Ynglŷn â'n data

Mae'r data ar Darganfod Prifysgol yn ystadegau swyddogol a grynhowyd o ffynonellau dibynadwy ac a gyhoeddir yma i helpu darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u wrth ddewis cwrs a phrifysgol/coleg.

Cymerir y data o arolygon cenedlaethol a data a gesglir gan brifysgolion a cholegau am eu holl fyfyrwyr.

Mae'r dudalen hon yn esbonio o ble y daw'r data a'n hymagwedd at ei gyhoeddi.

Arolwg blynyddol yw’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) sy'n gofyn i fyfyrwyr ar eu blwyddyn olaf roi adborth am eu profiad yn y brifysgol neu'r coleg. Defnyddir y canlyniadau gan brifysgolion a cholegau i wella profiad myfyrwyr a gallant hefyd helpu ymgeiswyr i benderfynu rhwng cyrsiau.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan Ipsos MORI ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch y DU.

Mae’r arolwg yn un o’r mwyaf o’i fath yn y byd. Mae’n gofyn cwestiynau i fyfyrwyr yn y DU am ystod o ffactorau sy’n ymwneud â’u profiad academaidd, gan gynnwys yr addysgu ar eu cwrs, asesu ac adborth, a pha mor dda y mae cyrsiau’n cael eu trefnu.

Yn 2023 fe gyflwynwyd arolwg newydd sy’n defnyddio cwestiynau uniongyrchol gyda graddfeydd ymateb eitem-benodol. Fe gynhwyswyd hyn i wella dealltwriaeth myfyrwyr a gwella cywirdeb y canlyniadau. Gallwch ddarllen mwy am yr adolygiad o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a’r ymgynghoriad yn ei gylch ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS).

Anlyniadau arolwg 2024

  • Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr eleni’n dangos cyfradd ymateb ar y cyfan o 72.3 y cant, gydag ychydig yn llai na 346,000 o fyfyrwyr yn cwblhau’r arolwg ar eu profiadau o addysg uwch.

Gallwch weld holiadur Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 a rhagor o wybodaeth am set ddata Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Mae cyfraddau ymateb yn dal i fod yn uchel, ac mae cyfraddau’r rhai sy’n gadael yr arolwg cyn ei gwblhau yn isel. Mae myfyrwyr wedi defnyddio’r ystod lawn o opsiynau ymateb, ac anaml y maent yn dweud nad yw cwestiwn yn berthnasol iddynt.

Cynhaliwyd yr arolwg hwn yn ystod y cyfnod rhwng 8 Ionawr a 30 Ebrill 2024. Gallwch ddarllen canlyniadau llawn 2024 ar dudalennau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) a gweld canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar lefel cyrsiau ar Darganfod Prifysgol.

Data cyrsiau NSS ar Darganfod Prifysgol

Mae Darganfod Prifysgol yn cyhoeddi data ar gyfer y cwestiynau canlynol:

  • Addysgu ar fy nghwrs
  • Cyfleoedd dysgu
  • Asesu ac adborth
  • Cymorth academaidd
  • Trefnu a rheoli
  • Adnoddau dysgu
  • Llais myfyrwyr
  • Gwasanaethau lles meddyliol
  • Rhyddid mynegiant (ar gyfer myfyrwyr yn Lloegr yn unig)
  • Boddhad cyffredinol (ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig)

Cyn i ni gyhoeddi unrhyw ffigyrau yn seiliedig ar yr NSS, rydym yn sicrhau yn gyntaf bod o leiaf 10 o bobl wedi ymateb ar gyfer y cwrs neu'r pwnc yr adroddir arno a'u bod yn rhoi cyfrif am o leiaf hanner (50%) y bobl a allai fod wedi ymateb.

