Telerau ac Amodau Defnyddio
Hawlfraint
- Delir hawlfraint testun a gosodiad y tudalennau ar y wefan hon naill ai gan Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y Swyddfa Fyfyrwyr a Chyngor Cyllido'r Alban (a elwir o hyn allan yn gyrff cyllido a rheoleiddio'r DU) neu gan yr awduron gwreiddiol.
- Delir yr hawlfraint a'r hawl cronfa ddata yn y deunyddiau, y data, yr adroddiadau a'r cyhoeddiadau sydd ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan hon, neu i'w gweld arni, gan y sefydliad a enwir fel perchennog yr hawlfraint neu'r hawl cronfa ddata yn neu ar y cyhoeddiad hwnnw. Yn aml, cyrff cyllido a rheoleiddio'r DU fydd y sefydliad hwnnw ond, mewn achosion eithriadol, gallai'r hawl honno fod yn eiddo i awduron neu gyhoeddwyr gwahanol.
- Daw delweddau a ddefnyddir ar ein gwefan ac yn ein cyhoeddiadau fel arfer gan asiantaethau lluniau masnachol neu gyflenwyr allanol, ac fel arfer cyfyngir ar y defnydd ohonynt i'r wefan hon. Yn unol â hynny, ni ddylid eu copïo na'u defnyddio oni chaniatáwyd trwydded i chi gan ddeilydd perthnasol yr hawlfraint neu, os yn berthnasol, os yw hynny wedi'i ganiatáu fel arall yn ôl y gyfraith.
- Oni nodir fel arall, caniateir copïo neu atgynhyrchu'r testun ar dudalennau'r wefan hon, a thestun cyhoeddiadau ac adroddiadau ac arnynt frand cyrff cyllido a rheoleiddio'r DU , ar wahân i elfennau lle rhoddir credyd i drydydd partïon, ar yr amod bod y ffynhonnell wedi'i chydnabod, nad yw'r testun wedi'i addasu, ac nad yw'n cael ei ddefnyddio, yn rhannol neu'n llwyr, i greu budd masnachol. Ar gyfer defnydd er budd masnachol mae angen caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan ddeiliaid yr hawlfraint.
- Os hoffech ailddefnyddio gwybodaeth sy'n eiddo i Gyrff cyllido a rheoleiddio'r DU, efallai y cewch wneud hynny'n unol â Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2015. Cyflwynwch eich cais mewn ysgrifen, gan roi eich enw a'ch cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth. Nodwch y ddogfen neu'r wybodaeth yr ydych yn ei cheisio, pwrpas ailddefnyddio'r wybodaeth a'r dull o wneud hynny. Dylid anfon ceisiadau i'r [email protected].
Ymwadiad
- Gwneir pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn gywir. Serch hynny, nid yw cyrff Cyllido a rheoleiddio'r DU yn rhoi unrhyw sicrwydd clir nac ymhlyg ynghylch cywirdeb yr wybodaeth honno. Nid ydym yn derbyn atebolrwydd am unrhyw wall na hepgoriad.
- Darperir y wefan hon a deunydd sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau (neu â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti) heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb unrhyw fath o sicrwydd, boed hynny'n glir neu ymhlyg, gan gynnwys ond heb gyfyngu i sicrwydd ymhlyg ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben neilltuol, na pheidio tresmasu ar unrhyw hawliau deallusol neu hawliau eraill, cydweddoldeb, diogelwch na chywirdeb.
- Nid yw cyrff cyllido a rheoleiddio'r DU yn atebol am unrhyw ddifrod (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, difrod am golli busnes neu golli elw, na cholled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol) sy'n deillio o gontract, gamwedd neu fel arall yn sgil defnyddio neu ddiffyg gallu i ddefnyddio'r wefan hon, neu unrhyw ddeunydd arni, neu yn sgil unrhyw weithred a gyflawnir neu benderfyniad a wneir yn sgil defnyddio'r wefan hon neu unrhyw ddeunydd o'r fath.
- Nid yw cyrff cyllido a rheoleiddio'r DU yn gwarantu:
- na cheir unrhyw darfu ar y ffwythiannau yn y deunydd ar y wefan hon, ac na cheir unrhyw wallau ynddynt;
- y bydd diffygion yn cael eu cywiro; neu
- fod y wefan hon neu'r gweinydd sy'n ei darparu yn rhydd rhag unrhwy firysau neu'n cynrychioli ffwythiannau llawn, cywirdeb a dibynadwyedd y deunyddiau.
- Nid yw'r deunyddiau ar y wefan hon yn gyfystyr â chyngor proffesiynol.
Hyperddolennu
- Nid oes rhaid i chi ofyn caniatâd i greu dolen gyswllt uniongyrchol i'r tudalennau gwe a gynhelir ar y wefan hon.
- Bydd cyrff cyllido a rheoleiddio'r DU yn cynnwys dolenni i wefannau eraill ond nid ydynt yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau hynny. Os oes dolen wedi'i chynnwys, ni ddylid ystyried bod hynny'n gyfystyr â chymeradwyo'r wefan y mae'r ddolen yn arwain ati mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys unrhyw gynnyrch a gwasanaethau y cyfeirir atynt ar y wefan honno. Nid yw ychwaith yn awgrymu unrhyw gysylltiad rhwng cyrff cyllido a rheoleiddio'r DU a gweithredwyr y wefan honno. Ni all cyrff cyllido a rheoleiddio'r DU warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser, ac nid oes ganddynt unrhyw reolaeth dros argaeledd tudalennau y ceir dolenni iddynt.
Cyfraith ac awdurdodaeth lywodraethol
- Caiff y Telerau a'r Amodau hyn eu cefnogi gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, a'u dehongli'n unol â'r cyfreithiau hynny. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o'r telerau a'r amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr, a'r awdurdodaeth honno'n unig.
Back
to top
to top