Gwybodaeth i ddarparwyr

Caiff y wefan Darganfod Prifysgol ei pherchnogi a’i gweithredu gan gyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch y DU:

Mae'n cynnwys ystadegau swyddogol am gyrsiau addysg uwch a gymerwyd o arolygon cenedlaethol a data a gasglwyd gan brifysgolion a cholegau am eu holl fyfyrwyr.

Darllenwch ein hadrannau isod i gael gwybodaeth i ddarparwyr, gan gynnwys:

  • sut i gyflwyno neu ddiwygio gwybodaeth am gwrs a ddangosir ar Darganfod Prifysgol
  • canllawiau ar gyfluniad ac arddangos y teclyn Darganfod Prifysgol ar eich tudalennau cyrsiau eich hun.

Gelwir y data ar Darganfod Prifysgol yn set ddata Darganfod Prifysgol (a elwid yn set ddata Unistats gynt). Rydym yn gweithredu'r broses casglu data mewn partneriaeth gyda'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), sydd bellach yn rhan o Jisc.

Mae’n ofynnol i ddarparwyr addysg uwch sydd wedi’u cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr yn Lloegr, a darparwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyflwyno data Darganfod Prifysgol yn flynyddol i HESA sy’n cynnwys manylion eu cyrsiau israddedig cymwys. I ganfod a yw cwrs yn gymwys ar gyfer cyflwyno data Darganfod Prifysgol gan ddarparwr, gweler y datganiad cwmpas ar wefan HESA. Mae manylion ac amserlen ar gyfer casglu set ddata 2024-25 i’w cael ar wefan HESA.

Mae set ddata Darganfod Prifysgol yn cynnwys yr wybodaeth y mae darparwyr yn ei chyflwyno i HESA wrth gyflwyno’u data Darganfod Prifysgol, yn ogystal â data o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yr Arolwg Hynt Graddedigion a Deilliannau Addysg Hydredol, a gwybodaeth am asesu ansawdd a safonau.

Mae Darganfod Prifysgol yn dangos y data Darganfod Prifysgol diweddaraf – sef set ddata 2024 ar hyn o bryd. Mae’r set ddata hon yn cynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i gyrsiau a fydd yn rhedeg ym mlwyddyn academaidd 2025-26.

Gall darparwyr ddiweddaru eu gwybodaeth bresennol ar Darganfod Prifysgol trwy ailgyflwyno eu data Darganfod Prifysgol i HESA. Caiff y set ddata Darganfod Prifysgol ei diweddaru’n wythnosol, a bydd unrhyw newidiadau’n cael eu hadlewyrchu yn y set ddata ac ar wefan Darganfod Prifysgol ar yr adeg honno. Mae canllawiau manwl ynghylch cynnwys y casgliad data ar gael ar wefan HESA.

Ar gyfer ymholiadau penodol ynghylch y casgliad data Darganfod Prifysgol, cysylltwch â thîm Cyswllt HESA: [email protected].

Sylwer ei bod yn ofynnol i ddarparwyr sydd newydd gofrestru yn Lloegr gyflwyno a chymeradwyo ffurflen ddata Darganfod Prifysgol o fewn deufis i’r dyddiad cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr.

Ceir rhagor o fanylion am yr eitemau data rydym yn eu cyhoeddi ar dudalennau cwrs ar ein tudalen 'am ein data'.

Manylion cyswllt darparwyr

Mae'r set ddata Darganfod Prifysgol yn cynnwys enwau a manylion cyswllt darparwyr o Gofrestr Darparwyr Dysgu’r DU (UKRLP). Bydd Darganfod Prifysgol yn cyflwyno'r wybodaeth hon fel a nodir yng nghofnod UKRLP y darparwr ei hun o dan 'enw masnachu’r darparwr'. Os nad oes enw masnachu’n bodoli ar UKRLP, defnyddir yr enw cyfreithiol yn lle hynny.

Gall darparwyr ddiweddaru eu cofnod UKRLP ar unrhyw adeg, a bydd unrhyw newidiadau a wneir yn cael eu hadlewyrchu ar Darganfod Prifysgol, ar ôl diweddariad wythnosol set ddata Darganfod Prifysgol.

Caiff y teclyn Darganfod Prifysgol ei fewnblannu ar dudalennau cyrsiau ar wefannau darparwyr, ac mae'n darparu’r prif ddata Darganfod Prifysgol sy'n gysylltiedig â'r cwrs hwnnw, yn ogystal â dolen uniongyrchol i dudalen gyfatebol y cwrs ar y wefan Darganfod Prifysgol. Disgwylir i ddarparwyr arddangos teclyn ar eu tudalennau cyrsiau ar gyfer pob cwrs sy'n bresennol ar Darganfod Prifysgol.

Y data a ddangosir ar y teclyn yw:

  • % y myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a oedd yn fodlon ar y cyfan ar eu cwrs (ar gyfer darparwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig)
  • Y % mewn gwaith neu'n gwneud astudiaethau pellach 15 mis ar ôl y cwrs o'r Arolwg Hynt Graddedigion
  • % y myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr sy’n dweud bod staff wedi cefnogi eu dysgu'n dda.

Gellir dod o hyd i'n canllawiau ynghylch sut i weithredu'r teclyn ar wefan HESA.

Rhaid ffurfweddu'r teclyn yn unol â'r cyfarwyddiadau a roddir yn y canllawiau er mwyn osgoi materion arddangos ac ymarferoldeb. Fel y tudalennau cyrsiau ar y wefan Darganfod Prifysgol, daw’r holl wybodaeth a ddarperir ar y teclyn o’r set ddata Darganfod Prifysgol, felly rhaid i'r holl fanylion a ddarperir i ffurfweddu'r teclyn gyfateb â'r wybodaeth gyfatebol am y cwrs a gyflwynir yn eich data a gasglwyd i'w chynnwys yn y set ddata Darganfod Prifysgol.

Sylwch efallai na fydd y teclyn yn arddangos yr holl eitemau data a restrir uchod os nad yw'r data ar gael ar dudalen gyfatebol y cwrs ar Darganfod Prifysgol – gweler y canllawiau i gael manylion llawn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y teclyn Darganfod Prifysgol, cysylltwch â ni: [email protected].

Back
to top