Daw’r data o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a gyhoeddwyd yn 2024 sy’n cynnwys ymatebion gan fyfyrwyr a oedd ar eu blwyddyn olaf ym mlwyddyn academaidd 2023/24. Mewn rhai achosion, efallai na fydd digon o ddata ar gael i gyhoeddi’r wybodaeth o’r garfan ddiweddaraf o fyfyrwyr. Yn yr achos hwn, rydym yn cyfuno dwy flynedd o ddata’r arolwg, a fydd yn cynnwys ymatebion o’r garfan ddiweddaraf ac ymatebion i arolwg 2022/23. Bydd wedi’i nodi ar bob tudalen cwrs a yw’r data’n defnyddio un flwyddyn ynteu dwy flynedd o ddata’r arolwg.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd digon o ddata ar gael i gyhoeddi’r wybodaeth ar lefel cwrs, neu efallai y bydd gan y cwrs nifer o achosion o ddata sy’n gysylltiedig ag ef (er enghraifft, rhai cyrsiau cydanrhydedd). Yn yr achosion hyn, gallwn grwpio data ar gyfer y pwnc yn lle hynny. Gweler ein hadran ‘deall y data’ isod am ragor o wybodaeth ynghylch sut yr ydym yn arddangos y data ar ein tudalennau cyrsiau.

Mesurau themâu

Mae mesurau themâu wedi cael eu hychwanegu ar gyfer cyhoeddi Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 ar dudalennau manylion cyrsiau Darganfod Prifysgol

Mae mesurau themâu’n crynhoi grwpiau o ymatebion i gwestiynau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn themâu ar y cyfan. Mae’r mesurau themâu’n darparu trosolwg o’r ymatebion ar gyfer:

  • Addysgu ar fy nghwrs
  • Cyfleoedd dysgu
  • Asesu ac adborth
  • Cymorth academaidd
  • Trefnu a rheoli
  • Adnoddau dysgu
  • Llais myfyrwyr

Mae’r holiadur ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn amlygu’r cwestiynau unigol a gynhwyswyd yn yr arolwg a’r themâu ar y cyfan y maent wedi’u grwpio iddynt.

Mesurau positifrwydd a gyfrifwyd ar gyfer y grwpiau o gwestiynau yw’r mesurau themâu. Cyfrifir yr ymatebion cyfunol trwy gyfuno’r ymatebion cadarnhaol â chwestiynau tebyg ac fe’u dangosir fel un gwerth ar gyfer y thema. Gweler y dudalen Ynglŷn â data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn yr adran ‘Deall data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr’ i gael rhagor o wybodaeth am sut y mae sgoriau’r themâu’n cael eu cyfrifo.

Gall y mesurau themâu gynorthwyo darpar fyfyrwyr i gael golwg gyffredinol ar brofiad myfyrwyr ar y cwrs mewn perthynas â’r themâu. Gall yr wybodaeth hon helpu darpar fyfyrwyr yn eu hymchwil a’u proses benderfynu.

Prifysgol Glasgow Caledonian

Daw sgoriau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian o arolwg 2024 ac fe’u dangosir fel a esbonnir uchod. Fodd bynnag, ceir gwahaniaeth o ran sut y mae’r sgoriau ar gyfer cwestiwn 28 (‘Boddhad ar y Cyfan’) yn cael eu dangos ar gyfer y cyrsiau hynny ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian lle’r ydym yn grwpio dwy flynedd o ddata.

Mae hyn i’w briodoli i wall gweinyddu yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023, a oedd yn golygu nad ofynnwyd cwestiwn 28 (‘Boddhad ar y Cyfan') i'r mwyafrif o’r ymatebwyr i’r arolwg o Brifysgol Glasgow Caledonian. Felly rydym wedi disodli canlyniadau Glasgow Caledonian ar gyfer y cwestiwn hwn â chanlyniadau’r cwestiwn Boddhad Myfyrwyr ar y Cyfan yn arolwg 2022. Dim ond ar gyrsiau lle nad oes digon o ddata i gyhoeddi un flwyddyn o ddata y mae hyn yn effeithio, ac mae tudalen y cwrs wedi’i labelu’n glir ar bob cwrs ar gyfer y sefydliad hwn lle defnyddir dwy flynedd o ddata. Nid y darparwr oedd ar fai am y gwall ac nid yw’n adlewyrchu ansawdd y darparwr. Nid effeithiodd y gwall hwn ar unrhyw ddarparwyr na chwestiynau eraill.

Mae'r arolwg Hynt Graddedigion (GO) yn casglu gwybodaeth gan fyfyrwyr 15 mis ar ôl iddynt orffen eu cwrs. Mae'n gofyn iddynt beth maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, faint maen nhw'n ei ennill, ac yn eu holi am eu canfyddiadau am waith ar ôl iddynt raddio o'u cwrs. Mae'r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Mae ein tudalen 'enillion a chyflogaeth' yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r data a ddarperir ar Darganfod Prifysgol.

