Ynglŷn â'n data

Mae'r data ar Darganfod Prifysgol yn ystadegau swyddogol a grynhowyd o ffynonellau dibynadwy ac a gyhoeddir yma i helpu darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u wrth ddewis cwrs a phrifysgol/coleg.

Cymerir y data o arolygon cenedlaethol a data a gesglir gan brifysgolion a cholegau am eu holl fyfyrwyr.

Mae'r dudalen hon yn esbonio o ble y daw'r data a'n hymagwedd at ei gyhoeddi.

Cywiriad i ddata’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Mae gwall prosesu data gan JISC (a adwaenid yn flaenorol fel HESA) wedi cael ei gywiro ac mae hyn wedi arwain at ddiweddaru sgoriau yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) ar gyfer rhai cyrsiau ers iddynt gael eu cyhoeddi gyntaf ym mis Hydref 2023.

Digwyddodd y gwall am bod nifer o fyfyrwyr a’u hymatebion i’r arolwg NSS wedi cael eu cyfrif ddwywaith wrth brosesu’r canlyniadau.

Cafodd y sgoriau yng nghwestiynau’r NSS ar gyfer yr holl gyrsiau yr effeithiwyd arnynt eu cywiro a’u diweddaru ar 20 Rhagfyr 2023. Mae baner gwybodaeth wedi cael ei gosod ar frig tudalen pob cwrs yr effeithiwyd arno ar Darganfod Prifysgol.

Sut yr effeithiwyd ar y data?

  • Fe wnaeth y gwall prosesu achosi i’r canlyniadau a gyhoeddwyd ar gyfer rhai o gwestiynau'r NSS ar gyfer rhai cyrsiau fod yn uwch neu’n is nag oeddent mewn gwirionedd. Cywirwyd y rhain ac maent wedi cael eu cyhoeddi ar dudalennau cyrsiau Darganfod Prifysgol ers 20 Rhagfyr 2023.
  • Mae cywiro’r data wedi newid ffigwr cyfanredol rhai o sgoriau’r NSS ar gyfer rhai cyrsiau gan gynnwys un cwrs sydd, o ganlyniad, heb ddigon o ddata i gyhoeddi canlyniadau NSS.
  • Ar gyfer nifer fach o gyrsiau a gyhoeddir ar lefel pwnc (h.y. ar gyfer yr holl gyrsiau mewn pwnc mewn darparwr), fe wnaeth cywiro’r data effeithio ar y canlyniadau ar gyfer cyrsiau eraill yn yr un pwnc hefyd. Gweler ein hadran ‘deall y data’ isod am ragor o wybodaeth sy’n egluro pam y gall data gael ei gyhoeddi ar lefel pwnc.


Arolwg blynyddol yw’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) sy'n gofyn i fyfyrwyr ar eu blwyddyn olaf roi adborth am eu profiad yn y brifysgol neu'r coleg. Defnyddir y canlyniadau gan brifysgolion a cholegau i wella profiad myfyrwyr a gallant hefyd helpu ymgeiswyr i benderfynu rhwng cyrsiau.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan Ipsos MORI ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch y DU.

Mae'r arolwg yn un o'r mwyaf o'i fath yn y byd. Mae'n gofyn cwestiynau i fyfyrwyr yn y DU am ystod o ffactorau sy'n gysylltiedig â'u profiad academaidd, gan gynnwys yr addysgu ar eu cwrs, asesu ac adborth, a pha mor dda y trefnir cyrsiau. Mae cwestiynau uniongyrchol newydd gyda graddfeydd ymateb eitem-benodol wedi'u cyflwyno hefyd i wella dealltwriaeth myfyrwyr ac i wella cywirdeb y canlyniadau.

Ynglŷn ag arolwg 2023

Cafodd yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ei ddiweddaru yn 2023 yn dilyn adolygiad mawr ac ymgynghoriad. O ganlyniad, mae cwestiynau'r arolwg a'r graddfeydd ymateb wedi newid ar gyfer NSS 2023. Mae'r arolwg wedi’i ddiweddaru’n gofyn cwestiynau i fyfyrwyr yn y DU am ystod o ffactorau sy'n gysylltiedig â'u profiad academaidd, gan gynnwys yr addysgu ar eu cwrs, asesu ac adborth, a pha mor dda y trefnir cyrsiau. Roedd arolwg 2023 hefyd yn gofyn i fyfyrwyr am wasanaethau lles meddyliol ac, yn Lloegr, am ryddid mynegiant am y tro cyntaf. Mae cwestiynau uniongyrchol newydd gyda graddfeydd ymateb eitem-benodol wedi'u cyflwyno hefyd i wella dealltwriaeth myfyrwyr ac i wella cywirdeb y canlyniadau.

