Canllawiau ar gyfer cymharu cyrsiau

Mae Darganfod Prifysgol yn gadael i chi gymharu data swyddogol o’r cyrsiau addysg uwch yn y DU y mae gennych ddiddordeb ynddynt, fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â dewis yr opsiwn gorau i chi.

Ar ôl i chi chwilio am eich cyrsiau a'u cadw ar Darganfod Prifysgol, byddwch yn gallu eu cymharu gan ddefnyddio’r offeryn cymharu cyrsiau. Mae'r offeryn yn eich galluogi i gymharu gwybodaeth ar gyfer hyd at saith cwrs ar y tro.

Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i gymharu cyrsiau gan ddefnyddio'r data a ddarperir gennym fel rhan o'ch gwaith ymchwil a'ch proses benderfynu. Mae'n cynnwys rhai pethau pwysig y mae angen i chi eu hystyried:

  • Mae’r data ar gyfer cyrsiau’n cyflwyno ciplun ar adeg mewn amser; efallai y bydd eich profiad chi’n wahanol.
  • Mae'n bwysig cymryd amser i ddeall y data ar gyfer cyrsiau, neu feysydd pwnc a sut y mae'n cyd-fynd â'r wybodaeth arall sydd ar gael am y cyrsiau a'r prifysgolion neu'r colegau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Fel y modiwlau a'r opsiynau a gynigir gan wahanol gyrsiau a pha rai sy'n apelio atoch chi.
  • Bydd y myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a holwyd yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2023 wedi profi amhariad yn ystod eu cwrs, gan gynnwys cyfyngiadau symud COVID ac efallai y bydd rhai wedi wynebu amhariad o ganlyniad i weithredu diwydiannol a effeithiodd ar addysgu ac asesiadau. Ni ddangosodd adolygiad o ganlyniadau'r NSS unrhyw dystiolaeth o gyfnewidioldeb annisgwyl yn y canlyniadau. Mae’r arolwg NSS yn gwahodd myfyrwyr i fyfyrio ar eu profiad fel myfyriwr yn ei gyfanrwydd – a gellir tybio bod llawer wedi ymateb ar y sail honno, felly efallai y bydd effaith y pandemig a/neu weithredu diwydiannol ar feddyliau rhai myfyrwyr.

Gallwch gael gwybod am y data yr ydym yn ei gyhoeddi ar ein tudalen 'Ynglŷn â'n data'.

Darllenwch ymlaen ar gyfer ein canllawiau ynghylch sut i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'n hofferyn cymharu. i weld sut mae ein hofferyn cymharu cyrsiau’n gweithio.

I ddechrau, dyma ein prif awgrymiadau:

  • Mae rhywfaint o ddata’n benodol ar gyfer y cwrs hwnnw, tra bod data arall ar gyfer y cwrs hwnnw a chyrsiau tebyg eraill yn yr un maes pwnc a sefydliad, a fydd yn dal i roi syniad da o farn myfyrwyr.
  • Mae arolygon yn adlewyrchu adeg benodol mewn amser. Mae'n bosibl y byddai rhai myfyrwyr yn ymateb yn wahanol ar ddiwrnod gwahanol. Gall ddarparu rhan ddefnyddiol o'r darlun, ond nid y darlun cyfan. Dylech drin yr wybodaeth a gyflwynir fel canllaw defnyddiol, ond gall eich profiad a/neu eich gofynion chi fod yn wahanol i fyfyrwyr blaenorol.
  • Ceisiwch gadw mewn cof wrth gymharu cyrsiau pa un a yw'r data rydych chi'n edrych arno’n ddata o un flwyddyn ynteu’n ddata o ddwy flynedd. Mae data dros ddwy flynedd yn golygu ei fod gan nifer uwch o fyfyrwyr, ond mae hefyd gan fyfyrwyr o wahanol grwpiau blwyddyn.
  • Mae pob carfan o fyfyrwyr sy'n cael eu recriwtio i gwrs yn wahanol, a gall hyn ddylanwadu ar ddata'r arolwg. Gall fod llawer o resymau pam fod gan unigolyn farn benodol ac efallai na fydd yn seiliedig ar feini prawf sy'n bwysig i bawb.
  • Cymerwch amser i ddeall data'r cyrsiau a sut y mae'n cyd-fynd â'r wybodaeth arall sydd ar gael am y cyrsiau a'r prifysgolion neu'r colegau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
  • Dylech drin yr wybodaeth a gyflwynir fel canllaw defnyddiol, ond cofiwch - gall eich profiad a'ch gofynion chi fod yn wahanol i rai myfyrwyr blaenorol.

Wrth gymharu dau gwrs neu fwy, mae rhai cwestiynau allweddol y gallwch eu gofyn i chi eich hun am y data:

Lle bynnag y bo'n bosibl, rydym bob amser yn ceisio dangos data ar gyfer y cyrsiau penodol yr ydych yn eu cymharu. Ein polisi yw cyhoeddi data sy'n seiliedig ar o leiaf 10 myfyriwr ac, yn achos data arolwg, gan o leiaf hanner y myfyrwyr ar gwrs. Pan nad yw hyn yn bosibl ar gyfer cwrs penodol, er enghraifft, os nad oes digon o fyfyrwyr ar gwrs Sbaeneg, byddwn yn dangos y canlyniadau ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n astudio ieithoedd yn y sefydliad hwnnw yn lle hynny. Rydym bob amser yn labelu'r data yn ofalus i sicrhau eich bod chi’n gwybod pan fyddwn yn dangos data ar gyfer maes pwnc yn hytrach na data ar gyfer cwrs.