Daw'r data a ddangoswn ar Darganfod Prifysgol o'r arolwg Hynt Graddedigion diweddaraf, sy'n cynnwys graddedigion a orffennodd eu cyrsiau addysg uwch rhwng mis Awst 2021 a mis Gorffennaf 2022. Weithiau cyfunir y data yma â data arolwg o'r arolwg Hynt Graddedigion blaenorol (a gynhaliwyd gyda graddedigion 2020-21). Rydym yn cyfuno dwy flynedd o ddata arolwg pan nad oes digon o fyfyrwyr yn y flwyddyn ddiweddaraf o ddata i ni ei gyhoeddi. Bydd wedi’i nodi ar bob tudalen cwrs pa un a yw'r data'n defnyddio un flwyddyn neu ddwy flynedd o ddata'r arolwg. Rydym yn defnyddio data Hynt Graddedigion i grynhoi'r ystadegau mewn sawl adran ar ein tudalennau cyrsiau. Cyn i ni gyhoeddi unrhyw ffigyrau yn seiliedig ar yr arolwg Hynt Graddedigion, rydym yn sicrhau yn gyntaf bod o leiaf 10 o bobl wedi ymateb ar gyfer y cwrs neu'r pwnc yr adroddir arno a'u bod yn rhoi cyfrif am o leiaf hanner (50%) y bobl a allai fod wedi ymateb.

Canlyniadau hynt graddedigion (GO)

Crëwyd y data Hynt Graddedigion (GO) yn set ddata 2024-25 gan ddefnyddio data o’r arolwg o fyfyrwyr a raddiodd yn 2020-21 a 2021-22. Roedd 351,220 o raddedigion a ymatebodd i’r arolwg diweddaraf.

Mae dadansoddiad o’r data gan HESA yn dangos:

  • Bod 89% o’r graddedigion mewn rhyw fath o waith neu astudiaethau pellach.
  • Bod cyfran y graddedigion a oedd mewn astudiaethau pellach amser llawn wedi gostwng ychydig i 6%.
  • Bod cyfran y graddedigion mewn cyflogaeth amser llawn a oedd yn cytuno bod eu gweithgarwch cyfredol yn cyd-fynd â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi aros yn gyson ar 80% am y tro cyntaf, yn dilyn nifer o ostyngiadau o un flwyddyn i’r llall.
  • Bod diweithdra’n rhoi cyfrif am 5% o’r ymatebion ymhlith graddedigion 2021-22, yr un faint â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn i lawr o 6% yn 2019-20.

Ymhlith graddedigion 2021/22, roedd 83% o’r ymatebwyr mewn cyflogaeth neu waith di-dâl. Roedd y mwyafrif o’r graddedigion hyn mewn cyflogaeth amser llawn (61%), gydag 11% o’r graddedigion mewn cyflogaeth ran-amser a 10% mewn cyflogaeth ac astudiaethau pellach.


Yn yr adran 'Enillion ar ôl y cwrs'

Yn yr adran hon, defnyddir data Hynt Graddedigion i gyflwyno enillion cyfartalog graddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen eu cwrs.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwymplen i weld data enillion Hynt Graddedigion ar lefel y DU neu ar lefel genedlaethol (Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon). Cyhoeddwyd y data hwn i ddarparu cyd-destun. Mae hyn yn golygu y gallwch weld enillion cyfartalog graddedigion o bob cwrs yn y pwnc sy'n byw neu'n gweithio yn y lleoliad a ddewiswyd. Gan bod enillion yn uwch neu'n is na'r cyfartaledd mewn rhai rhanbarthau, rydym hefyd yn cynnwys canran y graddedigion o'r sefydliad sydd wedi'u lleoli yn y rhanbarth a ddewiswyd. Mae hyn yn rhoi syniad a yw'r ffigwr rhanbarthol yr ydych wedi'i ddewis yn feincnod da i'r sefydliad.

Sylwch nad ydym yn cynnwys data enillion ar gyfer y rhai sy'n hunangyflogedig.

Fe gewch hefyd ddata enillion yn yr adran hon o'r set ddata Deilliannau Addysg Hydredol (LEO). Rydym wedi defnyddio data LEO i gyflwyno'r enillion ar gyfer yr un grŵp o fyfyrwyr dair blynedd a phum mlynedd ar ôl iddynt raddio. Gweler yr adran LEO isod am ragor o fanylion. Mae'r holl wybodaeth am enillion yn yr adran hon wedi cael ei thrin a'i chrynhoi mewn ffyrdd tebyg i wneud cymariaethau mor ystyrlon â phosibl.

