Ansawdd a safonau

Sut y mae colegau a phrifysgolion yn cael eu rheoleiddio?

Mae pob un o'r cyrff cyllido a rheoleiddio’n monitro'r prifysgolion a'r colegau yn eu gwlad.

Mae pob un yn sicrhau bod prifysgolion a cholegau’n bodloni'r ansawdd a safonau disgwyliedig trwy fonitro ansawdd y cyrsiau a chwblhau asesiadau ansawdd.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy’n goruchwylio ansawdd addysg uwch yng Nghymru. Mae'r Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru’n nodi'r mecanweithiau a ddefnyddir gan CCAUC i’w sicrhau ei hun bod ansawdd addysg yn diwallu anghenion y rhai sy'n ei chael. Fel rhan o hyn, mae sefydliadau'n cael adolygiadau sicrwydd ansawdd allanol cylchol, yn unol â'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd. Mae'r fframwaith yn seiliedig ar weithio mewn partneriaeth gyda myfyrwyr.

Mae'r fframwaith hefyd yn cynnwys gofyniad i sefydliadau gyd-fynd â'r gofynion sylfaenol canlynol:

  • Y fframweithiau ar gyfer cymwysterau addysg uwch, fel y’u nodir yng Nghod Ansawdd Addysg Uwch y DU;
  • Disgwyliadau, Arferion Craidd a Chyffredin Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU; ynghyd â datganiadau o nodweddion a datganiadau o feincnodau pynciau, lle y bo’n briodol;
  • Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru;
  • Gofynion o ran y Gymraeg;
  • Cod Llywodraethu Addysg Uwch neu god llywodraethu da ColegauCymru ar gyfer sefydliadau yng Nghymru, fel y bo'n briodol;
  • gofynion cynaliadwyedd ariannol, rheoli a llywodraethu CCAUC, a’i genhadaeth a strategaeth ar gyfer darpariaeth addysg uwch;
  • Rhwymedigaethau'r darparwyr o dan gyfraith defnyddwyr, fel a nodir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd;
  • Y canllawiau a nodir yn Fframwaith Arfer Da Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol

Gallwch weld adroddiadau asesu ansawdd y QAA trwy ddilyn y dolenni ar ein tudalennau darparwyr, yn brifysgolion a cholegau, ar Darganfod Prifysgol.

Yn Lloegr, mae'r prifysgolion a'r colegau’n cael eu rheoleiddio gan y Swyddfa Fyfyrwyr. Rhaid i unrhyw brifysgol neu goleg sydd a gofrestrwyd gyda'r Swyddfa Fyfyrwyr fodloni amodau cofrestru a byddant yn mynd trwy asesiad trylwyr i ddangos eu bod yn cyrraedd y safonau uchel sy'n ofynnol.

Gyda'i gilydd mae'r amodau hyn yn golygu y gall myfyrwyr ddisgwyl i unrhyw brifysgol neu goleg a gofrestrwyd fodloni casgliad isafswm – neu sylfaenol – o ofynion ar gyfer ansawdd eu cyrsiau. Gweler y canllaw i fyfyrwyr ar ansawdd a safonau ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.

Mae pob prifysgol a choleg ar Darganfod Prifysgol naill ai wedi’u cofrestru, neu mae ansawdd y cyrsiau a welwch yn cael ei sicrhau gan ddarparwr cofrestredig. Gweler cofrestr y Swyddfa Fyfyrwyr o ddarparwyr.

Mae'r Swyddfa Myfyrwyr yn Lloegr yn gweithredu'r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu. Mae TEF yn ymarfer y mae'r Swyddfa Fyfyrwyr yn ei gynnal i asesu ansawdd yr addysgu ar draws prifysgolion a cholegau yn y DU.

Mae'n rhoi sgôr ar y cyfan i bob sefydliad sy'n cymryd rhan: aur, arian neu efydd a sgôr ychwanegol ar gyfer profiad myfyrwyr a deilliannau myfyrwyr. Mae'r ymarfer TEF yn cael ei gwblhau bob pedair blynedd a gellir dod o hyd i'r sgoriau ar dudalen darparwyr Darganfod Prifysgol ar y wefan.

Gweler rhagor o wybodaeth am TEF.

Adran yr Economi sy'n gyfrifol am asesu ansawdd darparwyr addysg uwch yng Ngogledd Iwerddon.