Mae'r newidiadau’n cynnwys:

  • Ar gyfer y rhan fwyaf o gwestiynau yn yr arolwg, gofynnwyd i'r ymatebwyr ateb cwestiynau uniongyrchol ar fesur positifrwydd ac iddo bedwar pwynt, yn amrywio o 'yn dda iawn' i 'ddim yn dda iawn', ac opsiwn arall: 'Nid yw hyn yn berthnasol i mi'.
  • cwestiwn newydd ar wasanaethau lles meddyliol
  • cwestiwn newydd ar 'Rhyddid mynegiant', a ofynnir i fyfyrwyr yn Lloegr yn unig
  • gofynnir y cwestiwn 'Boddhad cyffredinol' i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig

Gallwch ddarganfod mwy am adolygiad ac ymgynghoriad yr NSS yma.

Canlyniadau NSS 2023:

  • Mae canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr eleni’n dangos cyfradd ymateb o 71.5%, ar y cyfan gyda thros 339,000 o fyfyrwyr yn cwblhau'r arolwg ar eu profiadau o addysg uwch.

  • Oherwydd y newidiadau yn y cwestiynau a'r opsiynau ymateb, ni ellir cymharu canlyniadau NSS 2023 yn syml â'r rhai o flynyddoedd cynharach. Yn benodol, mae dileu'r opsiwn ymateb "niwtral" yn 2023 yn golygu y byddem yn disgwyl i fwy o fyfyrwyr ymateb yn gadarnhaol yn 2023, ni waeth pa newid a fu ym mhrofiad y myfyrwyr.

  • Mae'r myfyrwyr wedi ymgysylltu â'r holiadur newydd. Mae'r cyfraddau ymateb yn dal i fod yn uchel, a chyfraddau gadael yn ystod yr arolwg yn isel. Mae myfyrwyr wedi defnyddio'r ystod lawn o opsiynau ymateb, ac anaml y maent yn dweud nad yw cwestiwn yn berthnasol iddynt.

Cynhaliwyd yr arolwg hwn rhwng 11 Ionawr a 30 Ebrill 2023, ond bydd y myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a holwyd wedi profi amhariad yn ystod eu cwrs o ganlyniad i gyfyngiadau symud COVID ac efallai y bydd rhai wedi wynebu amhariad o ganlyniad i weithredu diwydiannol a effeithiodd ar addysgu ac asesiadau. Ni ddangosodd adolygiad o ganlyniadau'r NSS unrhyw dystiolaeth o gyfnewidioldeb annisgwyl yn y canlyniadau. Mae’r arolwg NSS yn gwahodd myfyrwyr i fyfyrio ar eu profiad fel myfyriwr yn ei gyfanrwydd – a gellir tybio bod llawer wedi ymateb ar y sail honno, felly efallai y bydd effaith y pandemig a gweithredu diwydiannol ar feddyliau rhai myfyrwyr.

Gallwch ddarllen canlyniadau llawn NSS 2023 a gweld canlyniadau'r NSS ar lefel cwrs ar Darganfod Prifysgol.

Data cyrsiau NSS ar Darganfod Prifysgol

Mae Darganfod Prifysgol yn cyhoeddi data ar gyfer y cwestiynau canlynol:

  • Addysgu ar fy nghwrs
  • Cyfleoedd dysgu
  • Asesu ac adborth
  • Cymorth academaidd
  • Trefnu a rheoli
  • Adnoddau dysgu
  • Llais myfyrwyr
  • Gwasanaethau lles meddyliol
  • Rhyddid mynegiant (ar gyfer myfyrwyr yn Lloegr yn unig)
  • Boddhad cyffredinol (ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig)

Yn flaenorol, rydym wedi dangos data a gymerwyd o'r flwyddyn ddiweddaraf neu sydd wedi'i gyfuno dros ddwy flynedd pan nad oes digon o fyfyrwyr mewn un flwyddyn o ddata i ni ei gyhoeddi. Fodd bynnag, mae'r NSS yn 2023 yn fersiwn hollol newydd o'r arolwg, felly mae llawer o gwestiynau’n newydd, neu mae'r geiriad wedi'i newid. Er bod rhai o'r cwestiynau yr un fath (neu'n debyg iawn), mae'r opsiynau ymateb yn wahanol. Gweler holiadur NSS 2023 a rhagor o wybodaeth am set ddata NSS 2023. Gan bod arolwg 2023 wedi'i ddiweddaru, nid yw'n ddilys cymharu ymatebion i gwestiynau na chyfuno data o NSS 2023 â'r rhai o flynyddoedd blaenorol. Felly, mae data'r NSS a ddangosir ar Darganfod Prifysgol yn ddata ar gyfer un flwyddyn, a gymerwyd gan fyfyrwyr a oedd ar flwyddyn olaf eu cwrs addysg uwch yn ystod blwyddyn academaidd 2022-2023.