Yn yr adran 'Cyflogaeth 15 mis ar ôl y cwrs'

Defnyddir data Hynt Graddedigion i ddangos canrannau’r graddedigion sy'n gweithio, sy’n astudio, sy’n gweithio ac yn astudio, ac sy’n ddi-waith, 15 mis ar ôl cwblhau eu cwrs.

Byddwch hefyd yn gweld y math o alwedigaethau y mae'r graddedigion hyn yn gweithio ynddynt, 15 mis ar ôl graddio o'r cwrs a pha un a ystyrir bod y rhain yn alwedigaethau â lefelau sgiliau uchel (sy'n golygu eu bod yn cael eu hystyried yn alwedigaethau proffesiynol neu alwedigaethau rheoli gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae galwedigaethau wedi'u dosbarthu gan ddefnyddio system Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol (SOC) 2020.

Yn yr adran 'Canfyddiadau Graddedigion'

Yma fe welwch y canrannau o raddedigion a oedd, 15 mis ar ôl graddio, yn cytuno bod yr hyn a ddysgon nhw ar eu cwrs yn ddefnyddiol ar gyfer yr hyn yr oeddent yn ei wneud ar y pryd, eu bod yn cael eu gwaith yn ystyrlon, a bod eu gwaith yn cyd-fynd â'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg Hynt Graddedigion, a sut y’i defnyddir, ar y wefan Hynt Graddedigion.

Rydym yn croesawu adborth ar ba mor ddefnyddiol yw'r ystadegau a beth ellir ei wneud i'w gwella. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y cynhyrchir yr ystadegau a darparu adborth ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Mae'r set ddata Deilliannau Addysg Hydredol (LEO) yn defnyddio cofnodion treth y Llywodraeth i ddod o hyd i ddata enillion ar gyfer graddedigion. Nid yw'n dibynnu ar raddedigion yn ymateb i arolwg. Oherwydd ei fod yn seiliedig ar gofnodion treth TWE mae'n fwy cyflawn na data arolwg hunangofnodedig. Nid ydym yn cyhoeddi data LEO ar gyfer cyrsiau unigol, mae'r data enillion hwn bob amser yn cael ei grwpio i feysydd pwnc ar gyfer gwerth dwy flynedd o raddedigion.

Yn yr adran 'Enillion ar ôl y cwrs'

Rydym yn defnyddio data LEO yn yr adran hon ar dudalennau cyrsiau ar Darganfod Prifysgol i ddangos data enillion ar gyfer yr un grŵp o fyfyrwyr dair blynedd a phum mlynedd ar ôl graddio. Mae'r data a gyhoeddir yn ddata ar gyfer y meysydd pwnc y mae'r cwrs yn eu cwmpasu ar gyfer pob myfyriwr yn y sefydliad sy'n cynnig y cwrs, nid y cwrs penodol ei hun.

Byddwch hefyd yn gallu defnyddio'r gwymplen i weld data enillion LEO ar lefel y DU (ac eithrio graddedigion o sefydliadau Gogledd Iwerddon); ar lefel genedlaethol (Cymru, Lloegr neu'r Alban); a lefel rhanbarthau yn Lloegr a dinasoedd craidd yng Nghymru a'r Alban. Nid yw data ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi'i gynnwys oherwydd nad yw data gan raddedigion Gogledd Iwerddon wedi'i gynnwys yn y set ddata LEO.

Gallwch weld yr enillion cyfartalog a'r ystod nodweddiadol ar gyfer graddedigion o bob cwrs yn y pwnc sy'n byw neu'n gweithio yn y lleoliad a ddewiswyd. Cyhoeddwyd y data hwn i roi cyfle i chi weld sut y mae enillion pwnc y sefydliad yn cymharu ag enillion yr holl raddedigion yn y pwnc hwnnw ar gyfer y rhanbarth a ddewiswyd. Gan y gall enillion fod yn uwch neu'n is na'r cyfartaledd mewn rhai rhanbarthau, rydym hefyd yn cynnwys canran y graddedigion o'r sefydliad a ddewiswyd a'r pwnc sydd wedi'u lleoli yn y rhanbarth. Mae hyn yn rhoi syniad a yw'r ffigwr rhanbarthol yr ydych chi wedi dewis ei weld yn feincnod da i'r sefydliad.

