Ynglŷn ag addysg uwch

Mae addysg uwch yn cynnwys dysgu ar lefel uwch ac mae angen astudio mwy annibynnol.

Mae yna lawer o wahanol ffyrdd i astudio mewn amrywiaeth eang o brifysgolion a cholegau.

Mae poblogaeth myfyrwyr y DU hefyd yn amrywiol, gyda phobl o lawer o wahanol gefndiroedd a grwpiau oedran.

I gael gwell syniad sut brofiad yw addysg uwch mewn gwirionedd, gallwch:

  • fynd i ddiwrnodiau agored
  • siarad â myfyrwyr cyfredol ar fforymau fel The Student Room neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae rhai prifysgolion yn cynnal ysgolion haf y gallech eu mynychu, neu mae ganddyn nhw raglenni eraill sy'n rhoi cyfle ichi brofi bywyd y brifysgol. Mae Ymddiriedolaeth Sutton yn cynnal ysgolion haf gyda sawl prifysgol.

Edrych ar straeon gwahanol myfyrwyr ynghylch eu profiad o fynd i'r brifysgol neu'r coleg.

Gallwch astudio drwy sawl ffordd:

Amser llawn

Mae astudio amser llawn yn golygu astudio 35-40 awr yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys amser addysgu wedi'i amserlennu ac amser astudio annibynnol, gyda rhai cyrsiau'n cynnwys cyfnodau astudio annibynnol yn bennaf.

Rhan-amser

Ar gyfer cyrsiau rhan-amser ni fydd angen treulio cymaint o oriau yn astudio bob wythnos, gan olygu bod modd i chi ffitio'r cwrs o amgylch ymrwymiadau eraill fel gwaith neu gyfrifoldebau gofalu. Bydd yr amser a dreulir yn astudio yn amrywio, ac yn dibynnu ar strwythur y cwrs.

Dysgu o bell a dysgu cyfunol

Byddwch yn dysgu ar-lein fel arfer wrth ddysgu o bell.

Cyfuniad o ddysgu o bell a dysgu wyneb yn wyneb yw dysgu cyfunol. Efallai y bydd angen i chi fynychu tiwtorialau neu dreulio diwrnodiau neu wythnosau astudio yn y brifysgol neu'r coleg.

Graddau carlam

Mae'r rhain flwyddyn yn fyrrach na'r radd baglor arferol. Mae cynnwys y cwrs yn union yr un peth, ond fe'i cynhelir yn gyflymach ac yn ddwysach, heb wyliau hir dros yr haf.

Prentisiaethau uwch a gradd-brentisiaethau

Dyma ddewis arall yn lle cymhwyster addysg uwch traddodiadol. Byddech mewn swydd amser llawn wrth ennill eich cymhwyster. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth.

Cyfleoedd eraill

Gall y cyfnod astudio mewn prifysgol neu goleg amrywio mewn sawl ffordd arall hefyd. Er enghraifft, gall cyrsiau gynnwys lleoliadau gwaith neu gyfnodau astudio dramor, a all amrywio rhwng wythnos a blwyddyn neu fwy. Weithiau bydd y rhain yn orfodol fel rhan o'r cwrs, ond dro arall yn ddewisol.

Colegau addysg bellach sy'n cynnig cyrsiau addysg uwch

Bydd y rhain fel arfer yn denu myfyrwyr o'r gymuned leol. Bydd rhai colegau'n canolbwyntio mwy ar gyrsiau ymarferol a galwedigaethol neu ar gymwysterau byrrach.

Prifysgolion

Bydd y rhain fel arfer wedi'u neilltuo ar gyfer addysg uwch ac ymchwil. Gallant amrywio llawer o ran maint, a bod wedi'u lleoli ar gampws neu mewn dinas. Maen nhw fel arfer yn ymdrin ag ystod eang o feysydd pwnc, ond gallant fod yn adnabyddus am ragori mewn pynciau penodol.

Sefydliadau a conservatoires arbenigol

Fel arfer bydd y rhain yn canolbwyntio ar bwnc penodol fel y celfyddydau perfformio, amaethyddiaeth neu fusnes, a gallant gynnig sgiliau mwy ymarferol a galwedigaethol.

Bydd cymwysterau addysg uwch yn amrywio o ran eu lefel a'r amser a gymerir i'w hennill. Fel rheol, disgrifir cymwysterau addysg uwch cyntaf fel cymwysterau gradd.

Gradd Baglor (ee BA / BSc)

Bydd hi'n cymryd tair blynedd i gwblhau gradd (neu bedair blynedd yn yr Alban) os ydych yn astudio'n llawnamser. Byddwch fel arfer yn dewis un pwnc ac yn astudio amrywiaeth o destunau o dan y pwnc hwnnw. Os ydych chi am ddewis mwy nag un pwnc, gallwch astudio gradd cyd-anrhydedd neu radd anrhydedd gyfun.

Gradd sylfaen

Bydd hi'n cymryd dwy flynedd fel arfer i gwblhau'r radd hon. Mae'n fwy galwedigaethol ac yn cynnwys dysgu seiliedig ar waith. Fe'i cynlluniwyd ar gyfer pobl sydd am astudio ochr yn ochr â'u gwaith. Mae'n bosibl troi'r radd sylfaen yn radd baglor lawn drwy dreulio blwyddyn arall yn astudio.

Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) / Diploma Cenedlaethol Uwch (HND)

Cymwysterau cysylltiedig â gwaith yw'r rhain fel arfer mewn meysydd galwedigaethol fel cyfrifyddu, ffotograffiaeth neu adeiladu. O'u hastudio'n llawnamser, bydd hi'n cymryd blwyddyn i gwblhau HNC a dwy flynedd i gwblhau HND.

Cymwysterau eraill

Bydd rhai graddau cyntaf yn cymryd mwy o amser i'w cwblhau na'r radd baglor gyffredin, fel graddau meddygaeth neu ddeintyddiaeth.

Mewn rhai pynciau gellir dilyn gradd meistr integredig. Yn lle astudio dwy radd ar wahân, byddwch yn astudio un rhaglen hirach. Bydd y rhaglen honno’n cyfuno astudiaethau israddedig a meistr ac yn arwain at gymhwyster meistr. Efallai y byddwch am astudio gradd o'r fath os ydych am fod yn beiriannydd siartredig, er enghraifft.

Mae cymwysterau addysg uwch byrrach eraill i'w cael, fel y Dystysgrif Addysg Uwch blwyddyn o hyd, CertHE, ac weithiau gellir astudio unedau unigol o fewn cwrs.

Back
to top