ymlaen llaw, dangos canlyniadau profion a chadw at reolau cadw pellter cymdeithasol, ond byddant yn cynnig cyfleoedd pwysig i gwrdd â chyd-fyfyrwyr a chymdeithasu. Gall cyfyngiadau cyfredol godi wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, yn dibynnu ar ganllawiau'r llywodraeth.

Mae'n naturiol i deimlo'n nerfus ynglŷn â dechrau yn y brifysgol, a bydd llawer o fyfyrwyr yn teimlo bod eu haddysg o dan anfantais oherwydd y pandemig, felly mae'n bosib y byddant yn bryderus ynghylch astudio ar y lefel uwch. Peidiwch â phoeni os ydych chi'n teimlo fel hyn – nid ydych chi ar eich pen eich hun ac mae digon o gymorth. Dyma ychydig o awgrymiadau i'ch helpu chi i baratoi.

  • Cyn i chi gyrraedd, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr e-byst a anfonwyd atoch gan eich prifysgol neu goleg. Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud pethau ar gyfer eich llety, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon unrhyw wybodaeth y gofynnwyd amdani yn ôl mewn pryd. Ar gyfer cyrsiau galwedigaethol efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflenni a chael dogfennau'n barod ar gyfer pethau fel gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
  • Pan fyddwch chi'n mewngofnodi ar gyfer eich amgylchedd dysgu rhithiol, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei brofi a chael golwg dda arno. Efallai y bydd gennych gyfarwyddiadau i'w dilyn ynglŷn â beth i'w wneud cyn i chi gyrraedd, neu yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf.
  • Mae hefyd yn ddefnyddiol dilyn eich sefydliad neu gwrs ar y cyfryngau cymdeithasol. Efallai y bydd cyhoeddiadau neu ddolenni defnyddiol yn cael eu postio a fydd yn eich helpu i ddod yn rhan o gymuned y brifysgol. Edrychwch ar yr hyn y mae undeb y myfyrwyr yn ei gynnig, a hefyd edrychwch ar bethau fel trafnidiaeth leol, lleoedd i gael bwyd, cyfleusterau chwaraeon a chymdeithasol, a diddordebau personol fel grwpiau ffydd lleol. Efallai y bydd rhai lleoedd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a defnyddiol, fel gwersi coginio.
  • Gallech hefyd edrych ar fapiau o'r campws, a lawrlwytho unrhyw wybodaeth ddefnyddiol am y brifysgol. Os oes gennych eich amserlen cyn i chi gyrraedd, gwiriwch pryd y bydd angen i chi fod ar y campws. . Meddyliwch pa mor hir fydd yr amseroedd teithio o'ch llety ac os oes gennych fylchau yn eich amserlen. A yw'n werth mynd adref, neu a ddylech chi efallai ddefnyddio un o'r lleoedd astudio a defnyddio'r amser i astudio rhywfaint? Bydd cynllunio'ch amser yn sgìl allweddol yn y brifysgol, felly edrychwch ar sut y byddwch chi'n cydbwyso eich diddordebau eich hun, amser i astudio, amser addysgu, a hefyd pethau fel siopa bwyd a choginio yn rhan o'ch diwrnod.
  • Edrychwch ar Student Space am gynghorion ynghylch paratoi a setlo yn y brifysgol, fel cyngor ar sut i wneud ffrindiau, rheoli pryderon am symud i'r lefel academaidd nesaf a meithrin arferion iach er mwyn helpu eich iechyd meddwl a'ch llesiant.
  • Edrychwch ar ganllaw Student Minds, Know Before You Go am gymorth i setlo yn y brifysgol.

Dyma gyngor gan fyfyrwyr a ddechreuodd yn y brifysgol y llynedd:

  • Dylid cymryd rhan mewn cymaint o gyfleoedd ag y gallwch. Bydd llawer o gymdeithasau myfyrwyr y gallwch chi ymuno â nhw a digwyddiadau i fynd iddyn nhw, p'un ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
  • Dewch i adnabod eich cyd-ddisgyblion. Gallwch chi sefydlu sgwrs grŵp ar WhatsApp. Dywedodd nifer o fyfyrwyr prifysgol fod hyn wedi bod o help mawr iddyn nhw deimlo'n gartrefol a chefnogi a dod i adnabod ei gilydd.
  • Ceisiwch fod yn hunangymhellol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhoi amser i'ch hun gynllunio a gwneud unrhyw arholiadau aseiniad, gan gofio cymryd seibiannau rheolaidd.

