Ar gyfer athrawon ac ymgynghorwyr

Mae Darganfod Prifysgol yn cynnig gwybodaeth i chi y gallwch ddibynnu arni i'ch helpu i gynghori eich myfyrwyr ynglŷn â’r opsiynau gorau sydd ar gael iddynt.

Mae addysg uwch yn newid o hyd a gall fod yn anodd cadw’n gyfoes o ran y mathau gwahanol o gyrsiau, y ffyrdd gwahanol o astudio, a'r opsiynau ariannu sydd ar gael.

Mae Darganfod Prifysgol yn adnodd annibynnol sy'n rhad ac am ddim. Mae wedi'i ddatblygu gan y sefydliadau sy'n ariannu a rheoleiddio addysg uwch yn y Deyrnas Unedig ar gyfer darpar fyfyrwyr a'r rheini sy'n eu cefnogi. Mae wedi'i gynllunio er mwyn eu helpu i gael synnwyr o'r wybodaeth sydd ar gael ac i ganfod a deall yr hyn sy'n berthnasol ac o gymorth iddyn nhw. Ei nod yw helpu myfyrwyr i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn ag a ddylent astudio ac, os felly, ym mha le, a’r hyn y dylent ei astudio.

Mae gan y wefan ddwy brif adran:

  • Mae'r adran gyntaf yn cynnig ffeithiau a gwybodaeth ddefnyddiol i helpu eich plentyn i benderfynu ar yr hyn sy'n iawn iddo.
  • Mae'r ail adran yn gadael iddo ddod o hyd i gyrsiau a chymharu gwybodaeth allweddol, megis enillion graddedigion a'r hyn mae myfyrwyr yn ei feddwl am y cyrsiau.

Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos bod myfyrwyr yn teimlo'n aml fel petaent yn cael eu llethu gan faint o wybodaeth sydd ar gael am addysg uwch neu maent yn ei chael yn anodd gwybod ble i ddechrau. Mae Darganfod Prifysgol yn helpu defnyddwyr i lywio trwy'r wybodaeth gymhleth hon, gan fynd â nhw drwy'r broses o wneud penderfyniad a’u cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth berthnasol.

Mae Darganfod Prifysgol yn rhoi sylw i’r broses gyfan o wneud penderfyniad hyd at wneud y cais, felly bydd gwybodaeth berthnasol ar gael i’ch myfyriwr ble bynnag y bo ar y daith honno.

Pa wybodaeth sydd ar y wefan?

Dyma rai o'r prif adrannau:

Sut byddaf yn talu amdano?

Mae'r adran hon ar gyllid myfyrwyr yn esbonio'r mathau gwahanol o gyllid sydd ar gael. Gall eich helpu i ddeall y cymorth y gallai eich plentyn ei gael i dalu am ffioedd dysgu neu ei gostau byw, a hefyd ble y gallai fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol.

Ynglŷn ag addysg uwch

Mae'r dudalen hon yn sôn am ystyr addysg uwch mewn gwirionedd ac yn esbonio'r opsiynau gwahanol ar gyfer astudio, gan gynnwys prentisiaethau.

Pam mynd i'r brifysgol?

Mae'r dudalen hon yn amlinellu rhai o fuddiannau addysg uwch i’ch helpu chi a'ch plentyn i feddwl am yr hyn y gallai ei gael ohoni.

Sut i ddewis cwrs

Bydd rhai pethau yn bwysicach i'ch myfyrwyr nag eraill wrth benderfynu ar beth i’w astudio ac ym mha le. Mae'r adran hon yn amlinellu rhai o'r prif bethau efallai yr hoffent eu hystyried ac mae'n esbonio sut mae dod o hyd i wybodaeth am y rhain a’u deall.

Mae dolenni ar wefan Darganfod Prifysgol hefyd sy’n mynd at ffynonellau gwybodaeth eraill o ansawdd da ac mae'n cynnig argymhellion ar gyfer yr hyn y gallwch ei wneud i gael mwy o wybodaeth.

Gwybodaeth am y Coronafeirws (COVID-19)

Mae'r dudalen hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am bandemig y coronafeirws, gan gynnwys sut mae hyn wedi newid trefniadau arholiadau a derbyn myfyrwyr eleni.

Rydym wedi dylunio adnoddau i fyfyrwyr, cynghorwyr ac athrawon er mwyn helpu myfyrwyr i wneud y penderfyniad gorau iddyn nhw o ran addysg uwch, Gallwch edrych ar yr adnoddau ar ein Tudalen Adnoddau i'w Lawrlwytho.

Yn yr adran hon rydym yn darparu dolenni i adnoddau defnyddiol y tu allan i Darganfod Prifysgol, i athrawon a chynghorwyr myfyrwyr sy’n chwilio am wybodaeth am addysg uwch.

Mae UCAS - Applying to University yn rhoi arweiniad ar ymgeisio i brifysgol.

Mae My Global Bridge yn canolbwyntio ar helpu ysgolion a myfyrwyr i arddangos rhinweddau y tu hwnt i’w graddau; mae'n llwyfan ddiogel wedi’i hadeiladu gan athrawon sy’n creu cyswllt rhwng ysgolion, AU/AB a diwydiant, sy’n rhoi cofnod digidol i fyfyrwyr o’u cyflawniad.

Mae Prospects - what-can-i-do-with-my-degree yn archwilio opsiynau o ran gyrfa a’r hyn y gallai gwahanol gyrsiau arwain ato.

Back
to top