Cyn i ni gyhoeddi unrhyw ffigyrau yn seiliedig ar yr NSS, rydym yn sicrhau yn gyntaf bod o leiaf 10 o bobl wedi ymateb ar gyfer y cwrs neu'r pwnc yr adroddir arno a'u bod yn rhoi cyfrif am o leiaf hanner (50%) y bobl a allai fod wedi ymateb.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd digon o ddata ar gael ar gyfer cwrs i'w gyhoeddi, neu efallai y bydd gan y cwrs sawl achos o ddata sy'n gysylltiedig ag ef (er enghraifft, rhai cyrsiau cyd-anrhydedd). Yn yr achosion hyn, efallai y byddwn yn grwpio data ar gyfer y pwnc hwnnw dros ddwy flynedd yn lle hynny. Gweler ein hadran 'deall y data' isod am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn arddangos y data ar ein tudalennau cyrsiau.

Prifysgol Glasgow Caledonian

Oherwydd gwall o ran gweinyddu’r arolwg yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023, ni ofynnwyd cwestiwn 28 ('Boddhad Cyffredinol') i’r mwyafrif o’r ymatebwyr i’r arolwg o Brifysgol Glasgow Caledonian. Rydym felly wedi disodli canlyniadau Glasgow Caledonian ar gyfer y cwestiwn hwn â'r canlyniadau ar gyfer y cwestiwn Boddhad Myfyrwyr ar y Cyfan yn arolwg 2022. Mae hyn wedi'i labelu'n glir ar bob cwrs ar gyfer y sefydliad hwn. Mae holl ganlyniadau eraill yr NSS yr ydym yn eu cyhoeddi ar gyfer cyrsiau ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian yn dod o arolwg NSS 2023. Nid bai'r darparwr oedd y gwall ac nid yw'n adlewyrchu ar ansawdd y darparwr. Nid effeithiwyd ar unrhyw ddarparwyr na chwestiynau eraill gan y camgymeriad hwn.

Mae'r arolwg Hynt Graddedigion (GO) yn casglu gwybodaeth gan fyfyrwyr 15 mis ar ôl iddynt orffen eu cwrs. Mae'n gofyn iddynt beth maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, faint maen nhw'n ei ennill, ac yn eu holi am eu canfyddiadau am waith ar ôl iddynt raddio o'u cwrs. Mae'r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Mae ein tudalen 'enillion a chyflogaeth' yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r data a ddarperir ar Darganfod Prifysgol.

Daw'r data a ddangoswn ar Darganfod Prifysgol o'r arolwg Hynt Graddedigion diweddaraf, sy'n cynnwys graddedigion a orffennodd eu cyrsiau addysg uwch rhwng mis Awst 2020 a mis Gorffennaf 2021. Weithiau cyfunir y data yma â data arolwg o'r arolwg Hynt Graddedigion blaenorol (a gynhaliwyd gyda graddedigion 2019-20). Rydym yn cyfuno dwy flynedd o ddata arolwg pan nad oes digon o fyfyrwyr yn y flwyddyn ddiweddaraf o ddata i ni ei gyhoeddi. Bydd wedi’i nodi ar bob tudalen cwrs pa un a yw'r data'n defnyddio un flwyddyn neu ddwy flynedd o ddata'r arolwg. Rydym yn defnyddio data Hynt Graddedigion i grynhoi'r ystadegau mewn sawl adran ar ein tudalennau cyrsiau. Cyn i ni gyhoeddi unrhyw ffigyrau yn seiliedig ar yr arolwg Hynt Graddedigion, rydym yn sicrhau yn gyntaf bod o leiaf 10 o bobl wedi ymateb ar gyfer y cwrs neu'r pwnc yr adroddir arno a'u bod yn rhoi cyfrif am o leiaf hanner (50%) y bobl a allai fod wedi ymateb.

Fe wnaeth HESA, a gynhaliodd yr arolwg, adolygu data’r arolwg ar gyfer effeithiau'r pandemig ar brofiad y graddedigion hyn. Ni chanfu HESA ryw lawer o newid yn y data y gellid ei briodoli'n gadarn i'r pandemig yn hytrach nag amrywiad arferol o un flwyddyn i’r llall.