Dyma rai awgrymiadau gan weithiwr cymorth myfyrwyr proffesiynol:

  • Byddwch yn garedig â chi'ch hun. Mae bod yn fyfyriwr yn ffordd o fyw ac mae'n cymryd amser i addasu i'r ffordd o fyw honno. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd a'i bod yn cymryd ychydig o amser i chi ddod i arfer â hynny, mae hynny'n normal. Dywedwch wrth eich hun eich bod chi'n gwneud yn iawn. Siaradwch â myfyrwyr yn y flwyddyn uwch am yr hyn a wnaethant i wneud eu hunain deimlo'n gartrefol.
  • Gofynnwch bob amser. Mae'n iawn peidio â gwybod pethau. Dyna beth yw pwrpas prifysgol: dysgu beth nad oeddech chi'n ei wybod eisoes. Mae pobl yn y brifysgol a fydd yn eich helpu i ddysgu popeth, o ble i brynu bwyd i sut i feirniadu erthyglau ymchwil, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gofyn am help pan fydd ei angen arnoch chi.
  • Trefnwch eich amser. P'un a oes gennych amserlen lawn, neu un â llai o amser cyswllt, bydd disgwyl i chi drefnu eich amser. Ceisiwch drefnu eich bywyd eich hun; cynlluniwch amser i astudio, amser i gymdeithasu, amser i ymlacio, amser i wneud tasgau fel coginio a glanhau. Gadewch rai bylchau yn eich amserlen ar gyfer pethau annisgwyl. Meddyliwch am gynllunio yn ddyddiol, wythnosol a thymhorol, a defnyddiwch restrau, dyddiaduron a chynllunwyr i drefnu.
  • Ychydig ac yn aml. Bydd torri eich amser astudio neu wneud gwaith cwrs yn gyfnodau byr yn eich helpu i gyflawni'r cyfan. Os yw tasg yn ymddangos yn fawr (er enghraifft ysgrifennu adroddiad neu draethawd), rhannwch y gwaith yn dasgau llai. Er mwyn ymgysylltu â'ch nodiadau darlith, treuliwch ychydig o amser bob wythnos yn mynd drwyddynt ac yn gwirio eich bod yn eu deall. Llenwch unrhyw fylchau, a gallech ychwanegu nifer o enghreifftiau defnyddiol atynt o bosib.
  • Cymerwch ran. P'un a yw'n waith gwirfoddol, ymuno â chymdeithas, neu sicrhau eich bod yn cyfrannu yn y dosbarth, gwnewch eich gorau i gysylltu ag eraill. Po fwyaf y byddwch chi'n rhyngweithio â phobl, y cyflymaf y byddwch chi'n teimlo'n rhan o'r gymuned, yn y brifysgol ac yn y dref neu'r ddinas lle rydych chi'n byw.

Bydd eich prifysgol neu goleg yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth gwahanol. Mae'r rhain yn eu lle i sicrhau bod gennych chi'r profiad myfyriwr gorau posib. Gall hyn gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, timau lles a thimau cymorth academaidd i sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau astudio.

Mae llawer o unis yn cynnig dosbarthiadau iechyd a lles a gwasanaethau cwnsela i fyfyrwyr. Dylech ddod o hyd i wybodaeth ar wefan neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol y brifysgol. Bydd cymorth cyngor gyrfaoedd ar waith hefyd, naill ai drwy eich sefydliad neu ddarparwyr eraill, i ddatblygu sgiliau ar gyfer eich dyfodol. Mae ymuno â chymdeithasau a chlybiau myfyrwyr yn ffordd gadarnhaol o fagu eich hyder a bydd gweithio gyda nhw yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd.

Mae cymorth academaidd yn wahanol ym mhob sefydliad, ond mae gan bron pob prifysgol a choleg rywbeth ar gael. Efallai y bydd e-byst yn cael eu hanfon atoch gyda chysylltiadau uniongyrchol at gymorth, cwisiau cyn cyrraedd i weld ble mae'ch cryfderau, adnoddau ar-lein i ymgysylltu â nhw, a manylion ar sut i gael gafael ar gymorth academaidd. Cadwch lygad am enwau fel Datblygiad Academaidd, Cymorth Dysgu, Sgiliau Astudio, Fy Sgiliau, Hwb Dysgu – unrhyw beth sy'n awgrymu ei fod yn ymwneud â sut i astudio'n effeithiol.

Efallai y bydd rhai cyrsiau'n cynnig digwyddiadau neu adnoddau cyn cyrraedd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymgysylltu â nhw. Bydd yr hyn sy'n cael ei gynnig yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n mynd a beth rydych chi'n ei astudio. Efallai y bydd rhai sefydliadau’n cynnig unedau sgiliau fel rhan o’ch cwrs, bydd gan rai hefyd ganolfannau arbenigol (yn aml fel rhan o’r llyfrgell, neu undeb myfyrwyr), ac efallai y byddant hefyd yn delio â phethau fel llesiant, cymorth anabledd a sgiliau iaith. Mewn rhai achosion, efallai y cewch eich cyfeirio at adnoddau ar eich amgylchedd dysgu rhithiol.

