Llesiant a chymorth i fyfyrwyr
Dylai pob myfyriwr gael profiadau diogel, iach a chynhwysol. Bydd eich prifysgol neu goleg yn rhoi cymorth i'ch helpu wrth astudio. Gelwir hyn yn gymorth bugeiliol.
Os oes gennych anghenion ychwanegol, neu os yw llesiant a chymorth i fyfyrwyr yn arbennig o bwysig i chi, efallai y byddwch am ystyried yr hyn y mae pob prifysgol a choleg yn ei gynnig wrth benderfynu lle'r ydych am ymgeisio.
Cymorth bugeiliol
Bydd prifysgolion a cholegau'n cynnig cymorth ar gyfer amrywiaeth eang o faterion bugeiliol, gan gynnwys:
- Iechyd a llesiant (gan gynnwys iechyd meddwl)
- Cymorth llety
- Sut i gadw'n ddiogel
- Adrodd am ddigwyddiadau fel bwlio ac aflonyddwch, a chamymddwyn rhywiol
- Cyngor ariannol
- Cymorth i fyfyrwyr ag anghenion cymorth ychwanegol, fel gofalwyr, rhai sy'n gadael gofal neu bobl ifanc sydd wedi profi gofal, a myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio.
Mathau o gymorth
Mae prifysgolion a cholegau yn annibynnol. Mae hynny'n golygu y bydd pob prifysgol a choleg yn cynnig gwahanol fathau o gymorth.
Bydd y cymorth yn dibynnu ar y mater dan sylw, a gallai gynnwys mynediad at:
- Gyrsiau neu weithdai llesiant
- Adnoddau hunangymorth a thaflenni ffeithiau
- Cymorth wedi'i gynllunio'n arbennig, gan gynnwys gwasanaethau i fyfyrwyr anabl a gwasanaethau i fyfyrwyr rhyngwladol, a mathau eraill o gymorth wedi'i gynllunio'n arbennig.
- Mentor a chymorth gan gymheiriaid
- Gwasanaethau cwnsela a chynghori
- Gwasanaethau sy'n seiliedig ar ffydd
- Cyfeirio i gymorth arbenigol fel y Ganolfan Argyfwng Trais, Cymorth i Fenywod neu Mind.
Bydd eich prifysgol neu goleg am eich helpu i gael profiadau cadarnhaol drwy gydol eich astudiaethau. Fodd bynnag, os nad ydych o gefndir lle'r ydych wedi profi gofal, mae'n bwysig deall bod eu cyfrifoldebau'n wahanol i gyfrifoldebau ysgolion, rhiant neu ofalwr.
Undebau myfyrwyr
Mae gan y rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau undeb neu urdd myfyrwyr. Pwrpas pennaf y rhain yw cynrychioli buddiannau myfyrwyr, a gallant roi cyngor a chymorth ar ystod o faterion bugeiliol.
Cymorth i rai sy'n gadael gofal
Bydd prifysgolion a cholegau'n aml yn cynnig cymorth bugeiliol ychwanegol i rai sy'n gadael gofal neu bobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r system ofal.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol ychwanegol.
Cymorth i fyfyrwyr anabl
Mae gan brifysgolion a cholegau gymorth penodol i fyfyrwyr ag anableddau neu anghenion ychwanegol.
Bydd y cymorth hwn yn dibynnu ar eich anghenion a gallai gynnwys addasiadau rhesymol fel:
- amser ychwanegol mewn arholiadau
- darparu deunyddiau addysgu mewn fformatau amgen
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth ariannol drwyLwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA).
Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth i'ch prifysgol neu goleg am eich anabledd neu gyflwr, fel bo modd i chi gyrchu'r cymorth hwn. Gallwch wneud hynny drwy eich cais UCAS neu drwy gysylltu â nhw'n uniongyrchol. Os byddwch yn gwybod i'ch prifysgol neu goleg am eich anghenion yn fuan bydd hynny o gymorth i gytuno ar gymorth a'i drefnu ynghynt.
