Gofynion derbyn

Mae ein hadran ‘A fyddaf yn cael fy nerbyn?’ yn esbonio'r hyn mae prifysgolion a cholegau yn ei ystyried wrth benderfynu a fyddant yn cynnig lle i chi ar gwrs neu beidio. Yma rydym yn sôn am y wybodaeth sydd gennym ar y wefan Discover Uni a beth arall y dylech chwilio amdano.

Rydym yn cyhoeddi dwy set o wybodaeth ar Darganfod Prifysgol. Mae'r ddwy set yn seiliedig ar ddata a gesglir ar gyfer myfyrwyr a gychwynnodd y cwrs yn y gorffennol. Dyma'r cymwysterau a oedd gan fyfyrwyr pan gawsant eu derbyn i'r cwrs yma a 'gwerth' pwyntiau tariff UCAS y cymwysterau a oedd gan fyfyrwyr a ddechreuodd y cwrs dros y tair blynedd diwethaf.

Nid ydynt yn rhestr o gymwysterau neu bwyntiau Tariff y mae'n rhaid i rywun eu cael er mwyn cael eu derbyn ar y cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn ddefnyddiol edrych arnynt ochr yn ochr â gofynion mynediad cyfredol sydd wedi'u cyhoeddi.

Cymwysterau a ddelir wrth dderbyn

Mae hyn yn rhoi syniad i chi o'r cymwysterau yr oedd rhai a ddilynodd y cwrs yn flaenorol yn meddu arnynt. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol ichi os ydych yn meddu ar gymwysterau eraill ar wahân i Safon Uwch neu BTEC.

Pwyntiau Tariff wrth dderbyn

Dyma'r pwyntiau Tariff UCAS cyfartalog ar gyfer cymwysterau yr oedd myfyrwyr a ddechreuodd y cwrs dros y tair blynedd diwethaf yn meddu arnynt.

Mae'n bwysig gwybod bod rhai prifysgolion a cholegau'n derbyn ystod ehangach o gymwysterau er mwyn cael mynediad i'r cyrsiau, ac na roddir cyfrif am rai o'r rhain ym mhwyntiau Tariff UCAS. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n bosibl na fydd data pwynntiau tariff a ddangosir gennym ar gyfer rhai cyrsiau yn adlewyrchu gwerthoedd a graddau yr oedd rhai myfyrwyr a gafodd eu derbyn i'r cwrs wedi'u hennill. Gall hyn effeithio ar fwyafrif y cyrsiau mewn rhai sefydliadau lle ceir cyfran uwch o fyfyrwyr rhyngwladol, neu fyfyrwyr o'r tu allan i'r DU.

Defnyddir tariff UCAS wrth dderbyn i brifysgolion a cholegau, a phennir gwerth tariff i gymwysterau'n seiliedig ar eu lefel, eu maint a'r radd a enillwyd. Gallwch ddarganfod mwy am dariff UCAS a chyfrifo'r pwyntiau ar gyfer eich cymwysterau ar wefan UCAS.

Canllaw yn aml yw'r gofynion mynediad cyhoeddedig a gall graddau gwirioneddol y rhai sy'n cael eu derbyn ar y cwrs fod yn wahanol.

Mae'n bwysig nad ydych chi'n diystyru cyrsiau y gallai fod modd i chi gael eich derbyn arnynt, felly dyna pam nad oes gennym opsiwn 'chwilio ar sail gofynion mynediad'. Er enghraifft, gallech gael eich derbyn ar raddau is os ydych chi'n bodloni meini prawf penodol. Gelwir hyn weithiau'n dderbyniad cyd-destunol. Mewn derbyniadau cyd-destunol, bydd prifysgolion a cholegau'n ystyried amgylchiadau personol ymgeiswyr a all effeithio ar gyrhaeddiad academaidd, ac yn cynnig mynediad i gwrs am raddau is na'r cynnig safonol ar ei gyfer. Mae'r amgylchiadau personol a ystyrir ar gyfer cynigion cyd-destunol yn amrywio, ond gallant gynnwys y canlynol: bod y cyntaf mewn teulu i fynychu addysg uwch, rhieni ar incwm isel, yr ysgol neu'r ardal y mae ymgeiswyr yn yw ynddi, neu nodweddion personol, fel bod yn rhywun sydd wedi gadael gofal, yn ffoadur neu fod ag anabledd. Ni fydd pob prifysgol yn gwneud cynigion cyd-destunol, ac ni fydd rhai ond yn eu cynnig ar gyfer cyrsiau penodol. Bydd y meini prawf a ddefnyddir ganddynt hefyd yn amrywio, felly mae'n werth siarad ag athro neu gynghorydd ynghylch hyn a gwirio ar dudalen cwrs y brifysgol neu'r coleg i weld a yw hynny'n berthnasol.

Back
to top