Llety

Ar gyfer rhywfaint o fyfyrwyr, gall argaeledd llety sy'n diwallu eu hanghenion penodol neu sy'n fforddiadwy fod yn rhywbeth a all gael effaith ar eu dewis o ran ble i astudio. Mae'n dod yn rhywbeth sy'n bwysig ei ystyried i bawb ar ôl iddynt ymgeisio a dechrau derbyn cynigion. Mae'r adran hon yn esbonio ychydig am lety myfyrwyr a lle y gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth.

Llety yn y brifysgol neu'r coleg

Mae nifer o fyfyrwyr yn byw mewn neuaddau preswyl neu lety o fath arall yn y brifysgol yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Mae'n cynnig cyfle iddynt gwrdd â myfyrwyr eraill a byw ar y campws neu'n agos ato yn aml.

Ceir gwahanol fathau o lety:

  • Neuaddau preswyl lle rydych yn byw gyda nifer o bobl eraill neu dai llai a rennir
  • Mewn neuaddau, llety en suite neu ystafelloedd lle rhennir ystafelloedd ymolchi
  • Llety lle darperir prydau bwyd i chi neu fflatiau a thai lle rydych yn coginio dros eich hun

Nid yw pob darparwr addysg uwch yn cynnig ei lety ei hun.

Llety preifat

Yn aml, ceir hefyd ystod eang o lety preifat sydd ar gael i fyfyrwyr. Mae gan rai dinasoedd neuaddau preswyl preifat yn ogystal â thai a fflatiau ar gael i'w rhentu.

Cost

Fel gyda mathau eraill o lety, mae cost llety myfyrwyr yn amrywio rhwng ardaloedd gwahanol. Gall hefyd fod gwahaniaethau mawr mewn cost yn dibynnu ar y math o lety rydych yn ei ddewis. Gallwch arbed llawer o arian weithiau drwy beidio â chael ystafell en suite neu drwy ddewis un o'r opsiynau rhatach. Mae llety lle darperir prydau bwyd yn fwy drud, ond mae'n cynnwys prydau bwyd.

Pa bynnag lety rydych chi'n ei ystyried, mae'n bwysig deall beth sydd wedi'i gynnwys yn y gost a pha gostau ychwanegol y bydd angen i chi eu talu o bosib.

Lleoliad

Efallai y byddwch am ystyried ym mha le mae eich llety wedi'i leoli:

  • Pa mor bell ydyw o ble y byddwch yn astudio?
  • Beth fyddai'n ei olygu o ran costau teithio neu'r amser y bydd yn cymryd i fynd i ddarlithiau?
  • Pa mor ddiogel yw'r ardal?
  • Beth sydd ar gael gerllaw?

Eich anghenion

Os oes gennych anghenion neu ddewisiadau penodol o ran llety, gwiriwch fod hyn yn rhywbeth sydd ar gael. Yn aml, ceir llety sydd wedi'i gynllunio ar gyfer:

  • Myfyrwyr anabl
  • Myfyrwyr sydd â phlant
  • Myfyrwyr y mae angen gofodau tawel arnynt

Nid yw pob llety prifysgol neu goleg ar gael y tu allan i'r tymor. Os bydd angen llety trwy gydol y flwyddyn arnoch, bydd angen i chi ddewis darparwr sy'n cynnig hyn neu ystyried rhentu yn y sector preifat.

Tebygolrwydd o gael llety

Bydd rhai prifysgolion a cholegau yn gwarantu llety ar eich cyfer yn ystod eich blwyddyn gyntaf, ond nid oes sicrwydd y byddwch yn cael eich dewis cyntaf. Os yw hyn yn ystyriaeth sy'n bwysig i chi, mae'n werth gwirio pa mor debygol ydyw y byddwch yn cael y llety rydych am ei gael neu sydd ei angen arnoch.

Gwefannau prifysgolion a cholegau

Dylai fod gwybodaeth fanwl am lety y brifysgol neu'r coleg ar ei wefan. Bydd hon yn cynnwys math, cost a lleoliad y llety. Efallai y bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am argaeledd a chost llety arall yn yr ardal.

Swyddfeydd llety

Gall swyddfa llety'r darparwr ateb cwestiynau ynglŷn â’i lety. Gall hefyd gynnig help o ran dod o hyd i lety preifat cymeradwy.

Diwrnodau agored

Ar ddiwrnodau agored, mae gennych gyfle i weld y llety dros eich hun ac i ofyn cwestiynau i fyfyrwyr amdano. Os na allwch fynd i’r diwrnod agored, ceir teithiau rhithwir weithiau ar wefan y brifysgol neu'r coleg.

Back
to top