Gall edrych ar yr hyn y mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs yn ei wneud bellach roi syniad i chi o'r hyn y gallech ei wneud ar ôl gorffen y cwrs.
Ein data
Mae'r data sydd gennym ar ein tudalennau cwrs yn cynnwys:
- canran y myfyrwyr sydd yn gyflogedig neu'n astudio ymhellach
- y mathau o swyddi sydd gan fyfyrwyr
- faint maen nhw'n ei ennill.
Mwy o wybodaeth am ffynhonnell ein data.
Defnyddio'r data
Mae angen i chi fod yn ymwybodol o rai pethau wrth ddefnyddio'r data hyn i gymharu cyrsiau:
Mae pawb yn wahanol
Gall llawer o ffactorau, ar wahân i'r cwrs, effeithio ar ragolygon swydd a dewisiadau rhywun.
Mae marchnadoedd llafur yn newid
Mae hyn yn golygu na all data gan fyfyrwyr o'r gorffennol ond rhoi syniad i chi o'r hyn y gallai graddedig ei wneud neu ei ennill yn y dyfodol.
Bydd cyflogau a chostau byw yn amrywio ar draws rhanbarthau'r DU.
Os bydd myfyrwyr oddi ar gwrs yn symud ymlaen i weithio mewn rhanbarth lle mae cyflogau'n uwch, gallai eu cyflog fod yn uwch na rhai sy'n gwneud yr un swydd mewn ardal lle mae cyflogau'n is. Gall yr ardal yr ydych yn gweithio ynddi effeithio ar eich enillion. Ond gall hyn hefyd effeithio ar faint y mae angen i chi ei ennill, oherwydd gallai costau byw fod yn rhatach.
Meddyliwch am y tymor hir
Ni fyddwch yn ennill cymaint i ddechrau mewn rhai gyrfaoedd, ond gallai eich potensial i ennill yn y tymor hir fod yr un peth neu'n well. I'r gwrthwyneb, gallech ddewis gyrfa sy'n cynnig cyflog cychwynnol ardderchog, ond na fydd yn cynyddu rhyw lawer dros amser.
Ni ddylech ond gwneud penderfyniadau ar sail gwahaniaeth mawr mewn canlyniadau.
Mae'n annhebygol y bydd mân wahaniaethau rhwng cyrsiau o bwys mawr, felly nid yw'n syniad da gwneud penderfyniadau ar sail hynny.
Ac os ydych chi'n ystyried cwrs lle nad yw'r canlyniadau cyflogaeth yn ymddangos mor dda â chanlyniadau cyflogaeth cyrsiau eraill, efallai y byddwch am drafod y rhesymau am hynny â'r brifysgol neu'r coleg, er mwyn gallu penderfynu a yw'n opsiwn da i chi.