Costau byw
Mae costau byw yn codi ac mae hynny'n creu llawer o ansicrwydd. Mae hyn yn ei gwneud hi'n fwy anodd cynllunio eich arian.
Gallai costau byw fel bwyd, ynni (trydan a nwy), rhent a chostau trafnidiaeth godi yn ystod y flwyddyn, sy'n golygu y bydd cynllunio cyllideb o gymorth ichi addasu a rheoli eich arian.
Gallwch wneud ychydig o ymchwil i'ch helpu i ddeall faint o arian ydych chi'n debygol o fod ei angen ar gyfer y flwyddyn academaidd, ac edrych ar y cymorth ariannol y mae'r llywodraeth wedi'i ddarparu i ddeall sut y gallai hynny helpu eich sefyllfa ariannol.
Mae llawer o adnoddau ar gael i'ch helpu i ymchwilio a chyllidebu - gweler isod am gymorth.
Cymorth ar gyfer costau byw
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi cymorth ariannol yn ystod yr ansicrwydd costau byw. Gweler isod:
Cynllun ynni
Grant ynni i bob aelwyd
Bydd pob aelwyd yn y DU yn derbyn gostyngiad o £400 i'w bil ynni y mis Hydref hwn, yn rhan o becyn o fesurau newydd i fynd i'r afael â'r cynnydd aruthrol mewn prisiau ynni. Mae cymorth pellach hefyd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer aelwydydd incwm isel.
Bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i fil trydan misol eich aelwyd am 6 mis, gan ddechrau ym mis Hydref 2022 i rai sydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ceir rhagor o wybodaeth gan y llywodraeth yng Nghanllawiau'r Cynllun Cymorth Ynni, gan gynnwys manylion ynghylch sut y bydd y gostyngiad yn berthnasol i rai sydd mewn llety rhent.
Bydd cartrefi yng Ngogledd Iwerddon yn cael £600 o gymorth gan lywodraeth y DU ar gyfer biliau ynni. Mae'r swm yn cynnwys £400 drwy Gynllun Cymorth Biliau Ynni Gogledd Iwerddon (EBSS NI) a'r Taliad Tanwydd Amgen o £200 (AFP). I gael rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut y byddwch yn derbyn y taliad, gweler y canllawiau cymorth ynni ar gyfer Gogledd Iwerddon (dolen yn cael ei darparu yn Saesneg).
Cap ynni
Mae mesurau i gyfyngu ar y cynnydd mewn biliau ynni wedi eu cyhoeddi ac fe fyddan nhw ar waith tan Ebrill 2023. Mae'r cynllun yn berthnasol i bob cartref yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Bydd yr un lefel o gymorth ar gael yng Ngogledd Iwerddon.
Mae disgwyl i fil ynni blynyddol cartref arferol godi i £2,500 y flwyddyn o 1 Hydref (o £1,971). Nid cyfyngiad ar faint fyddwch chi'n ei dalu yw hyn - mae'ch bil yn dibynnu ar faint o egni rydych yn ei ddefnyddio.
Cymorth ychwanegol
Cymru
Gweler y cymorth sydd ar gael ar gyfer costau byw yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £2.3 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer iechyd meddwl myfyrwyr. Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i brifysgolion i ymestyn eu gwasanaethau cyngor ariannol a chronfeydd caledi ar gyfer eu myfyrwyr ac ar gyfer y rhai sy'n symud i addysg uwch. Gweler y datganiad llawn yma.
Bydd y math o gymorth a gynigir yn amrywio ar draws darparwyr - cysylltwch â'ch prifysgol yn uniongyrchol am ragor o fanylion.
Lloegr
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi pecyn ariannol i helpu myfyrwyr gyda chostau byw. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cyllid caledi ychwanegol i ategu'r cymorth y mae prifysgolion yn ei ddarparu drwy eu cynlluniau bwrsariaeth, ysgoloriaeth a chaledi eu hunain.
- Bydd benthyciadau ffioedd dysgu yn cael eu capio ar y lefel bresennol o £9,250 am y ddwy flynedd nesaf (blynyddoedd academaidd 2023-24 a 2024-25)
- Bydd benthyciadau a grantiau i gefnogi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig gyda chostau byw a chostau eraill yn cael eu cynyddu 2.8% ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Darllenwch y datganiad llawn yma (dolen yn cael ei darparu yn Saesneg). Sylwch y bydd y cyllid caledi ychwanegol yn cael ei ddosbarthu gan brifysgolion, ac y bydd y math o gymorth yn amrywio ar draws darparwyr - cysylltwch â'ch prifysgol am ragor o wybodaeth.