Fe gewch hefyd ddata cyflog yn yr adran hon o'r set ddata Hynt Graddedigion (GO). Gweler yr adran Hynt Graddedigion uchod am ragor o fanylion. Mae'r holl wybodaeth am enillion yn yr adran hon wedi cael ei thrin a'i chrynhoi mewn ffordd debyg i wneud cymariaethau mor ystyrlon â phosibl.

Ynglŷn â’r data LEO a ddangosir ar Darganfod Prifysgol

Mae rhai pethau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddefnyddio data LEO ar Darganfod Prifysgol:

  • Nid ydym ond yn cyhoeddi data LEO ar gyfer cyrsiau a addysgir mewn prifysgolion a cholegau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Nid yw data LEO ar gael ar gyfer cyrsiau yng Ngogledd Iwerddon.
  • Mae'r data LEO yn dangos faint yr oedd graddedigion a oedd yn gweithio yn y DU yn ei ennill dair blynedd a phum mlynedd ar ôl graddio. Mae'r data'n dangos yr ystadegau hyn ar gyfer yr un garfan o fyfyrwyr.
  • Mae'r data'n cynnwys incwm trethadwy ar gyfer y rhai y gwnaeth eu cyflogwr ddidynnu treth yn y tarddiad. Nid yw'n cynnwys enillion ar gyfer y rhai a oedd yn hunangyflogedig.
  • Mae'r data a gyhoeddir yn ddata ar gyfer maes pwnc y cwrs dros ddwy flynedd dreth. Dim ond pan fo gennym ddata LEO ar gyfer o leiaf 15 o raddedigion yr ydym yn ei gyhoeddi.
  • Mae'r data'n cynnwys enillion ar gyfer gweithwyr llawn-amser a rhan-amser, sy'n golygu y gall y ffigyrau ymddangos yn is lle mae mwy o raddedigion yn dewis gweithio'n rhan-amser.

Mae ein tudalen 'cyflogaeth ac enillion' yn rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio'r data enillion a ddarperir ar Darganfod Prifysgol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y cynhyrchir yr ystadegau a darparu adborth ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Mae'r data LEO a ddefnyddir ar Darganfod Prifysgol yn eiddo i'r Adran Addysg (DfE). Nid yw'r Adran Addysg yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau y mae trydydd partïon yn dod iddynt ar sail y data LEO.

Mae cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch y DU yn casglu data gan brifysgolion a cholegau am eu holl fyfyrwyr unigol. Rydym yn defnyddio'r data hwn i greu rhai o'r ystadegau a ddefnyddiwn.

Y setiau data a ddefnyddir gennym yw:

Cofnod Myfyrwyr HESA.

Cofnod Myfyrwyr Darparwyr Amgen (AP) HESA

Cofnod Dysgwr Unigol a gasglwyd gan yr Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau

Data ar gyfer blynyddoedd academaidd 2021-22, 2022-23, a 2023-24 a ddefnyddir gennym oni nodir fel arall.

Parhad

Rydym yn defnyddio'r data hwn i ddweud wrthych beth mae myfyrwyr yn ei wneud flwyddyn ar ôl dechrau'r cwrs. Gelwir nifer y myfyrwyr sy'n dal i astudio’n 'gyfradd parhad'. Mae'r ffigyrau hyn yn seiliedig ar ganran y myfyrwyr a ddechreuodd yn 2019-20 ac a wnaeth barhau i mewn i 2021-22 ac o 2022-23 a wnaeth barhau i mewn 2023-24.

Nid yw'n anarferol i rai myfyrwyr adael yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Er ei bod yn dda gweld niferoedd uwch o fyfyrwyr yn parhau ar gwrs ar ôl blwyddyn, gall fod llawer o resymau pam fod myfyrwyr yn penderfynu cymryd hoe neu adael y cwrs. Mae'n bwysig cofio mai ciplun mewn amser yw hwn - nid tuedd ar gyfer cwrs. Os yw'r gyfradd parhad yn llawer is na chyrsiau eraill, gallai hyn fod yn arwydd nad yw'r cwrs yn bodloni disgwyliadau myfyrwyr.

