Rhagolygon cyflogaeth
Gall meddwl am y swydd yr hoffech anelu ati fod o gymorth wrth benderfynu rhwng y naill gwrs a'r llall, yn enwedig os mai dyna yw eich prif reswm dros astudio ar y lefel honno.
Dyma rai syniadau ynghylch beth i feddwl amdano a gwybodaeth a allai fod o gymorth.
Swyddi ac enillion graddedigion
Gall edrych ar yr hyn y mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs yn ei wneud bellach roi syniad i chi o'r hyn y gallech ei wneud ar ôl gorffen y cwrs.
Ein data
Mae'r data sydd gennym ar ein tudalennau cwrs yn cynnwys:
- canran y myfyrwyr sydd yn gyflogedig neu'n astudio ymhellach
- y mathau o swyddi sydd gan fyfyrwyr
- faint maen nhw'n ei ennill.
Mwy o wybodaeth am ffynhonnell ein data.
Defnyddio'r data
Mae angen i chi fod yn ymwybodol o rai pethau wrth ddefnyddio'r data hyn i gymharu cyrsiau:
Mae pawb yn wahanol
Gall llawer o ffactorau, ar wahân i'r cwrs, effeithio ar ragolygon swydd a dewisiadau rhywun.
Mae marchnadoedd llafur yn newid
Mae hyn yn golygu na all data gan fyfyrwyr o'r gorffennol ond rhoi syniad i chi o'r hyn y gallai graddedig ei wneud neu ei ennill yn y dyfodol.
Bydd cyflogau a chostau byw yn amrywio ar draws rhanbarthau'r DU.
Os bydd myfyrwyr oddi ar gwrs yn symud ymlaen i weithio mewn rhanbarth lle mae cyflogau'n uwch, gallai eu cyflog fod yn uwch na rhai sy'n gwneud yr un swydd mewn ardal lle mae cyflogau'n is. Gall yr ardal yr ydych yn gweithio ynddi effeithio ar eich enillion. Ond gall hyn hefyd effeithio ar faint y mae angen i chi ei ennill, oherwydd gallai costau byw fod yn rhatach.
Meddyliwch am y tymor hir
Ni fyddwch yn ennill cymaint i ddechrau mewn rhai gyrfaoedd, ond gallai eich potensial i ennill yn y tymor hir fod yr un peth neu'n well. I'r gwrthwyneb, gallech ddewis gyrfa sy'n cynnig cyflog cychwynnol ardderchog, ond na fydd yn cynyddu rhyw lawer dros amser.
Ni ddylech ond gwneud penderfyniadau ar sail gwahaniaeth mawr mewn canlyniadau.
Mae'n annhebygol y bydd mân wahaniaethau rhwng cyrsiau o bwys mawr, felly nid yw'n syniad da gwneud penderfyniadau ar sail hynny.
Ac os ydych chi'n ystyried cwrs lle nad yw'r canlyniadau cyflogaeth yn ymddangos mor dda â chanlyniadau cyflogaeth cyrsiau eraill, efallai y byddwch am drafod y rhesymau am hynny â'r brifysgol neu'r coleg, er mwyn gallu penderfynu a yw'n opsiwn da i chi.
Cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd
Yn ogystal â'r sgiliau y byddwch yn eu meithrin o'ch cwrs, mae prifysgolion a cholegau yn cynnig mathau eraill o gymorth i'ch helpu i baratoi am eich gyrfa.
Lle i gael gwybodaeth
Cewch hyd i wybodaeth am y mathau o gymorth gyrfaoedd a ddarperir gan brifysgolion a cholegau ar eu gwefannau drwy ddilyn dolenni ar dudalennau cwrs. Gallwch hefyd siarad â'u gwasanaethau gyrfa ynglŷn â'r hyn sydd ar gael.
Cyfleoedd am brofiad gwaith a chysylltiadau â chyflogwyr
Bydd myfyrwyr sy'n cael profiad gwaith yn rhan o'u cwrs yn fwy tebygol o gael swydd ar ôl i'r cwrs ddod i ben.
Lle i gael gwybodaeth
Mae ein tudalennau cwrs yn dangos a oes lleoliadau blwyddyn o hyd ar gael. Yn aml, ceir cyfleoedd am leoliadau byrrach neu ffyrdd eraill o ymgysylltu â chyflogwyr. Edrychwch ar fanylion y cwrs ar wefan y brifysgol neu'r coleg i weld pa gyfleoedd a allai fod ar gael.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwybod faint o gefnogaeth y byddwch yn ei chael i ganfod lleoliad os yw hynny'n rhywbeth a fydd yn bwysig i chi, oherwydd gall y gefnogaeth honno amrywio.
Achrediad proffesiynol
Os ydych chi'n astudio er mwyn cael mynediad i yrfa arbennig, efallai y bydd angen i chi ddilyn cwrs sydd wedi'i achredu'n broffesiynol. Neu weithiau bydd achrediadau'n dangos bod cyflogwyr yn cefnogi cwrs. Mae hyn yn golygu eu bod yn cydnabod bod y cwrs yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr er mwyn iddynt gael eu cyflogi mewn sector neilltuol.
Lle i gael gwybodaeth
Gallwch weld unrhyw achrediadau proffesiynol, a'r hyn y maent yn ei olygu i fyfyrwyr, ar ein tudalennau cwrs. Cewch hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y corff proffesiynol.
Pethau i'w gwneud
- Edrychwch ar y mathau o swyddi y gallwch eu gwneud gyda gwahanol raddau ar wefan Prospects.
- Dysgwch fwy am gyfleoedd i gael profiad gwaith
- Siaradwch ag academyddion ynghylch cysylltiadau â diwydiant
- Edrychwch ar ein tudalennau cwrs i weld yr hyn y mae eraill wedi'i wneud a faint y maent yn ei ennill.
- Edrychwch ar wybodaeth ar dudalennau'r gwasanaeth gyrfaoedd ar wefannau prifysgolion a cholegau.
Back
to top
to top