A fyddaf yn cael fy nerbyn?

Nid yw llawer o bobl yn siŵr a fyddan nhw’n gallu cael mynediad i brifysgol, neu a yw'n bosibl iddyn nhw fynd i brifysgol.

Nid ar sail cymwysterau a graddau yn unig y byddwch yn cael eich derbyn ar gwrs. Yn yr adran hon byddwn yn edrych ar agweddau eraill a all effeithio ar eich siawns i gael eich derbyn ar gwrs o'ch dewis.

Ceir gofynion mynediad gwahanol ar gyfer gwahanol gyrsiau. Gall hyn roi syniad i chi pa mor hawdd neu anodd yw hi i gael eich derbyn.

Efallai y byddwch yn gallu cael eich derbyn drwy ddefnyddio cymwysterau gwahanol i'r hyn sy’n cael ei hysbysebu. Gallwch gysylltu â'r brifysgol neu'r coleg i drafod y cymwysterau sydd gennych a holi a fyddech yn cael eich derbyn.

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen ar ofynion mynediad.

Nid yw eich cymhwystra i ymgeisio am gwrs yn seiliedig ar gymwysterau Safon Uwch yn unig.

Bydd prifysgolion a cholegau yn ystyried llawer o wahanol fathau o gymwysterau, profiadau ac amgylchiadau. Cysylltwch â'r brifysgol neu'r coleg i ganfod pa gymwysterau y byddan nhw’n eu derbyn.

Os nad oes gennych chi gymwysterau ffurfiol, nid yw hynny'n golygu na fyddwch chi’n gallu mynd i brifysgol. Efallai y bydd gennych brofiad gwaith fydd yn eich galluogi i ymgeisio.

Efallai y bydd modd i chi ddilyn cwrs byr i bontio'r bwlch rhwng yr hyn yr ydych wedi'i astudio a'r hyn y mae angen i chi ei gael i fynd i'r brifysgol. Mae llawer o brifysgolion a cholegau yn cynnig y cyrsiau hyn.

Os oes gennych chi rywfaint o gymwysterau, ond nad oes gennych y cymwysterau a nodwyd, cysylltwch â'r brifysgol neu'r coleg i weld a fyddan nhw’n derbyn y cymwysterau sydd gennych chi. Mae hyn yn gyffredin ymhlith myfyrwyr sydd wedi gadael y byd addysg ers tro.

Os ydych yn 21 neu'n hŷn ac am ddychwelyd i'r byd addysg, gallech ddilyn cwrs Mynediad, fwy o wybodaeth gweler y wefan Access to Higher Education (accesstohe.ac.uk) Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar ein tudalennaudros 21 a dechrau prifysgol?'.

Ehangu mynediad a chynigion cyd-destunol:

Mae gan brifysgolion a cholegau eu polisïau eu hunain ynghylch ehangu mynediad. Bydd rhai yn ystyried amgylchiadau personol ymgeiswyr a all effeithio ar gyrhaeddiad academaidd a gallant wneud cynigion sydd angen graddau is na'r gofynion mynediad safonol ar gyfer y cwrs hwnnw.

Mae'r amgylchiadau sy'n cael eu hystyried ar gyfer cynigion cyd-destunol yn amrywio ond gall gynnwys bod y cyntaf mewn teulu i fynychu addysg uwch, incwm isel i rieni, yr ysgol neu'r ardal lle mae'r ymgeisydd yn byw, neu nodweddion personol, megis bod yn berson sy'n gadael gofal, yn ffoadur neu fod ag anabledd.

Nid yw pob prifysgol yn gwneud cynigion cyd-destunol, ac mae rhai yn eu cynnig ar gyrsiau penodol yn unig, a bydd y meini prawf maen nhw'n eu defnyddio yn amrywio.

Gallwch ddarganfod mwy am hyn drwy:

  • Edrych ar wefannau darparwyr
  • Anfon e-bost neu alw'r adran dderbyn
  • siarad â rhywun mewn diwrnod agored neu ffair prifysgol.

Mae'n dal yn bosibl i chi fynd i brifysgol os oes euogfarn yn eich erbyn.

Elusen cyfiawnder cymdeithasol yw Nacro. Mae'n cynnig gwybodaeth am ddatgelu cofnodion troseddol wrth ymgeisio i brifysgol.

Ydych chi wedi ystyried ffonio'r tîm derbyn yn y brifysgol neu'r coleg sydd o ddiddordeb i chi? Eu gwaith nhw yw eich helpu chi i ddeall eich opsiynau.

Back
to top