Cymru
Benthyciadau Ffioedd Dysgu
Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn ymgeisio i brifysgol neu goleg yn y DU efallai y byddwch yn gallu benthyg arian i dalu cost eich ffioedd dysgu.
Nid oes unrhyw uchafswm oedran ar gyfer benthyciadau ffioedd dysgu.
Bydd yr arian yma'n cael ei dalu'n syth i'r brifysgol neu'r coleg.
Faint alla i ei fenthyg?
Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn astudio mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yng Nghymru, gallwch fenthyg hyd at £9,000 am bob blwyddyn lle byddwch yn astudio'n llawnamser.
Os ydych chi'n astudio yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gallwch fenthyg hyd at £9,250 os ydych chi'n astudio mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus. Mae hyn oherwydd bod yr uchafswm y gallant ei godi ychydig yn uwch nag yng Nghymru. Cewch fenthyg hyd at £6,165 os ydych chi'n astudio mewn prifysgol neu goleg preifat.
Os ydych chi'n astudio'n rhan-amser gallwch gael benthyciad os yw eich amser astudio gyfwerth â 25% o'r oriau amser llawn o leiaf.
Holwch y brifysgol neu'r coleg os nad ydych yn siŵr a yw eich cwrs yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr.
Ad-dalu eich benthyciad
Bydd ad-daliadau'n dechrau yn y mis Ebrill ar ôl i chi orffen eich cwrs, ond dim ond ar ôl i chi ddechrau ennill £25,725 neu fwy y flwyddyn. Y swm y byddwch yn ei ad-dalu fydd 9% o'r swm yr ydych yn ei ennill dros £25,725.
Cesglir eich ad-daliadau o'ch cyflog gyda'ch treth a'ch yswiriant gwladol. Er enghraifft, os byddwch chi'n ennill £27,000 y flwyddyn, byddwch yn talu £9.56 y mis.
Sut i gael mwy o wybodaeth
Mae gan Cyllid Myfyrwyr Cymru fwy o wybodaeth am fenthyciadau ffioedd dysgu.
Mae gan GOV.UK wybodaeth am y gost o fenthyca ac ad-dalu eich benthyciad.
Cewch hyd i gyngor ar wefan MoneySavingExpert hefyd.
Gwyliwch fideo cyllid myfyrwyr Cymru ar ad-dalu benthyciadau myfyrwyr 2019/20
Grantiau a benthyciadau ar gyfer costau byw
Mae cymorth ar gyfer costau byw ar gael drwy gyfuniad o grantiau a benthyciadau. Bydd y cydbwysedd rhwng y rhain yn dibynnu ar incwm eich aelwyd, a byddwch yn derbyn mwy o arian grant os yw eich incwm yn is. Nid oes angen i chi ad-dalu grant, ar wahân i sefyllfa lle’r ydych wedi derbyn gordaliad. Gall hyn ddigwydd os byddwch chi'n gadael y cwrs yn gynnar neu'n rhoi'r gorau i astudio.
Telir grantiau a benthyciadau cynhaliaeth yn syth i'ch cyfrif banc ar ddechrau pob tymor. Mae angen i'ch prifysgol neu goleg gadarnhau eich presenoldeb cyn y gellir dechrau talu.
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) yn helpu gyda chostau byw, fel bwyd a rhent, wrth i chi astudio. Mae'r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm eich aelwyd ac ar eich lleoliad astudio.
Po fwyaf yw eich incwm, y lleiaf o grant y byddwch yn ei dderbyn, ond byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad cynhaliaeth uwch.
Benthyciad Cynhaliaeth
Gelwir benthyciadau i'ch helpu i dalu costau llety a chostau byw eraill yn fenthyciadau cynhaliaeth.
Gallwch gael benthyciad am y gwahaniaeth rhwng y swm o grant y byddwch yn ei dderbyn a chyfanswm y cymorth y mae myfyrwyr o Gymru yn gymwys i'w dderbyn ar gyfer costau byw.
Mae ad-daliadau benthyciadau cynhaliaeth yn gweithio yn yr un ffordd â benthyciadau ffioedd dysgu. Ar hyn o bryd, gall Llywodraeth Cymru ganslo hyd at £1,500 o falans benthyciad myfyriwr pan fydd y myfyriwr yn dechrau talu'r arian yn ôl.
Grant Cymorth Arbennig
Mae'r Grant Cymorth Arbennig (GCA) yn helpu gyda chostau fel llyfrau, cyfarpar ar gyfer y cwrs a chostau teithio, ac ni fydd yn effeithio ar swm y Benthyciad Cynhaliaeth y gallai fod gennych hawl i'w dderbyn. Nid yw'r GCA yn cyfrif fel incwm pan fyddwch chi'n cyfrifo budd-daliadau eraill sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredydau Treth.
Sut i gael mwy o wybodaeth
Mae gan Cyllid Myfyrwyr Cymru fwy o wybodaeth am gymorth i dalu costau byw a chymhwystra i dderbyn y Grant Cymorth Arbennig.