Roedd canfyddiadau allweddol adolygiad HESA fel a ganlyn:

  • Er bod cyfraddau ymateb yn amrywio ar draws y carfannau o fyfyrwyr a arolygwyd, ni welwyd unrhyw newidiadau mawr yn y gyfradd ymateb sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â COVID-19
  • Parhaodd canlyniadau'r arolwg i ddilyn y duedd yn 2019/20 tuag at adferiad
  • Y gyfradd cyflogaeth lawn-amser yn 2020/21 yw'r uchaf ers dechrau'r arolwg Hynt Graddedigion.
  • Mae graddedigion 2020/21 yn fwy tebygol na graddedigion 2019/20 o fod mewn gwaith llawn-amser ac yn llai tebygol o fod yn ddi-waith neu’n gwneud astudiaethau pellach llawn-amser.
  • Ychydig iawn o newid cyffredinol y mae HESA yn ei weld ym myfyrdodau graddedigion ar eu gweithgareddau.

Yn yr adran 'Enillion ar ôl y cwrs'

Yn yr adran hon, defnyddir data Hynt Graddedigion i gyflwyno enillion cyfartalog graddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen eu cwrs.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwymplen i weld data enillion Hynt Graddedigion ar lefel y DU neu ar lefel genedlaethol (Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon). Cyhoeddwyd y data hwn i ddarparu cyd-destun. Mae hyn yn golygu y gallwch weld enillion cyfartalog graddedigion o bob cwrs yn y pwnc sy'n byw neu'n gweithio yn y lleoliad a ddewiswyd. Gan bod enillion yn uwch neu'n is na'r cyfartaledd mewn rhai rhanbarthau, rydym hefyd yn cynnwys canran y graddedigion o'r sefydliad sydd wedi'u lleoli yn y rhanbarth a ddewiswyd. Mae hyn yn rhoi syniad a yw'r ffigwr rhanbarthol yr ydych wedi'i ddewis yn feincnod da i'r sefydliad.

Sylwch nad ydym yn cynnwys data enillion ar gyfer y rhai sy'n hunangyflogedig.

Fe gewch hefyd ddata enillion yn yr adran hon o'r set ddata Deilliannau Addysg Hydredol (LEO). Rydym wedi defnyddio data LEO i gyflwyno'r enillion ar gyfer yr un grŵp o fyfyrwyr dair blynedd a phum mlynedd ar ôl iddynt raddio. Gweler yr adran LEO isod am ragor o fanylion. Mae'r holl wybodaeth am enillion yn yr adran hon wedi cael ei thrin a'i chrynhoi mewn ffyrdd tebyg i wneud cymariaethau mor ystyrlon â phosibl.

Yn yr adran 'Cyflogaeth 15 mis ar ôl y cwrs'

Defnyddir data Hynt Graddedigion i ddangos canrannau’r graddedigion sy'n gweithio, sy’n astudio, sy’n gweithio ac yn astudio, ac sy’n ddi-waith, 15 mis ar ôl cwblhau eu cwrs.

Byddwch hefyd yn gweld y math o alwedigaethau y mae'r graddedigion hyn yn gweithio ynddynt, 15 mis ar ôl graddio o'r cwrs a pha un a ystyrir bod y rhain yn alwedigaethau â lefelau sgiliau uchel (sy'n golygu eu bod yn cael eu hystyried yn alwedigaethau proffesiynol neu alwedigaethau rheoli gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae galwedigaethau wedi'u dosbarthu gan ddefnyddio system Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol (SOC) 2020.

Yn yr adran 'Canfyddiadau Graddedigion'

Yma fe welwch y canrannau o raddedigion a oedd, 15 mis ar ôl graddio, yn cytuno bod yr hyn a ddysgon nhw ar eu cwrs yn ddefnyddiol ar gyfer yr hyn yr oeddent yn ei wneud ar y pryd, eu bod yn cael eu gwaith yn ystyrlon, a bod eu gwaith yn cyd-fynd â'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg Hynt Graddedigion, a sut y’i defnyddir, ar y wefan Hynt Graddedigion.

Rydym yn croesawu adborth ar ba mor ddefnyddiol yw'r ystadegau a beth ellir ei wneud i'w gwella. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y cynhyrchir yr ystadegau a darparu adborth ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Diweddariad i'r data Enillion ar gyfer 3 a 5 mlynedd ar ôl graddio

Cafodd y data ‘Enillion ar ôl y cwrs’ ar gyfer 3 a 5 mlynedd ar ôl graddio ei ddiweddaru ar Discover Uni ar 23 Tachwedd 2023 pan gyhoeddwyd data newydd gan yr Adran Addysg (DfE). Mae’r data newydd ar gyfer myfyrwyr a raddiodd yn ystod 2013-15 ac mae’n disodli data a oedd ar gyfer myfyrwyr a raddiodd yn ystod 2012-2014.

Sut yr effeithiwyd ar y data am enillion ar Darganfod Prifysgol?

