Manylion cyrsiau

Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod y cyrsiau y byddwch yn ymgeisio amdanyn nhw’n rhoi cyfle i chi astudio’r hyn yr ydych eisiau ei astudio. Ond nid y cynnwys yn unig sy’n amrywio rhwng cyrsiau – gall y dull o’u haddysgu a’u hasesu amrywio hefyd. Os yw hyn yn bwysig i chi, ystyriwch a yw’r dulliau addysgu ac asesu yn gweddu i chi a’ch ffordd o ddysgu.

Caiff cyrsiau eu rhannu’n unedau neu’n fodiwlau. Fel arfer bydd yn rhaid i chi astudio rhai modiwlau, a bydd modiwlau eraill yn ddewisol. Bydd y rhain wedi’u rhestru ar dudalen cwrs y brifysgol neu’r coleg.

Gall cynnwys cyrsiau amrywio’n helaeth o fewn yr un pwnc. Os oes gennych ddiddordeb mewn agwedd arbennig ar y pwnc yr ydych eisiau ei astudio, edrychwch i weld a yw hynny wedi’i gynnwys yn y modiwlau sydd ar gael.

Mae hi hefyd yn werth ystyried beth arall y gallwch ei wneud yn rhan o’r cwrs. Bydd llawer o gyrsiau’n cynnig cyfleoedd am leoliad a allai eich helpu wrth geisio cael swydd yn y dyfodol.

Ar bob cwrs prifysgol, bydd angen i chi wneud mwy o astudio annibynnol nag yr ydych wedi arfer ei wneud. Bydd yr amser yr ydych yn ei dreulio mewn sesiynau addysgu yn amrywio yn dibynnu ar y pwnc ac, mewn rhai achosion, ar lwybr y cwrs.

Bydd y dulliau addysgu yn amrywio ac yn cynnwys:

  • Darlithoedd
  • Addysgu mewn grwpiau bach, fel seminarau
  • Tiwtorialau

Cewch hefyd gwblhau peth o’r dysgu ar-lein, drwy amgylchedd dysgu rhithiol.

Wrth gymharu cyrsiau, nid cyfanswm yr amser addysgu yw’r agwedd bwysicaf i’w ystyried bob amser. Bydd hi hefyd yn werth ystyried y dull o addysgu, a pha staff fydd yn eich addysgu.

Ni fydd pob cwrs yn cael ei asesu drwy arholiadau yn unig. Bydd dulliau asesu parhaus, fel gwaith cwrs, yn cael eu defnyddio ar gyfer rhai ohonynt. Os yw hynny’n cyd-fynd yn well â’ch anghenion, edrychwch am gyrsiau lle defnyddir y dull hwnnw o asesu yn bennaf.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i brifysgolion a cholegau roi gwybodaeth ichi am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl o’r cwrs. Ceir hyd i’r wybodaeth honno ar eu gwefan – sef cynnwys y cwrs, faint o gyswllt a geir â’r staff a natur y cyswllt hwnnw.

Mae ein tudalennau cwrs yn cynnwys dolenni i wybodaeth berthnasol ar wefannau prifysgolion a cholegau.

Back
to top