discoveruni.gov.uk
1 . Rhagair
Mae Darganfod Prifysgol (“ni”, “ninnau”, “ein”) yn adnodd annibynnol ar gyfer gwybodaeth addysg uwch yn y DU. Fe'i gweithredir gan gyrff cyllido a rheoleiddio Addysg Uwch y DU, gan gynnwys y Swyddfa Fyfyrwyr, Cyngor Cyllido’r Alban, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ac Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon).Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac i sicrhau tryloywder ynghylch pa ddata rydym yn eu casglu, sut rydym yn eu defnyddio, a'ch hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data.
2. Pwy Ydym Ni
Mae'r Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) yn gweithredu fel yr unig reolydd data ar gyfer Darganfod Prifysgol. Mae'r Swyddfa Fyfyrwyr wedi’i chofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) o dan y rhif cofrestru ZA309955.Gweler ein lleoliad a'n manylion cyswllt isod: Office for Students, Westward House, Lime Kiln Close, Bristol BS34 8SRFfôn: 0117 931 7317e-bost: [email protected] Swyddog Diogelu Data (DPO) yw'r pwynt cyswllt cyntaf i bobl y mae eu gwybodaeth yn cael ei phrosesu. Gallwch gysylltu â'r drwy ddefnyddio'r manylion uchod.
3. Gwybodaeth a Gesglir Gennym
Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol pan fyddwch chi:
- Yn rhoi adborth ynghylch gwella gwasanaeth Darganfod Prifysgol
Dyma'r wybodaeth a gaiff ei phrosesu gennym:
- Enw
- Rôl swydd (os caiff ei darparu)
- Cyfeiriad e-bost
- Adborth a roddwch am wella gwasanaeth Darganfod Prifysgol
Mae Darganfod Prifysgol hefyd yn defnyddio cwcis i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n effeithiol, ac i'w gwneud yn haws ei defnyddio.
4. Sut y Byddwn yn Defnyddio eich Gwybodaeth
Gellir defnyddio eich data personol i'r dibenion canlynol:
- I dderbyn ac ymateb i ymholiadau a'u rheoli
- I gasglu eich barn ar wefan Darganfod Prifysgol er mwyn gwella dyluniad a swyddogaeth Darganfod Prifysgol
5. Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu
Rydym yn prosesu eich data personol ar y sail gyfreithiol ganlynol:
- Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU Tasg gyhoeddus
- Erthygl 6(1)(f) GDPR y DU Buddiannau dilys
6. Mesur y defnydd o'r wefan
Mesur y defnydd o'r wefan (Google Analytics)Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ynghylch sut mae pobl yn defnyddio'r wefan hon. Rydym yn gwneud hyn i'n helpu i sicrhau ei bod yn bodloni eich anghenion ac i ddeall sut y gallem ei gwneud yn well.Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth ynghylch pa dudalennau rydych chi'n ymweld â nhw, faint o amser rydych chi'n ei dreulio ar y wefan, sut y gwnaethoch ei chyrraedd a pha ddolenni a ddilynwyd gennych. Nid ydym yn casglu nac yn storio eich gwybodaeth bersonol (e.e. eich enw a'ch cyfeiriad) felly ni ellir defnyddio'r wybodaeth hon i'ch adnabod chi. Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddol.
7. Rhannu Eich Gwybodaeth
Nid yw Darganfod Prifysgol yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon i ddibenion marchnata na masnachol.
8. Os bydd yr wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i wlad arall
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar weinyddion yn y DU ac ni chaiff ei throsglwyddo y tu allan i'r diriogaeth honno onid yw hynny'n ofynnol yn sgil gorchymyn llys.
9. Cadw Data
Rydym yn cadw gwybodaeth bersonol am uchafswm o 10 mlynedd.
10. Eich Hawliau
Ar ôl casglu eich gwybodaeth bersonol, bydd gennych hawliau penodol y gallwch eu harfer yn gysylltiedig â'r wybodaeth bersonol honno. Mae gennych yr hawl i ofyn am y canlynol:
- Copi o'ch gwybodaeth bersonol
- Cywiro gwybodaeth bersonol anghywir a gedwir amdanoch
- Dileu eich gwybodaeth bersonol
- Cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Copi o'ch gwybodaeth mewn fformat sy'n galluogi trosglwyddo hawdd ('cludadwyedd data’)
- Nad ydych chi'n destun proffilio na phenderfyniadau awtomataidd (os yw'r rheiny'n digwydd)
Ceir cyfyngiadau penodol ar yr holl hawliau hyn, yn dibynnu ar natur y cais ac ar ddibenion dal eich gwybodaeth bersonol. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn a'n prosesau ar gyfer ymdrin â cheisiadau o'r fath yn:www.officeforstudents.org.uk/privacy/individual-rights-under-the-general-data-protection-regulation/.
11. Cwynion ynghylch y defnydd o'ch gwybodaeth bersonol
Os ydych chi'n anfodlon â'r modd y mae'r Swyddfa Fyfyrwyr wedi trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni drwy ein Swyddog Diogelu Data a byddwn yn ceisio datrys eich problem yn anffurfiol.Os ydych chi'n dal yn anfodlon, gallwch gwyno i'r awdurdod goruchwylio diogelu data. Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw'r awdurdod hwnnw yn y DU. Gellir cysylltu â'r swyddfa yn:Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AFF fôn: 0303 123 1113 e-bost: [email protected]
12. Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiadau preifatrwydd yn rheolaidd a byddwn yn eich hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau i'r hysbysiad hwn drwy roi diweddariad ar ein gwefan.Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar
Mae'r cwcis canlynol yn cael eu defnyddio gan wefan Darganfod Prifysgol
Cwcis hanfodol
Defnyddir cwcis hanfodol i wneud i'r wefan gweithio.
Gofynnol ar gyfer cyflwyno ffurflenni
- csrftoken (yn dod i ben - sesiynau )
Yn storio caniatâd cwcis y defnyddiwr ar gyfer y parth presennol
- DiscoverUniAnalyticsCookies (yn dod i ben - 1 blwyddyn)
- DiscoverUniAnalyticsCookiesDeclined (yn dod i ben - 1 blwyddyn)
Cwcis dadansoddi
Defnyddir y rhain gyda'ch caniadtâd i fesur defnydd gwefan
Google Analytics
- _ga (yn dod i ben - 2 flwyddyn)_
- _gat_gtag_UA_147556197_1 (yn dod i ben- 1 blwyddyn)
- _ga_9XTF7DN7MG (yn dod i ben- 2 flwyddyn)
- _gid (yn dod i ben - 1 diwrnod )
to top