Ni fu unrhyw newidiadau sylweddol i’r data enillion LEO y tu hwnt i’r hyn a fyddai’n amrywiadau arferol yn enillion pobl, gan gynnwys graddedigion, o un flwyddyn i’r llall.

Sylwch, fodd bynnag, y gallai fod newidiadau rhwng y data 'Enillion ar ôl y cwrs' a ddangoswyd ar y wefan rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2023, a'r data wedi'i ddiweddaru a ddisodlodd ar 23 Tachwedd 2023 ac sy'n cael ei arddangos ar hyn o bryd.


Y set ddata Deilliannau Addysg Hydredol

Mae'r set ddata Deilliannau Addysg Hydredol (LEO) yn defnyddio cofnodion treth y Llywodraeth i ddod o hyd i ddata enillion ar gyfer graddedigion. Nid yw'n dibynnu ar raddedigion yn ymateb i arolwg. Oherwydd ei fod yn seiliedig ar gofnodion treth TWE mae'n fwy cyflawn na data arolwg hunangofnodedig. Nid ydym yn cyhoeddi data LEO ar gyfer cyrsiau unigol, mae'r data enillion hwn bob amser yn cael ei grwpio i feysydd pwnc ar gyfer gwerth dwy flynedd o raddedigion.

Yn yr adran 'Enillion ar ôl y cwrs'

Rydym yn defnyddio data LEO yn yr adran hon ar dudalennau cyrsiau ar Darganfod Prifysgol i ddangos data enillion ar gyfer yr un grŵp o fyfyrwyr dair blynedd a phum mlynedd ar ôl graddio. Mae'r data a gyhoeddir yn ddata ar gyfer y meysydd pwnc y mae'r cwrs yn eu cwmpasu ar gyfer pob myfyriwr yn y sefydliad sy'n cynnig y cwrs, nid y cwrs penodol ei hun.

Byddwch hefyd yn gallu defnyddio'r gwymplen i weld data enillion LEO ar lefel y DU (ac eithrio graddedigion o sefydliadau Gogledd Iwerddon); ar lefel genedlaethol (Cymru, Lloegr neu'r Alban); a lefel rhanbarthau yn Lloegr a dinasoedd craidd yng Nghymru a'r Alban. Nid yw data ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi'i gynnwys oherwydd nad yw data gan raddedigion Gogledd Iwerddon wedi'i gynnwys yn y set ddata LEO.

Gallwch weld yr enillion cyfartalog a'r ystod nodweddiadol ar gyfer graddedigion o bob cwrs yn y pwnc sy'n byw neu'n gweithio yn y lleoliad a ddewiswyd. Cyhoeddwyd y data hwn i roi cyfle i chi weld sut y mae enillion pwnc y sefydliad yn cymharu ag enillion yr holl raddedigion yn y pwnc hwnnw ar gyfer y rhanbarth a ddewiswyd. Gan y gall enillion fod yn uwch neu'n is na'r cyfartaledd mewn rhai rhanbarthau, rydym hefyd yn cynnwys canran y graddedigion o'r sefydliad a ddewiswyd a'r pwnc sydd wedi'u lleoli yn y rhanbarth. Mae hyn yn rhoi syniad a yw'r ffigwr rhanbarthol yr ydych chi wedi dewis ei weld yn feincnod da i'r sefydliad.

Fe gewch hefyd ddata cyflog yn yr adran hon o'r set ddata Hynt Graddedigion (GO). Gweler yr adran Hynt Graddedigion uchod am ragor o fanylion. Mae'r holl wybodaeth am enillion yn yr adran hon wedi cael ei thrin a'i chrynhoi mewn ffordd debyg i wneud cymariaethau mor ystyrlon â phosibl.

Ynglŷn â’r data LEO a ddangosir ar Darganfod Prifysgol

Mae rhai pethau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddefnyddio data LEO ar Darganfod Prifysgol:

  • Nid ydym ond yn cyhoeddi data LEO ar gyfer cyrsiau a addysgir mewn prifysgolion a cholegau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Nid yw data LEO ar gael ar gyfer cyrsiau yng Ngogledd Iwerddon.
  • Mae'r data LEO yn dangos faint yr oedd graddedigion a oedd yn gweithio yn y DU yn ei ennill dair blynedd a phum mlynedd ar ôl graddio. Mae'r data'n dangos yr ystadegau hyn ar gyfer yr un garfan o fyfyrwyr.
  • Mae'r data'n cynnwys incwm trethadwy ar gyfer y rhai y gwnaeth eu cyflogwr ddidynnu treth yn y tarddiad. Nid yw'n cynnwys enillion ar gyfer y rhai a oedd yn hunangyflogedig.
  • Mae'r data a gyhoeddir yn ddata ar gyfer maes pwnc y cwrs dros ddwy flynedd dreth. Dim ond pan fo gennym ddata LEO ar gyfer o leiaf 15 o raddedigion yr ydym yn ei gyhoeddi.
  • Mae'r data'n cynnwys enillion ar gyfer gweithwyr llawn-amser a rhan-amser, sy'n golygu y gall y ffigyrau ymddangos yn is lle mae mwy o raddedigion yn dewis gweithio'n rhan-amser.