Ar hyn o bryd mae Adran Addysg Gogledd Iwerddon yn ystyried model newydd o asesu ansawdd. Mae gwybodaeth am y model blaenorol isod.

Yn ateb y gofynion

Mae'r darparwr yn ateb y gofynion ar gyfer ansawdd a safonau’n llawn.

Yn ateb y gofynion gydag amodau

Mae'r darparwr yn ateb y gofynion ar gyfer ansawdd a safonau, ac mae'n rhoi cynllun gweithredu ar waith i wella mewn rhai meysydd.

Yn yr arfaeth

Nid yw canlyniad yr adolygiad blynyddol o ddarparwyr ar gyfer y darparwr hwn ar gael eto. Mae canlyniad 'yn yr arfaeth' yn golygu nad yw'r broses wedi'i chwblhau eto ar gyfer y darparwr hwn. Mae hwn yn ganlyniad niwtral ac nid yw'n dangos sefyllfa gadarnhaol na negyddol.

Ddim yn ateb y gofynion

Nid yw'r darparwr hwn yn ateb y gofynion ar gyfer ansawdd a safonau ar hyn o bryd. Mae'n destun craffu ychwanegol ac mae ganddo gynllun gweithredu i fynd i'r afael â meysydd sy'n peri pryder.

Gallwch weld canlyniadau adolygiadau blynyddol o ddarparwyr ar ein tudalennau darparwyr, yn brifysgolion a cholegau, ar Darganfod Prifysgol.

Cyngor Cyllido’r Alban (SFC) sy’n goruchwylio ansawdd addysg uwch yn yr Alban. Mae SFC yn gwneud hyn trwy bum elfen ei Fframwaith Gwella Ansawdd (QEF):

Adolygiad Sefydliadol a arweinir gan Welliant (ELIR)

Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) yn yr Alban yn cynnal adolygiadau allanol annibynnol o sut y mae prifysgolion yn sicrhau safonau academaidd ac yn gwella profiad myfyrwyr.

Adolygiad a Arweinir gan y Sefydliad (ILR)

Mae prifysgolion yr Alban yn cynnal adolygiadau pynciol mewnol ac yn adrodd yn flynyddol wrth SFC. Rhaid adolygu holl gyrsiau brifysgolion dros gyfnod o chwe blynedd.

Ymgysylltu â myfyrwyr

Annog a chefnogi myfyrwyr i rannu’n weithredol yn ansawdd eu haddysg.

Themâu gwella

Rhaglen genedlaethol o weithgareddau ar thema benodol i rannu arferion arloesol mewn dysgu ac addysgu ar draws y sector.

Gwybodaeth gyhoeddus

Sicrhau gwybodaeth eglur, gywir a hygyrch i oleuo dewis myfyrwyr, gwella ymgysylltiad myfyrwyr â gwella ansawdd, a rhoi sicrwydd ynghylch safonau.

Mae pum elfen y QEF ar y cyd yn rhoi sicrwydd cyhoeddus ynghylch diogelwch safonau academaidd ac ansawdd cyfleoedd dysgu ym mhrifysgolion yr Alban.

Gallwch weld yr adroddiadau adolygu sefydliadol a arweinir gan welliant trwy ddilyn y dolenni ar y tudalennau darparwyr, yn brifysgolion a cholegau, ar Darganfod Prifysgol.

Cynllun cenedlaethol sy'n cael ei redeg gan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) yw'r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF).

Amcan y Fframwaith yw annog prifysgolion a cholegau i gyflawni dysgu ac addysgu a deilliannau myfyrwyr rhagorol i'w holl fyfyrwyr a'u cyrsiau, gan gynnwys israddedigion.

Beth yw sgoriau’r TEF?

Mae panel o arbenigwyr, gan gynnwys aelodau sy’n fyfyrwyr, yn asesu prifysgolion a cholegau ac yn rhoi sgôr iddynt am ragoriaeth sy'n uwch na'r gofynion sylfaenol ar gyfer ansawdd eu cyrsiau a deilliannau myfyrwyr.

Yn seiliedig ar yr asesiadau hyn, gall prifysgolion a cholegau gael sgôr ar y cyfan o: 'Aur', 'Arian' neu 'Efydd' yn ogystal â dau sgôr arall, y naill ar gyfer profiad myfyrwyr a’r llall ar gyfer deilliannau myfyrwyr.

Lle na cheir rhagoriaeth uwchlaw'r gofynion sylfaenol, y canlyniad fydd bod 'Angen gwelliant' ar y brifysgol neu’r coleg i gael sgôr TEF.

