Diweddariad arfaethedig i’r data Enillion ar gyfer 3 blynedd a 5 mlynedd ar ôl graddio

Rydym yn disgwyl y bydd y data “Enillion ar ôl y cwrs” ar gyfer 3 blynedd a 5 mlynedd ar ôl graddio’n cael ei ddiweddaru ar Discover Uni yn ystod mis Tachwedd 2022 pan gyhoeddir data newydd gan Adran Addysg y DU.

Yn y cyfamser, rydym yn dangos y data LEO diweddaraf sydd ar gael.

Sut fydd hyn yn effeithio ar y data am enillion ar Unistats?

Nid ydym yn disgwyl unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r data enillion LEO y tu hwnt i’r hyn a fyddai’n amrywiadau arferol o un flwyddyn i’r llall ar gyfer pobl, gan gynnwys graddedigion.

Bydd rhai newidiadau canlyniadol i’r enillion a gyhoeddir gennym ar gyfer graddedigion 15 mis ar ôl eu cwrs. Y rheswm dros hyn yw bod yr holl wybodaeth am enillion graddedigion yn cael ei chrynhoi mewn ffyrdd tebyg i wneud cymariaethau mor ystyrlon â phosibl. Mae’r ffordd y caiff y data ei drin neu ei gydgasglu’n ddibynnol ar y data LEO sydd ar gael. O ganlyniad i ddata LEO newydd sydd ar gael, gall y data enillion ar gyfer graddedigion 15 mis ar ôl eu cwrs gael ei gyhoeddi ar lefel fwy manwl neu lai manwl.

Back
to top