Yn aml, bydd gwasanaeth sgiliau academaidd yn rhedeg cymorth ar-lein, adnoddau hunangymorth, a thiwtorialau personol neu ar-lein, y gallwch drefnu lle arnynt neu y gellir cyfeirio atynt, sy'n dysgu sgiliau astudio. Efallai y cewch gyfle hefyd i gael rhywfaint o gymorth gan gymheiriaid, lle mae rhywun o'ch cwrs mewn blwyddyn uwch yn gweithredu fel cyfaill neu fentor am gyfnod. Os ydych chi'n cael tiwtor personol wedi'i ddyrannu i chi gan eich cwrs, efallai y bydd hefyd yn cynnig cymorth academaidd.

I ddarganfod beth sydd ar gael, edrychwch ar wefan y brifysgol neu goleg, yn enwedig unrhyw dudalennau “myfyrwyr newydd” neu “groeso”. Yn aml, bydd ganddyn nhw adran sy'n ymroddedig i gymorth academaidd. Os na allwch ddod o hyd iddi yno, edrychwch ar dudalen we'r cwrs a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen unrhyw negeseuon e-bost y mae eich prifysgol yn eu hanfon atoch pan fyddwch chi wedi cael eich derbyn. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch, ceisiwch gysylltu â'ch swyddfa adrannol neu gyfadran trwy e-bost.

Fel darpar fyfyriwr, mae angen i chi gael eich gwneud yn ymwybodol o'r broses gwynion gan eich prifysgol neu goleg a'ch telerau ac amodau. Os nad ydych yn teimlo bod eich prifysgol neu goleg wedi rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud dewis gwybodus, gallwch ddewis un o'r canlynol:

Os byddwch chi'n newid eich meddwl ar ôl i chi ddechrau yn y brifysgol neu goleg, ni waeth beth yw'r rheswm, mae nifer o bethau y mae angen i chi eu gwneud.

  • Siaradwch â thiwtor eich cwrs yn y brifysgol neu'r coleg, byddan nhw'n gallu edrych ar yr opsiynau gyda chi.
  • Byddant yn gallu cynnig cymorth i chi, gan gynnwys gwasanaethau cyngor neu les, gan ddibynnu ar eich anghenion, ac efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ychwanegol yn Student Space neu Student Minds. Os ydych yn cael trafferth gyda chyllid, mae’n bosibl y byddant yn gallu darparu cyllid caledi.
  • Siaradwch â'r tîm Gyrfaoedd yn eich prifysgol neu goleg os ydych wedi newid eich meddwl ynglŷn â’ch opsiynau gyrfa a'ch bod bellach yn teimlo nad yw eich cwrs yn berthnasol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gan Prospects hefyd.
  • Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd rheoli'ch cwrs, efallai y byddwch am ystyried dull astudio gwahanol. Siaradwch â'ch tiwtoriaid am ddysgu rhan-amser neu ddysgu o bell.

Mae’n bosibl y bydd yn bosibl trosglwyddo i gwrs gwahanol yn eich prifysgol bresennol neu wneud cais i ymuno â chwrs mewn prifysgol neu goleg gwahanol.

  • Os ydych am drosglwyddo cwrs yn eich prifysgol neu goleg presennol, siaradwch â thiwtoriaid y cwrs i weld a yw hyn yn bosibl. Bydd yn dibynnu ar ystod o ffactorau megis a oes lleoedd ac a ydych yn bodloni'r gofynion mynediad.
  • Os dymunwch drosglwyddo i brifysgol arall, bydd angen i chi siarad â swyddog ohoni i weld a oes lleoedd ar gael, a bydd angen i chi gyflwyno cais yn y modd arferol o hyd. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu trosglwyddo rhai o'ch credydau, os ydych wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eich dysgu er enghraifft, ond efallai y bydd angen i chi ddechrau eto.

Mae’n bosibl y byddwch am ystyried cymryd seibiant a pharhau â'ch astudiaethau ymhen blwyddyn. Bydd angen i chi siarad â rhywun o'ch prifysgol neu goleg i weld a yw hyn yn bosibl, a bydd angen i chi roi gwybod i’r tîm Cyllid Myfyrwyr fel y gallant oedi'ch taliadau.

Os byddwch yn newid eich prifysgol neu goleg, neu'n tynnu'n ôl yn gyfan gwbl, bydd angen i chi roi gwybod i'ch prifysgol yn ogystal â rhoi gwybod i’r tîm Cyllid Myfyrwyr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth oddi wrth UCAS.

Cymorth i rieni a gofalwyr

Gall helpu eich plentyn i baratoi i ddechrau'r brifysgol fod yn gryn her. Edrychwch ar How can I support my child at university? gan Gweithredu dros Blant a 7 Ways to help your child prepare for university gan WhatUni? am arweiniad.

Back
to top