I rieni a gofalwyr

Mae’r wefan Darganfod Prifysgol yn darparu gwybodaeth y gallwch ymddiried ynddi i'ch helpu i gefnogi eich plentyn i wneud y penderfyniad sy'n iawn iddo.

Mae Darganfod Prifysgol yn adnodd annibynnol sy'n rhad ac am ddim. Mae wedi'i ddatblygu ar gyfer darpar fyfyrwyr a'r rheini sy'n eu cefnogi gan y sefydliadau sy'n ariannu a rheoleiddio addysg uwch yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi'i gynllunio er mwyn eu helpu i gael synnwyr o'r wybodaeth sydd ar gael ac i ganfod a deall yr hyn sy'n berthnasol ac o gymorth iddyn nhw. Ei nod yw helpu myfyrwyr i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn ag a ddylent astudio ac, os felly, ym mha le, a’r hyn y dylent ei astudio.

Mae myfyrwyr yn teimlo'n aml fel petaent yn cael eu llethu gan yr holl wybodaeth sydd ar gael ynglŷn ag addysg uwch ac maent yn nerfus ynglŷn â gwneud penderfyniad mawr. Gall rhieni a gofalwyr ei chael hi'n anodd hefyd ac weithiau nid ydynt yn gwybod y ffordd orau i helpu.

Mae addysg uwch yn newid o hyd. Gall fod yn anodd cadw’n gyfoes o ran y mathau gwahanol o gyrsiau, y ffyrdd gwahanol o astudio, a'r opsiynau ariannu sydd ar gael. Hyd yn oed os ydych wedi bod i’r brifysgol, efallai na fyddwch yn gwybod am yr ystod lawn o'r hyn sydd ar gael.

Gall Darganfod Prifysgol eich helpu i wneud synnwyr o'r holl wybodaeth sydd ar gael o ran mynd i'r brifysgol. Mae'n cwmpasu pob cam o'r penderfyniad. Pa un ai yw eich plentyn yn penderfynu a yw am fynd i addysg uwch ynteu'n gwneud ei benderfyniad terfynol o ran dewis cwrs, mae gwybodaeth ar gael sy’n berthnasol iddo.

Mae gan y wefan ddwy brif adran:

  • Mae'r adran gyntaf yn cynnig ffeithiau a gwybodaeth ddefnyddiol i helpu eich plentyn i benderfynu ar yr hyn sy'n iawn iddo.
  • Mae'r ail adran yn gadael iddo ddod o hyd i gyrsiau a chymharu gwybodaeth allweddol, megis enillion graddedigion a'r hyn mae myfyrwyr yn meddwl am y cyrsiau.

Dyma rai o'r prif adrannau:

Sut byddaf yn talu amdano?

Mae'r adran hon ar gyllid myfyrwyr yn esbonio'r mathau gwahanol o gyllid sydd ar gael. Gall eich helpu i ddeall y cymorth y gallai eich plentyn ei gael i dalu am ffioedd dysgu neu ei gostau byw, a hefyd ble y gallai fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol.

Ynglŷn ag addysg uwch

Mae'r dudalen hon yn sôn am ystyr addysg uwch mewn gwirionedd ac yn esbonio'r opsiynau gwahanol ar gyfer astudio, gan gynnwys prentisiaethau.

Pam mynd i'r brifysgol?

Mae'r dudalen hon yn amlinellu rhai o fuddiannau addysg uwch i’ch helpu chi a'ch plentyn i feddwl am yr hyn y gallai ei gael ohoni.

Sut i ddewis cwrs

Bydd rhai pethau yn bwysicach i'ch plentyn nag eraill wrth benderfynu ar beth i’w astudio ac ym mha le. Mae'r adran hon yn amlinellu rhai o'r prif bethau i'w hystyried ac mae'n esbonio sut mae dod o hyd i wybodaeth am y rhain a’i deall.

Mae dolenni ar wefan Darganfod Prifysgol hefyd sy’n mynd at ffynonellau gwybodaeth eraill o ansawdd da ac mae'n cynnig argymhellion ar gyfer yr hyn y gallwch ei wneud i gael mwy o wybodaeth.

Back
to top