Agweddau ymarferol a chefnogaeth

Os ydych chi'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl treulio cyfnod hir i ffwrdd, mae'n debygol y bydd gennych chi lawer o agweddau i'w hystyried. Mae angen i lawer o fyfyrwyr sy'n dychwelyd daro cydbwysedd rhwng astudio a gwaith a bywyd yn y cartref. Gall prifysgolion eich cefnogi drwy nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cael eu budd mwyaf o'ch taith drwy addysg uwch, a bod gennych yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Edrychwch ar ein tudalen 'Sut y byddaf yn talu amdano?' am wybodaeth am ffioedd dysgu, benthyciadau cynhaliaeth a chymorth ariannol sydd ar gael ledled y DU.

Mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael i bob myfyriwr, heb unrhyw gyfyngiad oedran, ar yr amod ei fod yn astudio ei radd gyntaf. Mae'r llywodraeth yn darparu benthyciadau cynhaliaeth er mwyn helpu i dalu costau byw fel llety a chostau'n gysylltiedig â'ch cwrs. Byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciadau hyn yn raddol ar ôl graddio, ar ôl ichi ennill dros £25,725.

Mae prifysgolion yn darparu gwybodaeth am y costau tebygol yr ydych yn debygol o'u hysgwyddo wrth ddilyn cwrs, yn ogystal â chostau llety a chostau byw. Cewch hyd i'r wybodaeth hon ar eu gwefan, a hefyd o'r tudalennau cwrs ar Darganfod Prifysgol, yn yr adran 'gwybodaeth ar wefan y brifysgol'.

Mae cyllid yn aml yn ystyriaeth bwysig i fyfyrwyr sy'n dychwelyd i fyd addysg, oherwydd gallai fod angen ichi astudio ochr yn ochr â'ch gwaith, neu gydbwyso'r gost o ddysgu ag ymrwymiadau ariannol eraill.Yn aml bydd gan brifysgolion ysgoloriaethau a bwrsariaethau wedi'u hanelu at fyfyrwyr hŷn, felly mae'n werth cysylltu â nhw i ofyn pa gymorth sydd ar gael. Mae cyllid hefyd ar gael oddi wrth y llywodraeth i rai â chyfrifoldebau gofalu.

Os oes angen llety arnoch, mae amrywiaeth ohono ar gael i fyfyrwyr. Edrychwch ar ein tudalen llety am ragor o wybodaeth.

Mae llawer o fyfyrwyr sy'n dychwelyd yn dewis astudio'n agos at adref neu'r gwaith. Mae mwy a mwy o gyrsiau addysg uwch ar gael mewn colegau addysg bellach, sy'n ehangu nifer yr opsiynau sydd ar gael yn lleol. Gallwch gael hyd i gyrsiau wrth eich ymyl chi drwy ddefnyddio'r opsiynau hidlo wrth chwilio am gyrsiau ar Darganfod Prifysgol.

Bydd angen i chi roi ystyriaeth ofalu i'r mathau o gymorth y bydd arnoch ei angen er mwyn trosglwyddo’n llyfn i astudio. Os ydych chi'n gwneud cais drwy UCAS, gallwch ddatgan rhai anghenion penodol yn rhan o'ch cais. Bydd y ffurflen gais yn esbonio'r hyn sy'n digwydd i'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn rhan o'ch cais.

Mae'n syniad da siarad â'r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr mewn prifysgolion yr ydych yn eu hystyried i drafod eich amgylchiadau penodol a gweld pa gyfleusterau a chymorth sydd ar gael. Yn ogystal â hyn, mae gan y rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau undeb neu urdd myfyrwyr. Pwrpas pennaf y rhain yw cynrychioli buddiannau myfyrwyr, a gallant roi cyngor a chymorth ichi.

Efallai yr hoffech chi hefyd fynd i ddiwrnodiau agored yn y prifysgolion sydd o ddiddordeb ichi. Dyma ffordd wych i gael ymdeimlad o faint a naws y campws lle byddwch chi'n astudio, i weld y cyfleusterau'n uniongyrchol a siarad â myfyrwyr presennol. Mae llawer o ddarparwyr yn cynnig diwrnodiau agored rhithiol os na allwch deithio i'r safle eich hun.

Os oes gennych chi deulu, neu gyfrifoldebau gofalu eraill, efallai y bydd angen elfen o hyblygrwydd yn eich astudiaethau. Mae llawer o ddarparwyr addysg uwch yn cynnig cyfleusterau gofal plant ar-safle, neu gallant eich cynghori ynghylch opsiynau gofal plant lleol y gallwch eu defnyddio wrth astudio.

Efallai y byddwch yn dymuno trafod cyflwr meddygol parhaus sydd gennych â darparydd eich cwrs. Os oes angen cymorth ar gyfer gwahaniaeth neu anabledd dysgu, bydd y tîm cymorth myfyrwyr yn gallu rhoi cymorth i sicrhau bod eich anghenion dysgu yn cael eu bodloni a bod eich cwrs yn hygyrch. Bydd hefyd yn rhoi cyngor ichi ar faterion ymarferol fel anghenion llety a pharcio ar y campws.

Mae cymorth a chyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anghenion penodol. Am ragor o fanylion, ac am ragor o wybodaeth am y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael a sut i'w geisio, edrychwch ar ein tudalennau cymorth i fyfyrwyr.

Yn ogystal â chymorth mwy ffurfiol, efallai y byddwch am gael rhagor o wybodaeth am grwpiau cymdeithasol a chymdeithasau yn eich prifysgol. Rydych chi'n debygol o ganfod bod nifer o glybiau yn cyd-fynd â'ch diddordebau ac yn eich galluogi i gwrdd â phobl eraill o'r un anian. Dylai eich undeb myfyrwyr allu eich cynghori ynghylch gweithgareddau sydd ar gael.

Back
to top