AWGRYM: Mae peth data yn benodol ar gyfer y cwrs hwnnw, tra bo peth data ar y cwrs hwnnw a chyrsiau tebyg eraill yn yr un maes pwnc a fydd yn dal i roi syniad da o farn myfyrwyr. Mae data dros ddwy flynedd yn golygu ei fod gan nifer uwch o fyfyrwyr, ond mae hefyd gan fyfyrwyr mewn grwpiau blwyddyn gwahanol.

Mae'r data y byddwch yn ei weld yn dod o un neu ddwy garfan o fyfyrwyr, sy'n golygu y gallai peth data fod ar gyfer un grŵp blwyddyn o fyfyrwyr neu fod yn ddata gan ddau grŵp blwyddyn o fyfyrwyr. Bydd hyn bob amser yn glir o'r ffordd y mae’r data wedi’i labelu. Rydym yn dangos data ar gyfer dwy flynedd pan nad oes digon o fyfyrwyr mewn un flwyddyn o ddata i ni ei gyhoeddi.

Dim ond o un flwyddyn y mae’r canlyniadau a ddangosir gennym ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Daw'r data hwn o’r arolwg o fyfyrwyr 2023, sydd wedi'i ddiweddaru a'i newid o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol i gynnwys cwestiynau newydd neu wedi'u diweddaru ac opsiynau ymateb gwahanol. Gan bod yr arolwg yn newydd, nid yw'n ddilys cyfuno data â blynyddoedd blaenorol.

Mae ein data Enillion, Cyflogaeth a Chanfyddiadau Graddedigion yn cael ei gymryd o'r arolwg diweddaraf o raddedigion. Ein nod yw cyhoeddi data o un flwyddyn yn unig, ond efallai y byddwn yn cyfuno data o'r arolwg blaenorol pan nad oes digon o fyfyrwyr mewn un flwyddyn o ddata i ni ei gyhoeddi. Bydd hyn bob amser wedi ei labelu'n glir lle mae'r data'n cael ei arddangos.

Mae'r data 'Gwybodaeth mynediad' ac 'Ar ôl 1 flwyddyn' a ddangosir gennym naill ai wedi'i gymryd o un flwyddyn academaidd neu wedi'i gyfuno dros ddwy flynedd. Bydd hyn bob amser wedi ei labelu'n glir lle mae'r data'n cael ei arddangos. Rydym yn dangos data ar gyfer dwy flynedd pan nad oes digon o fyfyrwyr mewn un flwyddyn o ddata i ni ei gyhoeddi.

AWGRYM: Ceisiwch gofio wrth gymharu cyrsiau pa un a yw'r holl ddata rydych chi'n ei gymharu yn dod o un flwyddyn ynteu o ddwy flynedd. Mae data dros ddwy flynedd yn golygu ei fod gan nifer uwch o fyfyrwyr, ond mae hefyd gan fyfyrwyr mewn grwpiau blwyddyn gwahanol.

  • Mae gan gyrsiau niferoedd gwahanol o fyfyrwyr sy'n astudio arnynt. Mae pob darn o ddata ar y wefan Darganfod Prifysgol wedi'i labelu â nifer y bobl y mae'n seiliedig arnynt. Mae rhai cyrsiau’n fwy, ac mae rhai’n llai. Ein polisi yw dim ond cyhoeddi data sy’n seiliedig ar o leiaf 10 myfyriwr. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau na ellir adnabod ymatebion unigolion.

  • Edrychwch yn ofalus i weld ar faint o fyfyrwyr y mae ffigwr wedi'i seilio. Wrth feddwl am yr hyn y gall y data ei ddweud wrthych am gwrs, mae mwy o bobl yn golygu ei fod yn debygol o roi darlun cliriach o brofiad y myfyrwyr. Hefyd ystyriwch ganran y myfyrwyr a ymatebodd i'r arolwg. Eto, po uchaf fo'r ganran o fyfyrwyr ar gwrs sy'n cymryd rhan yn yr arolwg, po fwyaf tebygol ydyw o roi darlun mwy eglur o brofiad myfyrwyr.

  • Pan fydd data’n seiliedig ar nifer fach o ymatebion i arolwg yn unig, fel gydag unrhyw wybodaeth gan nifer fach o bobl, mae'n ganllaw defnyddiol, ond dylid ei drin yn ofalus.

AWGRYM: Mae pob carfan o fyfyrwyr sy'n cael eu recriwtio i gwrs yn wahanol a gall hyn ddylanwadu ar ddata'r arolwg. Gall fod llawer o resymau pam fod gan unigolyn farn benodol ac efallai na fydd yn seiliedig ar y meini prawf sy'n bwysig i bawb.

