Datganiad hygyrchedd ar gyfer Darganfod Prifysgol

Mae'r Swyddfa Fyfyrwyr yn cynnal y wefan hon ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch y DU. Rydym am i gynifer o bobl ag sy'n bobl allu defnyddio'r wefan hon.

Dylech allu:

  • chwyddo hyd at 300% heb unrhyw drafferth
  • llywio'r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • cyrchu'r wefan drwy ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml ag sy'n bosibl i'w ddeall.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Dylai'r wefan hon fod yn gwbl hygyrch.

Mewn rhai rhannau, nid yw'r penawdau'n cadw at strwythur hierarchaidd llym. Gall hyn achosi i rai raglenni darllen sgrin gredu eu bod wedi colli cynnwys.

Beth i'w wneud os na allwch gyrraedd rhai rhannau o'r wefan

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cyrraedd rhannau o'r wefan hon, cysylltwch â ni yn [email protected].

Rhoi gwybod am broblemau'n gysylltiedig â hygyrchedd y wefan

Os byddwch chi'n profi problemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni yn [email protected].

Gweithdrefn orfodi

Os byddwch chi'n cysylltu â ni i wneud cwyn ac yn anfodlon â'n hymateb cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan

Mae'r Swyddfa Fyfyrwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefannau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â Safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We .

Sut y gwnaethom brofi'r wefan

Profwyd y wefan ym mis Awst-Hydref 2019 gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Back
to top