Ceir gwybodaeth am ad-dalu eich benthyciad cynhaliaeth yn GOV.UK
Bwrsariaethau, grantiau ac ysgoloriaethau
Nid oes angen i chi dalu bwrsariaeth, grant neu ysgoloriaeth yn ôl.
Yn aml rhoddir ysgoloriaethau i rai sy'n llwyddiannus iawn yn academaidd, neu sy'n rhagori mewn meysydd fel cerddoriaeth neu chwaraeon.
Fel rheol, dyfernir bwrsariaethau a grantiau i fyfyrwyr ar sail eu hamgylchiadau personol. Efallai y bydd hynny oherwydd bod eich incwm yn isel, neu am eich bod yn dod o gefndir lle bydd llai o bobl yn mynd i brifysgol.
Efallai y byddwch yn gallu ennill bwrsariaeth arbennig os ydych chi’n astudio:
- Meddygaeth, deintyddiaeth neu rai cyrsiau gofal iechyd eraill Cynlluniau bwrsariaeth GIG Cymru
- Gwaith cymdeithasol Cyllid myfyrwyr Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ysgoloriaethau am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Gallwch wneud cais am gyllid i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol os ydych yn astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Efallai y bydd gan brifysgolion a cholegau Cymru hefyd eu bwrsariaethau neu ysgoloriaethau eu hunain os ydych yn astudio rhan o'ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut i gael mwy o wybodaeth
Bydd gan wefannau prifysgolion a cholegau wybodaeth am fwrsariaethau ac ysgoloriaethau a ddarperir ganddynt. Byddant yn dweud wrthych pa feini prawf y mae angen i chi eu bodloni. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys gallwch gysylltu â nhw.
Mae ein tudalennau cwrs yn cynnwys dolenni i wybodaeth am fwrsariaethau ac ysgoloriaethau.
Cymorth Ychwanegol
Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr a allai fod angen hynny. Mae'r myfyrwyr hyn yn cynnwys:
- Rhai sy'n gadael gofal neu fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio o'u rhieni
- Myfyrwyr sydd â phlant dibynnol, neu sy'n gofalu am oedolyn
- Myfyrwyr anabl
- Myfyrwyr sy'n dod o aelwyd incwm isel
Gallant hefyd fod yn gymwys i dderbyn Grant Cymorth Arbennig.
Hepgoriadau Ffi
Hepgoriad ffi yw pan fydd prifysgol neu goleg yn talu cyfran o ffi dysgu myfyriwr, neu weithiau’n talu'r ffi yn llawn. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi fenthyca cymaint o arian.
Dyma opsiwn a allai gael ei gynnig i chi os ydych ar incwm isel.
Ceir mwy o wybodaeth am yr hepgoriad ffi rhan-amser ar wefan HEFCW.
Myfyrwyr anabl
Os ydych chi'n anabl, neu os oes gennych anghenion ychwanegol, efallai y byddwch yn gallu derbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl (LMA) i dalu unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig ag astudio. Gall hyn gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, epilepsi neu ddyslecsia.
Bydd angen i chi gael eich asesu neu gyflwyno tystiolaeth, ond mae arian ar gael i dalu am:
- gyfarpar neu feddalwedd arbenigol
- cynorthwyydd anfeddygol
- pethau eraill fydd o gymorth ichi wrth astudio, fel teithio, llyfrau ac argraffu.
Nid yw Lwfansau Myfyrwyr Anabl (LMA) yn ddibynnol ar incwm eich aelwyd, ac nid oes rhaid eu talu'n ôl.
Mae gan GOV.UK fwy o wybodaeth am gymhwystra ac uchafsymiau LMA .
Mae gan Disability Rights UK daflenni ffeithiau am y LMA a gwybodaeth arall ddefnyddiol.
Rhai sy'n gadael gofal
Dyfernir y grant cynhaliaeth uchafswm yn awtomatig i rai sy'n gadael gofal. Mae hyn yn cynnwys rhai sy'n gadael gofal a chanddynt bartner neu sy'n briod. Maen nhw hefyd yn gymwys i dderbyn benthyciad cynhaliaeth.
Bydd rhai sy'n gadael gofal sy'n astudio'n rhan-amser yn gymwys i dderbyn grant cynhaliaeth o £5,000 wedi'i rannu ar sail pa mor ddwys yw'r astudio (ee, byddai myfyriwr rhan-amser yn derbyn 50% o'r £5,000), yn ogystal â benthyciad cynhaliaeth.
Efallai y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru hefyd yn gallu darparu cymorth o Gronfa Dydd Gŵyl Ddewi. Gall hyn gynnwys cymorth ar gyfer cyfarpar, llyfrau a chostau eraill yn gysylltiedig â'r cwrs.
Gall eich cynghorydd personol, eich gweithiwr cymdeithasol neu eich gweithiwr achos roi gwybodaeth i chi am gymorth yr awdurdod lleol. Yr hyn sydd orau yw siarad â nhw'n fuan yn y broses er mwyn sicrhau bod cymorth priodol ar gael.
