Ynglŷn â Darganfod Prifysgol

Ffynhonnell wybodaeth swyddogol am addysg uwch ledled y DU yw Darganfod Prifysgol. Mae'n rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'ch cynorthwyo i gael gwybod am ddewisiadau addysg uwch a gwneud penderfyniad sy'n iawn i chi.

Caiff ei pherchnogi a’i gweithredu gan gyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch y DU, sef:

Darperir yr holl gynnwys ar Darganfod Prifysgol yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch newid rhwng ieithoedd gan ddefnyddio’r botwm ‘Cymraeg’ neu ‘English’ ar y brif ddewislen ar frig y dudalen. Yn ein cynnwys, rydym yn darparu dolenni i wefannau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi yn ein barn ni. Byddwn yn cysylltu â gwefannau Cymraeg eu hiaith lle mae hyn ar gael, ond sylwer y gallai rhai dolenni arwain at wefannau sy'n darparu Saesneg yn unig.

Mae Darganfod Prifysgol yn cynnwys ystadegau swyddogol am gyrsiau addysg uwch a gymerwyd o arolygon cenedlaethol a data a gasglwyd gan brifysgolion a cholegau am eu myfyrwyr. Mae'r set ddata Darganfod Prifysgol yn cynnwys data o'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), yr arolwg Hynt Graddedigion (GO) a'r data Deilliannau Addysg Hydredol (LEO).

Ar Darganfod Prifysgol gallwch weld gwybodaeth fel:

  • barn myfyrwyr ynglŷn â’r cwrs gan gynnwys y sgôr a roddodd myfyrwyr i ansawdd yr addysgu ar y cwrs, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cymorth academaidd, trefnu a rheoli, adnoddau dysgu, y gymuned ddysgu a llais myfyrwyr.
  • faint o fyfyrwyr sydd wedi parhau i mewn i’w hail flwyddyn?
  • pa swyddi y mae graddedigion wedi camu ymlaen iddynt ar ôl cwblhau eu gradd
  • enillion graddedigion 15 mis, 3 blynedd a 5 mlynedd ar ôl y cwrs
  • canfyddiadau graddedigion sy'n dangos a yw graddedigion yn teimlo bod eu cwrs yn cael effaith gadarnhaol ar eu gwaith ar ôl graddio.
  • y cymwysterau a phwyntiau tariff UCAS a oedd gan fyfyrwyr pan gawsant eu derbyn ar y cwrs.

Mae'r data'n rhoi mewnwelediad gan fyfyrwyr sydd wedi cael profiad a graddio o'r cwrs i helpu darpar ymgeiswyr. Gallwch ddefnyddio offeryn cymharu cyrsiau Darganfod Prifysgol i wneud cymariaethau ystyrlon i oleuo eich penderfyniadau a'ch helpu i benderfynu ar gyfer beth yr ydych yn mynd i wneud cais.

Mae' r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn arolwg blynyddol sy'n galluogi myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf i roi adborth am eu profiad yn y brifysgol neu'r coleg. Defnyddir y canlyniadau gan brifysgolion a cholegau i wella profiad myfyrwyr a gallant hefyd helpu ymgeiswyr i benderfynu rhwng cyrsiau.

Mae'r Arolwg Hynt Graddedigion yn casglu gwybodaeth gan fyfyrwyr 15 mis ar ôl iddynt orffen eu cwrs. Mae'n gofyn iddynt beth maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, faint maen nhw'n ei ennill, a beth yw eu canfyddiadau am waith ar ôl iddynt raddio o'u cwrs.

Mae'r Deilliannau Addysg Hydredol (LEO) yn set ddata o gofnodion addysg sydd wedi'u huno â data ar dreth a budd-daliadau. Mae hyn yn dangos a oedd graddedigion wedi’u cyflogi a faint o gyflog yr oeddent yn ei gael. Mae'r wybodaeth hon yn rhoi mewnwelediad i chi i brofiadau myfyrwyr a graddedigion cwrs. Gall hyn eich helpu i gyfyngu ar eich opsiynau a phenderfynu pa gyrsiau y mae arnoch eisiau gwneud cais ar eu cyfer.

Edrychwch ar y dudalen Ynglŷn â’n data i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Darganfod Prifysgol hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ansawdd a safonau prifysgolion a cholegau sy'n eich helpu i weld canfyddiadau’r adolygiad o’r brifysgol neu’r coleg gan y corff cyllido a rheoleiddio yn eu gwlad.

Gall yr wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol i chi edrych arni fel rhan o'ch ymchwil, fel bod gennych yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i wneud y penderfyniad cywir ynglŷn â’ch dyfodol. Edrychwch ar ein tudalen Ansawdd a Safonau i gael rhagor o wybodaeth.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â Darganfod Prifysgol, ebostiwch ni ar [email protected].

Back
to top