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi cap newydd o £2 ar deithiau bws sengl o fis Ionawr hyd fis Mawrth 2023.
Gweler Cymorth i Aelwydydd gan y llywodraeth am ragor o wybodaeth.
Yr Alban
Yn yr Alban, ceir gwaharddiad ar droi tenantiaid allan dros y gaeaf ac mae rhenti wedi'u rhewi yn eiddo rhent y sector cyhoeddus a phreifat yn rhan o'r ymdrech i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd talu'r biliau.
Bydd prisiau tocynnau trên yn cael eu rhewi tan o leiaf fis Mawrth 2023.
Mae'r taliad plentyn wedi codi i £25 yr wythnos.
Gweler cymorth gyda chostau byw am ragor o wybodaeth.
Gogledd Iwerddon
Gweler y cymorth sydd ar gael ar gyfer costau byw yng Ngogledd Iwerddon.
Ymchwilio i gostau byw yn y brifysgol neu'r coleg
Pan fyddwch chi'n ymchwilio i brifysgolion a cholegau, gallwch edrych ar y gost o fyw yn y dref neu'r ddinas, a bydd hynny'n eich helpu i baratoi a deall faint mae pethau'n costio fel myfyriwr.
Os ydych chi'n bwriadu symud i ffwrdd i astudio, edrychwch ar yr opsiynau llety a gweld beth yw'r costau, gan ei bod hi'n debygol y bydd hyn i gyfrif am y rhan fwyaf o'ch costau byw. Gwiriwch beth yw cost y gwahanol opsiynau llety, gan gynnwys aros mewn neuadd myfyrwyr a chostau rhentu preifat yn yr ardal leol.
Bydd llety mewn neuaddau myfyrwyr yn amrywio ym mhob prifysgol: gallech gael ystafell ymolchi i chi'ch hun, neu orfod rhannu, gwely sengl neu ddwbl, gwasanaeth glanhau, prydau wedi'u cynnwys neu beidio. Fel arfer bydd llawer iawn o wahanol opsiynau, gyda rhai dewisiadau rhatach ac eraill yn fwy drud. Bydd y swyddfa lety yn y brifysgol, a gwefan y brifysgol, yn gallu darparu gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael. Mae'r tudalennau cwrs ar Darganfod Prifysgol yn cynnwys dolen i'r wybodaeth hon yn yr adran 'Gwybodaeth ar wefan y brifysgol'.
Gweler ein tudalennau Paratoi i ddechrau yn y brifysgol am ragor o wybodaeth am opsiynau llety.
Os oes angen ichi deithio'n ôl a blaen i'ch cwrs, gallwch ymchwilio i gostau teithio fel trenau, bysus ac/neu betrol.
Faint o arian fydd ei angen arna i?
Mae costau byw'n newid yn fynych. Wrth ymchwilio i gostau byw mewn lleoliad penodol, ceisiwch ganfod gwybodaeth mor gyfredol ag sy'n bosibl.
Gallwch edrych ar wefannau prifysgolion neu golegau am amcangyfrif o'r costau neu siarad â myfyrwyr sy'n astudio ar hyn o bryd yn y lleoliad rydych chi wedi'i ddewis, i holi faint maen nhw'n ei wario bob mis. Gallwch hefyd edrych ar ganllaw Save the Students, Costau byw myfyrwyr yn y DU 2023 (dolen yn cael ei darparu yn Saesneg), er ei bod hi'n bwysig nodi mai canllaw yw hwn, ac nad yw o reidrwydd yn adlewyrchu'r costau cyfredol ym mhob prifysgol neu goleg.