Gwybodaeth am fynediad

Mae hyn yn dangos y cymwysterau a'r gwerthoedd pwyntiau tariff a oedd gan ddechreuwyr blaenorol (nid y gofynion mynediad ar gyfer cwrs yw hyn). Mae'n rhoi darlun o'r ystod o gymwysterau a oedd ganddynt a'r 'graddau' a enillwyd gan y rhai a oedd yn dechrau’r cwrs. Cofiwch, mae penderfyniadau gan sefydliadau i gynnig lleoedd i ymgeiswyr yn cael eu gwneud yn seiliedig ar ystod o feini prawf - nid dim ond y cymwysterau neu'r graddau a enillwyd.

Y data ar bwyntiau Tariff UCAS yw'r cyfartaledd ar gyfer cymwysterau sy'n seiliedig ar ddechreuwyr ym mlwyddyn academaidd 2021-22, ac weithiau dechreuwyr yn 2020-21 a 2021-22 wedi’u cyfuno pan fydd niferoedd y cwrs neu'r pwnc yn rhy fach i'w gyhoeddi ar gyfer un flwyddyn.

Mae'n bwysig gwybod bod rhai prifysgolion a cholegau'n derbyn ystod ehangach o gymwysterau ar gyfer mynediad i'w cyrsiau, na roddir cyfrif am rai ohonynt ym mhwyntiau Tariff UCAS. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y data pwyntiau tariff a ddangoswn ar gyfer rhai cyrsiau'n adlewyrchu'r gwerth a'r graddau a enillwyd gan rai myfyrwyr a dderbyniwyd ar y cwrs. Gall hyn effeithio ar y mwyafrif o gyrsiau mewn rhai sefydliadau sydd â chyfran uwch o fyfyrwyr rhyngwladol neu o’r tu allan i’r DU ymhlith y rhai a dderbyniwyd.

I gael rhagor o wybodaeth am Dariff UCAS a gofynion mynediad, gweler ein tudalen 'Gofynion Derbyn'.

Achrediad

Cwrs achrededig yw un sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi cael sêl bendith gan un neu fwy o gyrff proffesiynol. Mae hyn yn golygu bod dysgu a chyflawniad graddedigion yn cyrraedd y meincnodau a safonau proffesiynol a bennir gan y corff achredu. Os ydych yn astudio i ymgymryd â gyrfa benodol, efallai y bydd angen i chi ddilyn cwrs ag achrediad proffesiynol, neu weithiau mae achrediadau'n dangos bod cyflogwyr yn cymeradwyo'r cwrs. Mae hyn yn golygu eu bod yn cydnabod ei fod yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr ar gyfer cyflogaeth mewn sector penodol neu rôl swydd benodol. Mae'r wybodaeth a ddarperir ar dudalennau cyrsiau Darganfod Prifysgol yn grynodeb o'r achrediad a gwerth y rhain i fyfyrwyr, megis ei fod yn cael ei ragnodi ar gyfer ymarfer fel gweithiwr proffesiynol mewn maes penodol. Mae pob achrediad a restrir yn cynnwys dolen i wybodaeth bellach ar wefan y corff proffesiynol. Mae darparwyr yn cyflwyno'r wybodaeth achredu ar gyfer eu cyrsiau, gan ddewis o restr o achrediadau cymeradwy a/neu ragnodedig, gan gynnwys y rhai a bennir gan y Cyrff Statudol a Rheoleiddio Proffesiynol (PSBRs). Gallwch weld unrhyw achrediadau proffesiynol, a’r hyn y mae'r rhain yn ei olygu i fyfyrwyr, ar ein tudalennau cyrsiau a dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y corff proffesiynol. Gweler rhagor o wybodaeth am achrediadau proffesiynol.

Defnyddio data wrth benderfynu

Mae'r data yr ydym yn ei gyhoeddi ar Darganfod Prifysgol yn dod o ffynonellau dibynadwy a gall eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae'n bwysig nad ydych yn gwneud penderfyniadau ar sail gwahaniaethau bach rhwng cyrsiau. Yn hytrach, chwiliwch am wahaniaethau mawr, ac yn enwedig lle mae'r ffigyrau'n llawer is nag ar gyfer cyrsiau eraill rydych chi'n eu hystyried. Rhagor o wybodaeth am gymharu cyrsiau.