Elusennau
Mae rhai elusennau a sefydliadau yn rhoi cymorth i rai sy'n gadael gofal. Dyma ddau ohonynt:
Sefydlwyd Propel gan Become, yr elusen i blant mewn gofal a phobl ifanc sy'n gadael gofal, ac mae ganddi gyfoeth o wybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael ar draws y DU.
Sefydliad Unite
Mae sefydliad Unite yn gweithio mewn partneriaeth â 27 o brifysgolion ledled y DU ac yn cynnig bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Bydd angen i chi ymgeisio am y rhain, ac nid oes sicrwydd y byddwch yn derbyn unrhyw gymorth. Gallwch hefyd dderbyn cymorth gan elusennau a sefydliadau. Sefydlwyd Propel gan Become, yr elusen i blant mewn gofal a phobl ifanc sy'n gadael gofal, ac mae ganddi gyfoeth o wybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael ar draws y DU.
Bwrsariaethau prifysgol neu goleg
Fel rheol bydd gan brifysgolion a cholegau grantiau a bwrsariaethau i rai sydd wedi profi'r system ofal. Gallai'r rhain gynnwys:
- hepgor ffioedd
- gostyngiadau mewn ffioedd
- ffioedd llety gostyngol
- bwrsariaethau.
Gallwch holi'r brifysgol neu'r coleg yr ydych wedi'u dewis ynghylch yr hyn y gallech fod â hawl i'w dderbyn.
Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
Os ydych wedi ymddieithrio o'ch teulu, ni chaiff incwm eich rhieni ei ystyried wrth gyfrifo cyllid myfyriwr. Gallwch weithiau hefyd gael cymorth ychwanegol o ffynonellau eraill.
Elusen yw StandAlone sy'n cynnig cymorth i bobl ifanc (18-25 ar gyfer cyllid myfyrwyr) sydd wedi ymddieithrio o'u teulu.
www.standalone.org.uk/students
Myfyrwyr sy'n gofalu am blentyn neu oedolyn
Efallai y gallwch gael cymorth ar ffurf grant. Does dim rhaid talu'r grant yma'n ôl, ac mae'n ychwanegol at unrhyw gyllid arall yr ydych yn ei dderbyn fel myfyriwr.
Grant Gofal Plant https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael/grant-gofal-plant-a-lwfans-rhieni-sy-n-dysgu.aspx
Grant Dysgu Rhieni https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael/grant-gofal-plant-a-lwfans-rhieni-sy-n-dysgu.aspx
Grant Oedolyn Dibynnol https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael/grant-oedolyn-dibynnol.aspx
Credyd treth plant www.gov.uk/child-tax-credit
Myfyrwyr sy'n profi caledi ariannol
Efallai y bydd eich prifysgol yn rhoi arian ychwanegol i chi os ydych chi'n profi caledi ariannol. Bydd yn penderfynu a ydych yn gymwys a faint y byddwch yn ei dderbyn. Holwch y brifysgol yr ydych wedi'i dewis i weld a allwch ymgeisio.
Efallai y bydd cymorth yr ydych eisoes yn ei dderbyn yn effeithio ar eich hawl i dderbyn y cymorth hwn.
Pethau eraill i'w hystyried
Gweithio wrth astudio
Gall gweithio wrth astudio fod o gymorth. Gallwch weithio'n rhan-amser yn y brifysgol, a gweithio yn ystod gwyliau'r haf hefyd.
Gradd-brentisiaethau
Os byddwch yn dilyn gradd-brentisiaeth, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag astudio, ac yn cael eich talu am hynny.
Bydd eich cyflogwr hefyd yn talu eich ffioedd dysgu.
Mwy o wybodaeth am radd-brentisiaethau.
Cyllidebu
Efallai y byddwch yn derbyn symiau mwy o arian nag yr ydych wedi arfer eu rheoli. Mae'n
bwysig cyllidebu er mwyn gwneud i'r arian bara.
Cewch gyngor am gyllidebu gan:
Gwneud cais am gyllid myfyrwyr
Does dim angen i'ch lle fod wedi'i gadarnhau cyn dechrau ymgeisio am gyllid myfyrwyr.
Sut a phryd i ymgeisio am gyllid myfyrwyr
Mae'r dyddiadau cau wedi'u pennu er mwyn sicrhau bod yr arian ar gael i chi wrth ichi ddechrau eich cwrs. Os byddwch yn methu'r dyddiadau hyn, gallwch ymgeisio am gyllid hyd at naw mis ar ôl i chi ddechrau eich cwrs. Fodd bynnag, bydd hynny'n golygu na fyddwch yn derbyn yr arian tan hyd at chwe wythnos ar ôl i chi ymgeisio amdano.
Bydd angen cyfrif banc arnoch i ymgeisio am gyllid myfyrwyr. Ceir nifer o gyfrifon banc myfyrwyr sy’n cynnig amrywiaeth o gymhellion.
Am fwy o wybodaeth ewch i MoneySavingExpert - student bank accounts.
to top