Barn myfyrwyr

Gall siarad â myfyrwyr am eu profiadau eich helpu i gael ymdeimlad gwell o'r profiad gwirioneddol o astudio mewn prifysgol neu goleg. Gall eich helpu i benderfynu a yw'r lle yn gweddu i chi.

Ceir amrywiaeth o ffynonellau swyddogol ac answyddogol o safbwyntiau myfyrwyr ynghylch gwahanol brifysgolion a cholegau, a chyrsiau penodol.

Arolwg annibynnol a gynhelir drwy'r DU yw'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Mae'n casglu barn myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf ynghylch eu profiadau academaidd. Bydd dros 70 y cant o fyfyrwyr yn cwblhau'r arolwg bob blwyddyn.

Bydd myfyrwyr yn ateb cwestiynau ynghylch dysgu, addysgu, trefn cyrsiau a maint yr adnoddau ar eu cyfer, yn ogystal â pha gefnogaeth sydd ar gael iddynt fel myfyrwyr.

Mwy o wybodaeth am yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.

Lle i gael hyd i ganlyniadau'r arolwg

Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau'r arolwg ar ein tudalennau cwrs.

Defnyddio'r canlyniadau

Gan mai arolwg yw'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, ni ddylech ond gwneud penderfyniadau ar sail gwahaniaethau sylweddol mewn sgorau. Mae mân wahaniaethau yn annhebygol o fod yn arwyddocaol.

Os ydych yn ystyried cwrs lle nad yw canlyniadau'r AMC yn ymddangos mor dda ag eraill, holwch y brifysgol neu'r coleg beth yw'r rhesymau am hynny a beth sy'n cael ei wneud i wella pethau.

Os ydych chi am siarad â myfyrwyr cyfredol neu bobl eraill sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch addysg uwch, mae nifer o fforymau ac opsiynau yn y cyfryngau cymdeithasol ar gael i chi.

Gallwch siarad â myfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr am bob math o bethau ar y fforymau yn The Student Room.

Yn aml bydd gan brifysgolion a cholegau eu sianelau cyfryngau cymdeithasol eu hunain i gysylltu ymgeiswyr â myfyrwyr cyfredol, felly cadwch olwg am y rheiny hefyd.

Edrychwch ar wefannau'r brifysgol neu'r coleg am fanylion diwrnodiau agored, ysgolion haf neu ddigwyddiadau eraill i ymgeiswyr lle gallwch gwrdd â myfyrwyr cyfredol. Cewch hefyd fwy o wybodaeth am y rhain ar wefan UCAS.

Os ydych chi mewn ysgol neu goleg, efallai y bydd yn gallu trefnu ymweliadau gan gyn-fyfyrwyr sydd bellach yn astudio cyrsiau addysg uwch.

Back
to top