Dros 21 ac yn dechrau'r brifysgol?

Mae addysg uwch i bawb. Mae'r bobl sy'n dechrau addysg uwch dros 21 oed (a elwir weithiau'n 'fyfyrwyr aeddfed') yn grŵp sy'n tyfu'n gyflym, ac mae'r data'n dangos mai’r grŵp oedran yma bellach sydd i gyfrif am dros draean yr holl fyfyrwyr sy'n dechrau'r brifysgol yn y DU.

Edrychwch ar ein tudalen ''pam mynd i brifysgol?' i ddysgu mwy am fanteision dychwelyd i addysg uwch.

Os ydych chi dros 21 oed a bod gennych ddiddordeb mewn dechrau ar eich taith addysg uwch, efallai y bydd gennych chi gwestiynau ynghylch pa fath o gyfleoedd dysgu sydd ar gael, effaith ariannol dechrau'r brifysgol, neu sut i ganfod amser i astudio o amgylch eich sefyllfa a'ch ymrwymiadau personol.

Parhewch i ddarllen am wybodaeth ac adnoddau i'ch helpu i wneud y penderfyniadau cywir ar eich cyfer chi.

Back
to top