Lleoliad
Yn yr adran hon byddwn yn rhoi syniadau fydd yn eich helpu i benderfynu ymhle rydych am fyw wrth astudio. Mae hyn yn cynnwys penderfynu rhwng aros gartref a symud i ffwrdd.
Aros gartref
Bydd rhai myfyrwyr yn dewis aros gartref i astudio. Efallai mai dyma fydd y dewis cywir i chi os:
- oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu
- ydych chi am aros mewn swydd bresennol wrth astudio
- oes angen ichi osgoi costau llety. Os ydych yn pryderu ynghylch y gost o symud i ffwrdd, efallai y gallwch gael cymorth ariannol. Mae'n bwysig taro cydbwysedd rhwng costau a'r hyn fydd yn sicrhau'r canlyniad gorau ichi yn y tymor hir.
Nid yw aros gartref yn eich cyfyngu i brifysgol neu golegau cyfagos. Gallwch ddewis dysgu o bell a chyflawni'r rhan fwyaf o'ch gwaith astudio gartref. Neu yn lle hynny, gallwch chwilio am gwrs sy'n cyfuno dysgu o bell a chyfnod ar gampws.
Os ydych yn bwriadu astudio'n lleol, meddyliwch am amser a chostau teithio wrth benderfynu pa gwrs i'w ddilyn er mwyn sicrhau bod y cwrs hwnnw'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau eraill a'ch cyllideb.
Symud i ffwrdd
Efallai y bydd gennych amrywiaeth o resymau dros ddewis prifysgol neu goleg, yn dibynnu ar yr hyn sy'n bwysig i chi. Gallai'r rhain gynnwys cost byw yn yr ardal, amgylchedd y brifysgol neu ei lleoliad. Efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
Costau byw
Bydd costau llety a chostau byw eraill yn amrywio llawer rhwng y naill le a'r llall. Os yw cadw costau'n isel yn bwysig i chi, edrychwch ar ardaloedd lle mae costau byw yn is a defnyddio hynny i'ch helpu i benderfynu rhwng gwahanol gyrsiau.
Canfod gwaith rhan-amser
Bydd llawer o fyfyrwyr yn dewis gweithio'n rhan-amser er mwyn helpu i dalu costau. Os yw hynny'n rhywbeth yr hoffech ei wneud, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis rhywle lle rydych yn debygol o gael gwaith. Bydd yn haws canfod gwaith mewn dinas nag mewn ardal wledig.
Yr ardal oddi amgylch
Bydd rhai prifysgolion a cholegau yng nghanol dinas neu dref. Bydd rhai eraill ar gampws neu ar gyrion trefi. Mae campws yn fanteisiol gan fod popeth ar gael yn yr un lle, ond byddwch ymhellach i ffwrdd o fywyd y ddinas.
Cyrraedd adref
Gwiriwch gysylltiadau trafnidiaeth a chostau teithio er mwyn canfod a fyddwch yn gallu mynd adref mor aml ag yr ydych yn dymuno.
Pethau i'w gwneud
Meddyliwch beth yr hoffech ei wneud yn eich amser rhydd, a'r hyn sydd ar gael wrth law. Gallai hynny gynnwys clybiau a chyfleusterau chwaraeon, nosweithiau allan a gweithgareddau diwylliannol neu awyr agored.
Llety
Gallai'r llety sydd ar gael i fyfyrwyr, gan y brifysgol, y coleg neu'n breifat, effeithio ar eich penderfyniad. Gallai natur y llety, ei gost, ei leoliad, neu ei argaeledd fod yn ffactorau dylanwadol.
Darllenwch fwy am lety. [Dolen i'r dudalen llety Darganfod y Brifysgol].
Gwybodaeth a all eich helpu
Cyllid
Ewch i'r adran Sut y byddaf yn talu amdano? [dolen] i weld pa gefnogaeth y gallech fod â hawl i'w dderbyn er mwyn talu am lety a chostau byw.
Canllawiau i ddinasoedd
Mae gan Which? University ganllawiau ar astudio mewn dinasoedd penodol, sy'n cynnwys rhywfaint o wybodaeth am gostau.
Tudalennau cwrs Darganfod y Brifysgol
Os oes angen ichi astudio'n agos at adref, edrychwch ar y data ar ein tudalennau cwrs [dolen i'r chwiliadur cyrsiau] ar gyfer colegau neu brifysgolion lleol. Drwy wneud hynny cewch weld beth oedd barn myfyrwyr eraill am y cwrs, a'u deilliannau o ran cyflogaeth.
Gallwch hefyd ddefnyddio'r chwiliadur cyrsiau i chwilio am gyrsiau dysgu o bell.
Gwefannau prifysgolion a cholegau
Bydd gwefannau prifysgolion a cholegau yn rhoi gwybodaeth i chi am:
- lety
- cynllun eu campysau
- pa fath o chwaraeon a chyfleusterau eraill y maent yn eu cynnig
- eu diwrnodiau agored.
Yn aml byddant yn dweud mwy wrthych chi am yr ardal leol.
Diwrnodau agored
Yn aml, diwrnodiau agored yw'r ffordd orau o ganfod a yw lleoliad yn teimlo fel rhywle y byddech yn hoffi byw ac astudio ynddo. Gallant hefyd roi syniad i chi o'r boblogaeth o fyfyrwyr, ac o natur y gymuned ehangach.
Os na allwch fynd i'r diwrnodiau agored, bydd llawer o brifysgolion a cholegau bellach yn cynnal diwrnodiau agored rhithiol.
Ceir rhestr o rith-deithiau a fideos ar wefan UCAS.
Back
to top
to top