Sut y penderfynir ar y sgoriau?

Mae'r panel TEF, sy'n cynnwys academyddion a myfyrwyr sy'n arbenigwyr mewn dysgu ac addysgu, yn cynnal yr asesiadau ac yn gwneud penderfyniadau am sgoriau.

Mae'r panel yn ystyried cyfuniad o ffynonellau sy'n cynnwys tystiolaeth a gyflwynwyd gan brifysgol neu goleg, tystiolaeth a gyflwynwyd gan ei f/myfyrwyr (lle y bo ar gael), a gwybodaeth o setiau data.

Pa ddarparwyr sy'n cymryd rhan yn y TEF?

Mae cymryd rhan yn y TEF yn orfodol i lawer o brifysgolion a cholegau yn Lloegr, ond nid yw pob prifysgol a choleg yn y DU yn cymryd rhan yn y TEF.

Lloegr

Efallai na fydd gan rai prifysgolion neu golegau yn Lloegr sgôr TEF er enghraifft os nad oes ganddynt yr isafswm o fyfyrwyr israddedig sy'n ofynnol i gymryd rhan (500) neu os nad ydynt yn darparu'r cyrsiau sydd o fewn cwmpas yr asesiad.

Os nad yw prifysgol neu goleg yn Lloegr wedi cymryd rhan yn TEF 2023, bydd hyn yn cael ei gyfleu ar dudalen y darparwr ar Darganfod Prifysgol.

Gallwch hefyd chwilio drwy'r porth canlyniadau TEF i weld a oes gan y brifysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi neu'r coleg y mae gennych ddiddordeb ynddo ddyfarniad TEF.

Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae prifysgolion a cholegau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu cymryd rhan yn y TEF yn wirfoddol.

Mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon eu rheoleiddiwr eu hunain sy'n monitro ansawdd a safonau'r addysgu mewn prifysgolion a cholegau. Mae pob un yn cyhoeddi adroddiad ar ansawdd a safonau darparwyr unigol y gallwch ei weld trwy ddilyn dolen o dudalennau darparwyr ar Darganfod Prifysgol.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch am y trefniadau asesu ansawdd ac ewch at wefannau'r cyrff rheoleiddio isod:

Sut all y TEF fy helpu i?

Gall y TEF helpu myfyrwyr i ymchwilio ble i astudio, trwy ddarparu gwybodaeth am y brifysgol neu'r coleg.

Fel rhan o'ch ymchwil, mae'n ddefnyddiol edrych ar y sgôr TEF gan y gall hyn roi syniad o lefel ragoriaeth y brifysgol neu'r coleg ar y cyfan a pha sgôr y maen nhw wedi'i gael o o ran profiad myfyrwyr a deilliannau myfyrwyr.

Gallwch ystyried hyn ochr yn ochr â'r ymchwil arall y byddwch yn ei gwneud, er enghraifft i’r lleoliad, y cyfleusterau, y cwrs a thrwy brofiadau fel mynd i ddiwrnod agored. Bydd hyn i gyd yn eich helpu i benderfynu beth a ble i astudio. Gweler ein canllaw i fyfyrwyr am gymorth pellach gyda sut i ymchwilio i'ch opsiynau.

I gael gwybodaeth am gyrsiau penodol, gweler tudalennau'r cyrsiau ar Darganfod Prifysgol sy'n dangos gwybodaeth fel beth mae myfyrwyr yn ei feddwl am y cwrs a beth mae graddedigion wedi mynd ymlaen i'w wneud a faint o gyflog y maent wedi mynd ymlaen i’w ennill ar ôl y cwrs.

Sut i ddod o hyd i'r sgôr TEF

Mae'r sgoriau TEF yn cael eu harddangos ar dudalennau'r brifysgol a'r coleg ar Darganfod Prifysgol.

O'r fan hon gallwch ddilyn dolen i wefan y Swyddfa Fyfyrwyr lle cewch wybodaeth fanwl gan gynnwys y dystiolaeth a gyflwynwyd gan brifysgolion, colegau a myfyrwyr (lle y bo ar gael) a gallwch hefyd ddod o hyd i ddatganiadau’r panel sy'n amlygu pam y rhoddwyd y sgôr i brifysgol neu goleg. Bydd yr wybodaeth hon ar gael ym mis Tachwedd.

Back
to top