Meintiau samplau a chyfraddau ymateb

Ar Darganfod Prifysgol rydym yn dweud wrthych gan faint o fyfyrwyr y cafodd y data a gyhoeddir gennym ei gasglu, ac os oedd o arolwg, y gyfradd ymateb.

Gallai'r niferoedd hyn fod yn llai na’r disgwyl, gan ein bod yn ceisio cyhoeddi data ar gyfer y cwrs ac nad oes nifer fawr o fyfyrwyr ar bob cwrs.

Mae cyfradd ymateb uchel gan nifer fawr o fyfyrwyr yn golygu y gallwch fod yn fwy hyderus yn y data. Gyda niferoedd llai, mae'n arbennig o bwysig nad ydych yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar wahaniaethau bach.

Ni fyddwn ond yn cyhoeddi data os yw’r data gennym ar gyfer mwy na nifer penodol o fyfyrwyr. Mae hyn yn rhannol er mwyn diogelu eu hunaniaeth ac yn rhannol i sicrhau dibynadwyedd yr hyn yr ydym yn ei gyhoeddi. Ar gyfer arolygon, nid ydym yn cyhoeddi data os yw'r cyfraddau ymateb yn isel ychwaith.

Ar gyfer y rhan fwyaf o'r data, mae angen data gan o leiaf 10 myfyriwr i'w gyhoeddi. Ar gyfer LEO, mae angen o leiaf 15 o fyfyrwyr.

Cyrsiau bach

Ar gyfer llawer o gyrsiau llai, efallai na fydd gennym ddata gan ddigon o fyfyrwyr i'w gyhoeddi. Er mwyn i ni allu dangos rhywfaint o ddata, rydym yn grwpio data ar gyfer cyrsiau yn yr un maes pwnc yn y brifysgol honno neu'r coleg hwnnw.

Rydym yn dweud ble’r ydym wedi gwneud hyn ar dudalen y cwrs a’r offeryn cymharu cyrsiau.

Graddau cyd-anrhydedd a chyrsiau â data ar gyfer sawl pwnc

Mae rhai cyrsiau'n cwmpasu mwy nag un maes pwnc, ac weithiau’n arwain at ddyfarniad a elwir yn radd gyd-anrhydedd (megis "BSc Mathemateg a Chyfrifiadureg"). Lle mae gan gwrs fwy nag un pwnc, ceisiwn gyflwyno eitemau data yn seiliedig ar y bobl sy'n astudio'r cwrs hwnnw yn unig.

Weithiau os nad oes digon o bobl yn astudio'r cwrs, neu os nad oes digon ohonynt yn ymateb i arolwg, rydym yn cynnwys data ar gyfer pawb yn y sefydliad sy'n astudio cyrsiau sy'n cynnwys y pynciau hynny. Er enghraifft, mae hyn yn golygu yn ein henghraifft uchod y byddem yn cyflwyno ffigyrau ar wahân ar gyfer Mathemateg ac ar gyfer Cyfrifiadureg. Cyflwynir y rhain fel tabiau ar dudalennau cyrsiau. Gall rhai cyrsiau eang iawn gyda dewisiadau agored rhwng llawer o fodiwlau fod â chymaint â phum maes pwnc, neu fwy byth hyd yn oed.

Wrth feddwl am gwrs lle cyflwynir nifer o ffigyrau ar lefel pynciau, mae'n bwysig edrych ar yr holl bynciau. Dylech hefyd ystyried sut y gallai'r ffigyrau hyn ar gyfer pynciau adlewyrchu'r cwrs yr ydych yn edrych arno, sydd efallai'n cynrychioli nifer fach o fyfyrwyr yn unig yn y meysydd pwnc hynny.

Cyrsiau breiniol neu wedi’u hisgontractio

Weithiau mae cwrs yn cael ei isgontractio, sef pan fo prifysgol neu goleg yn caniatáu i sefydliad arall ddarparu’r cyfan neu ran o gwrs addysg uwch ar ei r(h)an. Gelwir y rhain hefyd yn bartneriaethau isgontractiol, darpariaeth gydweithredol, trefniadau breiniol neu freinio.