Ar ôl i chi gael syniad o'r hyn y gallai eich llety gostio, gallwch amcangyfrif faint fydd ei angen arnoch ar gyfer:
- Bwyd
- Biliau ynni (nwy a thrydan os ydynt ar wahân i'ch costau llety)
- Gweithgareddau cymdeithasol (cymdeithasau, aelodaeth campfa, teithiau, timau chwaraeon, mynd allan)
- Costau personol (torri gwallt, dillad, costau deintyddol, golchi dillad)
- Costau'n gysylltiedig ag astudio - (llyfrau, teithiau, cymdeithasau, deunyddiau cwrs)
- Ffôn symudol
- Teithio
- Yswiriant
- Y teledu a'r rhyngrwyd
- Treuliau eraill
Efallai y bydd biliau (fel trydan a nwy) wedi'u cynnwys yn y pris mewn rhai mathau o lety. Bryd hynny byddwch yn gwybod faint o arian fydd gennych chi ar ôl wedi ichi dalu am eich llety. Os bydd eich biliau ynni ar wahân i'ch costau llety, gallwch geisio amcangyfrif yn fras faint fydd ei angen arnoch ar gyfer trydan a nwy drwy siarad â myfyrwyr presennol a gwirio costau byw ar wefan prifysgolion, neu drwy wirio adnoddau ar-lein fel adnodd Money Saving Expert a fydd yn eich helpu i amcangyfrif costau ynni.
Rheoli arian tra byddwch yn y brifysgol neu'r coleg.
Gallwch ymchwilio i ganfod faint o arian y gallech ei gael drwy fenthyciad cynnal ar gyfer costau byw tra rydych yn y brifysgol.
Bydd y swm o arian a gewch yn ddibynnol ar ffactorau fel a ydych yn byw gyda'ch rhieni neu eich gofalwyr wrth astudio, neu a ydych yn astudio oddi cartref. Gallwch hefyd dderbyn arian ychwanegol os byddwch yn astudio yn Llundain, i dalu am y costau ychwanegol.
Gall myfyrwyr yn Lloegr ddefnyddio cyfrifiannell cyllid myfyrwyr a chanllaw 'Understanding living costs while studying at university or college’ y llywodraeth i weld faint o arian rydych chi'n debygol o'i dderbyn ar ffurf benthyciadau cynnal, neu os ydych wedi eich lleoli yn yr yr Alban, yng Nghymru neu yng Ngogledd Iwerddon gallwch gael rhagor o wybodaeth. Ar ôl ichi wybod faint o arian rydych chi'n debygol o'i dderbyn ac amcangyfrif eich treuliau, bydd gennych chi syniad gwell o faint fydd ei angen arnoch fel myfyriwr, a faint o arian fydd ei angen i dalu unrhyw gostau sy'n weddill.
Edrychwch ar ein tudalen Sut y byddaf yn talu amdano? am ragor o wybodaeth am y benthyciad cynnal.
Adnoddau i'ch helpu i gyllidebu
Mae llawer o adnoddau ar gael y gallwch eu defnyddio i'ch helpu i reoli eich arian tra rydych yn y brifysgol. Gweler yr adnoddau isod am gymorth (darperir pob dolen yn Saesneg):
-Save the Student am arweiniad ynghylch sut i gyllidebu yn y brifysgol, i ganfod adnoddau cyllidebu ac am gynghorion ar sut i wneud i'ch arian fynd ymhellach.
-Money Saving Expert am gyngor ariannol i fyfyrwyr.
-Which? am gyngor ar brifysgolion a chyngor ariannol i fyfyrwyr.
Caledi ariannol
Efallai y bydd eich prifysgol neu goleg yn rhoi arian ychwanegol ichi os ydych chi'n profi caledi ariannol. Gweler y Cyngor diweddaraf i fyfyrwyr yng Lloegr, yn yr Alban, yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon.
Eich prifysgol neu goleg sy'n penderfynu ar y swm y gallwch ei dderbyn, ac fe'i telir drwy un cyfandaliad neu randaliadau. Bydd angen ichi gysylltu ag adran gwasanaethau myfyrwyr eich prifysgol neu goleg a fydd yn rhoi gwybodaeth bellach ichi ac yn dweud a ydych yn gymwys.
Cymorth llesiannol
Gall anawsterau ariannol achosi pryder ac anesmwythyd a all effeithio ar eich iechyd meddwl. Os oes angen cefnogaeth arnoch tra rydych yn y brifysgol, mae'r gefnogaeth honno ar gael yn Student Space, lle cewch gymorth i reoli pryderon ariannol, a chyngor ar beth i'w wneud os oes gennych broblemau ariannol, gallwch gael cefnogaeth drwy neges-destun, drwy sgwrs dros y we, dros y ffôn a thrwy e-bost.
Gweler ein gwybodaeth am gyllid myfyrwyr a'n canllaw i baratoi i ddechrau prifysgol yma:
to top