Mae data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) a’r arolwg Hynt Graddedigion (GO) ar dudalen y cwrs a'r dudalen gymharu’n seiliedig ar ymatebion i'r arolygon. Arolygon yw un o'r ffyrdd gorau o gael gwybodaeth gan lawer o bobl ond, yn ôl eu natur, nid ydynt yn casglu barn pawb ar y cwrs. I gyhoeddi data o’r arolygon NSS a GO, rhaid i ni gael ymatebion gan o leiaf 10 myfyriwr ar gwrs a chan o leiaf hanner y myfyrwyr ar gwrs. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau ei fod yn cynrychioli’r myfyrwyr ar y cwrs.

Fodd bynnag, fel pob arolwg, mae siawns bob amser nad yw'r data a ddangoswn yn cynrychioli barn na deilliannau'r holl fyfyrwyr ar y cwrs neu'r pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo. Mae tri rheswm dros hyn:

  • Cyfran y myfyrwyr a gwblhaodd yr arolwg: os ymatebodd pawb ar y cwrs i'r arolwg, gallwn fod yn sicr iawn bod yr wybodaeth yn gyflawn ac yn cynrychioli barn yr holl fyfyrwyr a wnaeth y cwrs; fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn wir. Nid ydym yn gwybod beth yw barn y bobl nad ymatebodd i'r arolwg, ac mae hyn yn creu ansicrwydd. Bob tro y byddwn yn cyflwyno data arolwg, rydym hefyd yn dweud wrthych faint o bobl a ymatebodd. Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i helpu i benderfynu pa mor gyflawn yw'r data. Po uchaf fo'r gyfradd ymateb, po fwyaf cynrychioliadol fydd y canlyniadau.
  • Gall barn pobl newid: nid ydym yn gwybod faint o ymateb pob person a bennwyd gan bethau a all newid – fel eu hwyliau neu'r tywydd. Felly nid ydym yn gwybod a fyddai'r bobl a ymatebodd i'r arolwg yn rhoi'r un atebion pe byddem yn gofyn cwestiynau'r arolwg iddynt eilwaith. Allwn ni ddim gofyn i bobl wneud yr un arolwg ddwywaith, felly'r ffordd orau o gwmpas y math yma o ansicrwydd yw gofyn i lawer o bobl. Dylai hyn ddiddymu gwahaniaethau.
  • Effaith y pandemig a gweithredu diwydiannol: Bydd y myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a holwyd yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn 2023 wedi profi amhariad yn ystod eu cwrs o ganlyniad i gyfyngiadau symud COVID ac efallai y bydd rhai wedi wynebu amhariad o ganlyniad i weithredu diwydiannol a effeithiodd ar addysgu ac asesiadau. Ni ddangosodd adolygiad o ganlyniadau'r NSS unrhyw dystiolaeth o gyfnewidioldeb annisgwyl yn y canlyniadau. Mae’r arolwg NSS yn gwahodd myfyrwyr i fyfyrio ar eu profiad fel myfyriwr yn ei gyfanrwydd – a gellir tybio bod llawer wedi ymateb ar y sail honno, felly efallai y bydd effaith y pandemig a/neu weithredu diwydiannol ar feddyliau rhai myfyrwyr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y data rydym yn ei gyhoeddi yn ein hadran 'Ynglŷn â'n Data'.

AWGRYM: fel gydag unrhyw wybodaeth gan nifer fach o bobl, dylid trin data'r arolwg ar Darganfod Prifysgol â phwyll pan fo’n seiliedig ar nifer fach o ymatebion yn unig.

Daw'r data a ddefnyddiwn i gyflwyno'r ffigyrau ar Darganfod Prifysgol o garfannau penodol o fyfyrwyr mewn blwyddyn benodol. Gall y myfyrwyr hyn fod yn debyg i chi neu beidio. Efallai y byddant yn gwerthfawrogi gwahanol agweddau ar eu cyrsiau nag y byddech chi'n eu gwerthfawrogi neu roi llai o bwyslais ar y deilliannau sy'n bwysig yn eich barn chi. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y gallai eu hymatebion i'r arolwg fod yn wahanol i'r ymatebion y byddech chi wedi'u rhoi pe baech wedi dilyn yr un cwrs. Efallai y bydd gennych hefyd anghenion neu ddiddordebau penodol nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn y data sydd gennym ar gyfer cwrs.

AWGRYM: Mae arolygon yn adlewyrchu adeg mewn amser - mae'n bosibl y byddai rhai ymatebwyr yn ymateb yn wahanol ar ddiwrnod gwahanol, mae'n gallu darparu rhan ddefnyddiol o'r darlun, ond nid y darlun cyfan. Cymerwch amser i ddeall y data ar gyfer cyrsiau a sut y mae'n cyd-fynd â'r wybodaeth arall sydd ar gael am y cyrsiau a'r prifysgolion neu'r colegau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Dylech drin y wybodaeth a gyflwynir fel canllaw defnyddiol, ond gall eich profiad a/neu ofynion fod yn wahanol i fyfyrwyr blaenorol.

Back
to top