O dan drefniadau o’r fath, bydd myfyrwyr wedi’u cofrestru gyda phrifysgol neu goleg, ond byddant yn cael eu haddysgu gan brifysgol, coleg neu sefydliad ar wahân ar gyfer y cyfan neu ran o’r cwrs. Bydd myfyrwyr yn talu ffioedd dysgu i’r darparwr arweiniol, naill ai’n uniongyrchol neu drwy’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC). Bydd y darparwr arweiniol yn trosglwyddo cyfran o’r ffioedd dysgu i’r partner addysgu.

Y darparwr arweiniol sy’n gyfrifol am ansawdd yr addysgu a phrofiad myfyrwyr ar y cyfan ar y cwrs a ddarperir gan ddarparwr arall.

Wrth ymchwilio i gyrsiau, mae’n bwysig i ddarpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol a yw’r cyfan neu ran o’r cwrs yn mynd i gael ei isgontractio er mwyn i chi wybod ble y byddwch yn cael eich addysgu a'ch bod yn gallu gwneud rhagor o ymchwil.

Cyrsiau newydd

Lle mae cyrsiau'n newydd neu lle nad oes unrhyw fyfyrwyr wedi eu gorffen eto, rydym yn cyhoeddi data ar gyfer cyrsiau eraill yn y maes pwnc hwnnw. Rydym yn gwneud hyn er mwyn rhoi rhyw syniad i chi o brofiad a deilliannau myfyrwyr yn y brifysgol honno a'r coleg hwnnw.

Unwaith eto, rydym yn dweud lle’r ydym wedi gwneud hyn ar dudalen y cwrs.

Talgrynnu

Rydym yn cyhoeddi data'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr i'r pwynt canran agosaf. Ar gyfer data arall, os oes gennym ddata ar gyfer llai na 52.5 o bobl, rydym yn talgrynnu'r data i'r pum pwynt canran agosaf. Mae niferoedd y bobl hefyd bob amser yn cael eu talgrynnu i'r pump agosaf.

Gall hyn olygu nad yw'r ffigyrau a ddangosir bob amser yn gwneud cyfanswm o 100 y cant. Yn hytrach, gall y cyfanswm fod yn 95% neu’n 105% pan fyddwch chi'n adio’r ffigyrau at ei gilydd.

Adborth

Byddem yn croesawu adborth ar ba mor ddefnyddiol yw'r ystadegau a beth ellir ei wneud i'w gwella. Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio ein manylion cyswllt ar y dudalen ‘Darganfod Prifysgol’.

Y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF)

Cynllun cenedlaethol yw'r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) sy'n cael ei redeg gan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) ac sy'n amcanu at annog darparwyr addysg uwch i wella a chyflawni rhagoriaeth yn y meysydd sydd bwysicaf i fyfyrwyr: addysgu, dysgu a chyflawni deilliannau cadarnhaol o'u hastudiaethau.

Mae'r TEF yn gwneud hyn trwy asesu a graddio prifysgolion a cholegau ar gyfer rhagoriaeth uwchlaw set o ofynion sylfaenol ar gyfer ansawdd a safonau. Mae darparwyr sy'n cymryd rhan yn y TEF yn cael sgôr cyffredinol yn ogystal â dau sgôr sylfaenol – y naill ar gyfer profiad myfyrwyr a’r llall ar gyfer deilliannau myfyrwyr.

Bydd canlyniadau'r TEF yn cael eu cyhoeddi ar y tudalennau sy’n rhoi gwybodaeth am ddarparwyr o ganol mis Hydref. Gallwch gael mynediad at y rhain trwy glicio ar enw'r sefydliad ar dudalen pob cwrs. Cewch ragor o wybodaeth am y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Ymarfer a hwylusir gan y Swyddfa Fyfyrwyr yn Lloegr yw TEF. Mae Prifysgolion a Cholegau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu cymryd rhan yn TEF yn wirfoddol.

Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA)

Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) yw'r corff ansawdd dynodedig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'r QAA yn monitro ansawdd a safonau'r addysgu mewn prifysgolion a cholegau ar ran y cyrff cyllido a rheoleiddio ym mhob gwlad. Mae'r QAA yn cwblhau adolygiadau sicrhau ansawdd ac yn cyhoeddi adroddiad i grynhoi eu canfyddiadau. Gellir dod o hyd i adroddiadau’r QAA ar dudalennau darparwyr ar Darganfod Prifysgol, y gallwch eu cyrchu trwy glicio ar enw'r sefydliad ar dudalen pob cwrs. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am am ansawdd a safonau.

Back
to top