Mae ein tudalen 'cyflogaeth ac enillion' yn rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio'r data enillion a ddarperir ar Darganfod Prifysgol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y cynhyrchir yr ystadegau a darparu adborth ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Mae'r data LEO a ddefnyddir ar Darganfod Prifysgol yn eiddo i'r Adran Addysg (DfE). Nid yw'r Adran Addysg yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau y mae trydydd partïon yn dod iddynt ar sail y data LEO.

Mae cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch y DU yn casglu data gan brifysgolion a cholegau am eu holl fyfyrwyr unigol. Rydym yn defnyddio'r data hwn i greu rhai o'r ystadegau a ddefnyddiwn.

Y setiau data a ddefnyddir gennym yw:

Cofnod Myfyrwyr HESA.

Cofnod Myfyrwyr Darparwyr Amgen (AP) HESA

Cofnod Dysgwr Unigol a gasglwyd gan yr Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau

Mae'r data a ddefnyddiwn ar gyfer blynyddoedd academaidd 2019-20, 2020-21, a 2021-22 oni nodir yn wahanol.

Parhad

Rydym yn defnyddio'r data hwn i ddweud wrthych beth mae myfyrwyr yn ei wneud flwyddyn ar ôl dechrau'r cwrs. Gelwir nifer y myfyrwyr sy'n dal i astudio’n 'gyfradd parhad'. Mae'r ffigyrau hyn yn seiliedig ar ganran y myfyrwyr a ddechreuodd yn 2019-20 ac a wnaeth barhau i mewn i 2020-21 ac o 2020-21 a wnaeth barhau i mewn 2021-22.

Nid yw'n anarferol i rai myfyrwyr adael yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Er ei bod yn dda gweld niferoedd uwch o fyfyrwyr yn parhau ar gwrs ar ôl blwyddyn, gall fod llawer o resymau pam fod myfyrwyr yn penderfynu cymryd hoe neu adael y cwrs. Mae'n bwysig cofio mai ciplun mewn amser yw hwn - nid tuedd ar gyfer cwrs. Os yw'r gyfradd parhad yn llawer is na chyrsiau eraill, gallai hyn fod yn arwydd nad yw'r cwrs yn bodloni disgwyliadau myfyrwyr.

Gwybodaeth am fynediad

Mae hyn yn dangos y cymwysterau a'r gwerthoedd pwyntiau tariff a oedd gan ddechreuwyr blaenorol (nid y gofynion mynediad ar gyfer cwrs yw hyn). Mae'n rhoi darlun o'r ystod o gymwysterau a oedd ganddynt a'r 'graddau' a enillwyd gan y rhai a oedd yn dechrau’r cwrs. Cofiwch, mae penderfyniadau gan sefydliadau i gynnig lleoedd i ymgeiswyr yn cael eu gwneud yn seiliedig ar ystod o feini prawf - nid dim ond y cymwysterau neu'r graddau a enillwyd.

Y data ar bwyntiau Tariff UCAS yw'r cyfartaledd ar gyfer cymwysterau sy'n seiliedig ar ddechreuwyr ym mlwyddyn academaidd 2021-22, ac weithiau dechreuwyr yn 2020-21 a 2021-22 wedi’u cyfuno pan fydd niferoedd y cwrs neu'r pwnc yn rhy fach i'w gyhoeddi ar gyfer un flwyddyn.

Mae'n bwysig gwybod bod rhai prifysgolion a cholegau'n derbyn ystod ehangach o gymwysterau ar gyfer mynediad i'w cyrsiau, na roddir cyfrif am rai ohonynt ym mhwyntiau Tariff UCAS. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y data pwyntiau tariff a ddangoswn ar gyfer rhai cyrsiau'n adlewyrchu'r gwerth a'r graddau a enillwyd gan rai myfyrwyr a dderbyniwyd ar y cwrs. Gall hyn effeithio ar y mwyafrif o gyrsiau mewn rhai sefydliadau sydd â chyfran uwch o fyfyrwyr rhyngwladol neu o’r tu allan i’r DU ymhlith y rhai a dderbyniwyd.

I gael rhagor o wybodaeth am Dariff UCAS a gofynion mynediad, gweler ein tudalen 'Gofynion Derbyn'.