Efallai y bydd o gymorth iddynt wybod am gynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal a oedd gennych yn yr ysgol neu yn y coleg. Ni fydd y rhain yn cael eu trosglwyddo fodd bynnag - bydd trefniadau cymorth newydd yn cael eu sefydlu yn eu lle.
Cyflyrau iechyd meddwl
Mae cyflwr iechyd meddwl yn cael ei ystyried yn anabledd os yw'n cael effaith hirdymor ar weithgarwch rhywun o ddydd i ddydd.
Mae hyn yn golygu y gellid bod modd i chi dderbyn cymorth ychwanegol gan eich prifysgol neu goleg, gan gynnwys cymorth ariannol ychwanegol neu addasiadau rhesymol i'ch cefnogi wrth ddysgu. Mae'n bwysig eich bod yn trafod eich anghenion â'r brifysgol neu goleg, a gellir gwneud hyn yn gyfrinachol.
Gallai meddygon teulu neu dimau iechyd meddwl cymunedol lleol a sefydliadau eraill lleol fod mewn sefyllfa well i gefnogi pobl â chyflyrau iechyd meddwl na thimau cymorth y brifysgol neu'r coleg.
Hysbysu eich prifysgol neu goleg am eich anghenion penodol
Dylech hysbysu eich prifysgol neu goleg ar y cyfle cyntaf am unrhyw amgylchiadau personol a allai effeithio arnoch tra'r ydych yn astudio. Bydd hyn yn eu helpu i gynnig cymorth priodol.
Ni chânt wahaniaethu ar sail unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei datgelu iddynt yn ystod y broses ymgeisio, nac wrth i chi astudio gyda nhw.
Os ydych chi'n gwneud cais drwy UCAS, gallwch ddatgan rhai anghenion penodol yn rhan o'ch cais. Mae'r polisi preifatrwydd ar wefan UCAS yn dweud wrthych chi beth fydd yn digwydd i'r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei datgan ar eich ffurflen.
Derbyn gofal meddygol fel myfyriwr
Os ydych chi'n symud i ffwrdd o'ch ardal leol, cofiwch gofrestru gyda meddyg teulu sy'n agos at eich prifysgol neu
goleg er mwyn ichi allu derbyn gwasanaethau iechyd a chymorth arbenigol yn gyflym. Mae hyn yn arbennig o bwysig i fyfyrwyr â chyflyrau iechyd parhaus, gan gynnwys iechyd meddwl.
Mae gan wefan y GIG fwy o ganllawiau ar sut i dderbyn gofal meddygol fel myfyriwr.
Lle i gael gwybodaeth
Gwybodaeth i fyfyrwyr anabl
Mae gan yr elusen Disability Rights UK daflenni ffeithiau a chanllawiau i fyfyrwyr.
Mae gan UCAS restr o gwestiynau cyffredin i gefnogi myfyrwyr anabl.
Os oes gennych anabledd a'ch bod yn ystyried prentisiaeth uwch neu radd, efallai y bydd y canllawiau hyn gan y Comisiwn Myfyrwyr Anabl yn ddefnyddiol ichi.
Cewch hyd i ddolenni i wybodaeth am Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn ein hadran Sut y byddaf yn talu?
Diwrnodau agored
Yn aml, bydd diwrnodiau agored yn ffordd dda o gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael. Dyma rai cwestiynau y gallech fod am eu gofyn:
- Pa gymorth bugeiliol sy'n cael ei gynnig gan y brifysgol/coleg?
- Mae gen i [angen penodol] - pa gymorth fyddai ar gael i mi?
- Pa fath o gymorth mae undeb y myfyrwyr yn ei gynnig?
- Sut y caiff myfyrwyr eu cynnwys yn nyluniad gwasanaethau cymorth?
- Sut y bydd yr wybodaeth yr wyf yn ei rhannu yn cael ei chadw'n gyfrinachol?
Back
to top
to top