Achrediad

Cwrs achrededig yw un sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi cael sêl bendith gan un neu fwy o gyrff proffesiynol. Mae hyn yn golygu bod dysgu a chyflawniad graddedigion yn cyrraedd y meincnodau a safonau proffesiynol a bennir gan y corff achredu. Os ydych yn astudio i ymgymryd â gyrfa benodol, efallai y bydd angen i chi ddilyn cwrs ag achrediad proffesiynol, neu weithiau mae achrediadau'n dangos bod cyflogwyr yn cymeradwyo'r cwrs. Mae hyn yn golygu eu bod yn cydnabod ei fod yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr ar gyfer cyflogaeth mewn sector penodol neu rôl swydd benodol. Mae'r wybodaeth a ddarperir ar dudalennau cyrsiau Darganfod Prifysgol yn grynodeb o'r achrediad a gwerth y rhain i fyfyrwyr, megis ei fod yn cael ei ragnodi ar gyfer ymarfer fel gweithiwr proffesiynol mewn maes penodol. Mae pob achrediad a restrir yn cynnwys dolen i wybodaeth bellach ar wefan y corff proffesiynol. Mae darparwyr yn cyflwyno'r wybodaeth achredu ar gyfer eu cyrsiau, gan ddewis o restr o achrediadau cymeradwy a/neu ragnodedig, gan gynnwys y rhai a bennir gan y Cyrff Statudol a Rheoleiddio Proffesiynol (PSBRs). Gallwch weld unrhyw achrediadau proffesiynol, a’r hyn y mae'r rhain yn ei olygu i fyfyrwyr, ar ein tudalennau cyrsiau a dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y corff proffesiynol. Gweler rhagor o wybodaeth am achrediadau proffesiynol.

Defnyddio data wrth benderfynu

Mae'r data yr ydym yn ei gyhoeddi ar Darganfod Prifysgol yn dod o ffynonellau dibynadwy a gall eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae'n bwysig nad ydych yn gwneud penderfyniadau ar sail gwahaniaethau bach rhwng cyrsiau. Yn hytrach, chwiliwch am wahaniaethau mawr, ac yn enwedig lle mae'r ffigyrau'n llawer is nag ar gyfer cyrsiau eraill rydych chi'n eu hystyried. Rhagor o wybodaeth am gymharu cyrsiau.

Meintiau samplau a chyfraddau ymateb

Ar Darganfod Prifysgol rydym yn dweud wrthych gan faint o fyfyrwyr y cafodd y data a gyhoeddir gennym ei gasglu, ac os oedd o arolwg, y gyfradd ymateb.

Gallai'r niferoedd hyn fod yn llai na’r disgwyl, gan ein bod yn ceisio cyhoeddi data ar gyfer y cwrs ac nad oes nifer fawr o fyfyrwyr ar bob cwrs.

Mae cyfradd ymateb uchel gan nifer fawr o fyfyrwyr yn golygu y gallwch fod yn fwy hyderus yn y data. Gyda niferoedd llai, mae'n arbennig o bwysig nad ydych yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar wahaniaethau bach.

Ni fyddwn ond yn cyhoeddi data os yw’r data gennym ar gyfer mwy na nifer penodol o fyfyrwyr. Mae hyn yn rhannol er mwyn diogelu eu hunaniaeth ac yn rhannol i sicrhau dibynadwyedd yr hyn yr ydym yn ei gyhoeddi. Ar gyfer arolygon, nid ydym yn cyhoeddi data os yw'r cyfraddau ymateb yn isel ychwaith.

Ar gyfer y rhan fwyaf o'r data, mae angen data gan o leiaf 10 myfyriwr i'w gyhoeddi. Ar gyfer LEO, mae angen o leiaf 15 o fyfyrwyr.

Cyrsiau bach

Ar gyfer llawer o gyrsiau llai, efallai na fydd gennym ddata gan ddigon o fyfyrwyr i'w gyhoeddi. Er mwyn i ni allu dangos rhywfaint o ddata, rydym yn grwpio data ar gyfer cyrsiau yn yr un maes pwnc yn y brifysgol honno neu'r coleg hwnnw.

Rydym yn dweud ble’r ydym wedi gwneud hyn ar dudalen y cwrs a’r offeryn cymharu cyrsiau.

Graddau cyd-anrhydedd a chyrsiau â data ar gyfer sawl pwnc

Mae rhai cyrsiau'n cwmpasu mwy nag un maes pwnc, ac weithiau’n arwain at ddyfarniad a elwir yn radd gyd-anrhydedd (megis "BSc Mathemateg a Chyfrifiadureg"). Lle mae gan gwrs fwy nag un pwnc, ceisiwn gyflwyno eitemau data yn seiliedig ar y bobl sy'n astudio'r cwrs hwnnw yn unig.

Weithiau os nad oes digon o bobl yn astudio'r cwrs, neu os nad oes digon ohonynt yn ymateb i arolwg, rydym yn cynnwys data ar gyfer pawb yn y sefydliad sy'n astudio cyrsiau sy'n cynnwys y pynciau hynny. Er enghraifft, mae hyn yn golygu yn ein henghraifft uchod y byddem yn cyflwyno ffigyrau ar wahân ar gyfer Mathemateg ac ar gyfer Cyfrifiadureg. Cyflwynir y rhain fel tabiau ar dudalennau cyrsiau. Gall rhai cyrsiau eang iawn gyda dewisiadau agored rhwng llawer o fodiwlau fod â chymaint â phum maes pwnc, neu fwy byth hyd yn oed.

Wrth feddwl am gwrs lle cyflwynir nifer o ffigyrau ar lefel pynciau, mae'n bwysig edrych ar yr holl bynciau. Dylech hefyd ystyried sut y gallai'r ffigyrau hyn ar gyfer pynciau adlewyrchu'r cwrs yr ydych yn edrych arno, sydd efallai'n cynrychioli nifer fach o fyfyrwyr yn unig yn y meysydd pwnc hynny.

Cyrsiau newydd

Lle mae cyrsiau'n newydd neu lle nad oes unrhyw fyfyrwyr wedi eu gorffen eto, rydym yn cyhoeddi data ar gyfer cyrsiau eraill yn y maes pwnc hwnnw. Rydym yn gwneud hyn er mwyn rhoi rhyw syniad i chi o brofiad a deilliannau myfyrwyr yn y brifysgol honno a'r coleg hwnnw.

Unwaith eto, rydym yn dweud lle’r ydym wedi gwneud hyn ar dudalen y cwrs.

Talgrynnu

Rydym yn cyhoeddi data'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr i'r pwynt canran agosaf. Ar gyfer data arall, os oes gennym ddata ar gyfer llai na 52.5 o bobl, rydym yn talgrynnu'r data i'r pum pwynt canran agosaf. Mae niferoedd y bobl hefyd bob amser yn cael eu talgrynnu i'r pump agosaf.

Gall hyn olygu nad yw'r ffigyrau a ddangosir bob amser yn gwneud cyfanswm o 100 y cant. Yn hytrach, gall y cyfanswm fod yn 95% neu’n 105% pan fyddwch chi'n adio’r ffigyrau at ei gilydd.

Adborth

Byddem yn croesawu adborth ar ba mor ddefnyddiol yw'r ystadegau a beth ellir ei wneud i'w gwella. Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio ein manylion cyswllt ar y dudalen ‘Darganfod Prifysgol’.

Y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF)

Cynllun cenedlaethol yw'r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) sy'n cael ei redeg gan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) ac sy'n amcanu at annog darparwyr addysg uwch i wella a chyflawni rhagoriaeth yn y meysydd sydd bwysicaf i fyfyrwyr: addysgu, dysgu a chyflawni deilliannau cadarnhaol o'u hastudiaethau.

Mae'r TEF yn gwneud hyn trwy asesu a graddio prifysgolion a cholegau ar gyfer rhagoriaeth uwchlaw set o ofynion sylfaenol ar gyfer ansawdd a safonau. Mae darparwyr sy'n cymryd rhan yn y TEF yn cael sgôr cyffredinol yn ogystal â dau sgôr sylfaenol – y naill ar gyfer profiad myfyrwyr a’r llall ar gyfer deilliannau myfyrwyr.

Bydd canlyniadau'r TEF yn cael eu cyhoeddi ar y tudalennau sy’n rhoi gwybodaeth am ddarparwyr o ganol mis Hydref. Gallwch gael mynediad at y rhain trwy glicio ar enw'r sefydliad ar dudalen pob cwrs. Cewch ragor o wybodaeth am y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Ymarfer a hwylusir gan y Swyddfa Fyfyrwyr yn Lloegr yw TEF. Mae Prifysgolion a Cholegau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu cymryd rhan yn TEF yn wirfoddol.

Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA)

Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) yw'r corff ansawdd dynodedig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'r QAA yn monitro ansawdd a safonau'r addysgu mewn prifysgolion a cholegau ar ran y cyrff cyllido a rheoleiddio ym mhob gwlad. Mae'r QAA yn cwblhau adolygiadau sicrhau ansawdd ac yn cyhoeddi adroddiad i grynhoi eu canfyddiadau. Gellir dod o hyd i adroddiadau’r QAA ar dudalennau darparwyr ar Darganfod Prifysgol, y gallwch eu cyrchu trwy glicio ar enw'r sefydliad ar dudalen pob cwrs. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am am ansawdd a safonau.

Back
to top