Sut i ymgeisio
Os hoffech wneud cais am le ar gwrs israddedig yn y DU, fel arfer bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS. Mae ceisiadau am gyrsiau israddedig sy'n dechrau yn 2025 bellach ar agor. Gallwch sefydlu cyfrif a dechrau cwblhau eich cais ar Hyb UCAS.
Mae'r dyddiad cau i gyflwyno eich cais yn dibynnu ar y math o gwrs rydych chi'n ymgeisio amdano. Gweler y terfynau amser isod:
3 Hydref 2024 (18:00 amser y DU) - yw'r dyddiad cau ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau cerddoriaeth mewn Conservatoires UCAS sy'n dechrau yn 2025.
15 Hydref 2024 (18:00 amser y DU) – yw'r dyddiad cau ar gyfer cyrsiau ym Mhrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caergrawnt, a'r rhan fwyaf o gyrsiau meddygaeth, milfeddygaeth/gwyddoniaeth filfeddygol a deintyddiaeth.
29 Ionawr 2025 (18:00 amser y DU) – yw’r dyddiad cau ar gyfer holl gyrsiau Israddedig UCAS, ac eithrio’r rhai a chanddynt dyddiad cau 15 Hydref.
Pan fyddwch chi wedi dewis y cyrsiau yr hoffech ymgeisio amdanyn nhw, gallwch wirio'r dyddiadau cau ar gyfer pob un i sicrhau eich bod yn ymgeisio mewn pryd.
Edrychwch ar Sut i ddewis cwrs a'n hadnodd y gellir ei lawrlwytho am gymorth i ddewis ac ymchwilio i gyrsiau.
Gwneud cais drwy eich ysgol neu goleg
Gwneud cais trwy ysgol neu goleg
Os ydych yn gwneud cais drwy eich ysgol neu goleg, byddant yn eich annog i gwblhau eich cais yn gynharach fel bod gan yr ysgol amser i wirio manylion eich cais a chwblhau eich geirda. Holwch eich Ysgol neu Goleg am y camau y bydd angen ichi eu cymryd i sicrhau bod eich cais yn cael ei anfon i UCAS ar amser.
Gwneud cais yn annibynnol
I wneud cais yn annibynnol, bydd angen i chi gofrestru gydag UCAS i gyflwyno'ch cais. Efallai y bydd canllaw UCAS ar wneud cais am gwrs israddedig yn ddefnyddiol i chi.
Yn rhan o'r broses ymgeisio gofynnir ichi gyflwyno geirda. Os ydych chi'n astudio mewn coleg, gall eich arweinydd cwrs roi geirda ichi. Os ydych chi'n ymgeisio'n annibynnol, bydd angen ichi ddarparu manylion canolwr.
Yn ddelfrydol, dylai'r unigolyn eich adnabod o safbwynt academaidd. Os nad oes gennych chi unrhyw un felly, gallwch ofyn i gyflogwr neu rywun sydd wedi eich adnabod yn ffurfiol. Ni chewch roi enw perthynas na ffrind fel canolwr. Am arweiniad ynghylch sut i ddewis canolwr, edrychwch ar wefan UCAS.
Gofynnir ichi restru unrhyw gymwysterau a ddelir gennych a chyflwyno prawf o'r rhain cyn dechrau eich cwrs. Os nad oes gennych chi eich tystysgrifau gwreiddiol, gallwch gael copi fel arfer gan y bwrdd arholi, er y gallai hynny olygu talu ffi.
- I rai yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, mae gwefan gov.uk yn esbonio sut i gael tystysgrifau newydd. Sylwch na allwch gael tystysgrif newydd ar gyfer Lefel O, Tystysgrif Addysg Uwchradd, TGAU na Safon Uwch - bydd eich bwrdd arholi yn anfon 'datganiad ardystiedig o ganlyniadau' yn lle hynny, y dylai eich darparydd addysg uwch ei derbyn. Mae'n bosibl y bydd tystysgrifau newydd ar gael ar gyfer cymwysterau eraill.
- Os ydych chi yn yr Alban, gallwch ddefnyddio Gwasanaeth Tystysgrif Newydd Awdurdod Cymwysterau'r Alban.
Beth sydd ei angen er mwyn ymgeisio?
Yn rhan o'ch cais, bydd angen ichi:
✅ Nodi eich manylion personol a'ch cymwysterau.
✅ Cynnwys y cyrsiau yr hoffech chi ymgeisio amdanyn nhw.
✅ Ysgrifennu datganiad personol a fydd yn cael ei adolygu gan y prifysgolion neu'r colegau rydych wedi'u dewis.
✅ Cynnwys geirda
✅ Talu'r ffi ymgeisio.
Os ydych yn gwneud cais i ddarparwyr cyrsiau Cymraeg, gallwch ddewis cwblhau eich cais yn gyfan gwbl yn Gymraeg.
Gweler y canllawiau ar wefan UCAS.
Ffi ymgeisio
Ar gyfer cylch 2025, os ydych wedi bod yn cael prydau ysgol am ddim ar ryw adeg yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf (yn ystor eich addysg uwchradd) hyd at ddiwedd eich blwyddyn olaf, byddwch yn gymwys i gael hepgor eich ffi ymgeisio os ydych yn ymgeisio am gwrs Israddedig UCAS. Gweler rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar UCAS.
Datganiad personol
Gweler UCAS am gymorth gyda sut i ysgrifennu eich datganiad personol.
Ymgeiswyr am gyrsiau sy’n dechrau yn 2026
Ar gyfer myfyrwyr sy’n ymgeisio i brifysgolion am gyrsiau sy’n dechrau yn 2026, bydd fformat y datganiad personol yn newid. Bydd y datganiad personol yn newid o un darn hirach o destun i dair adran ar wahân gyda chwestiynau unigol a fydd yn helpu i siapio’r ffocws ar gyfer atebion myfyrwyr. Gweler y cwestiynau isod:
- Pam fod arnoch eisiau astudio’r cwrs neu’r pwnc yma?
- Sut y mae eich cymwysterau a’ch astudiaethau wedi eich helpu i baratoi ar gyfer y cwrs neu’r pwnc yma?
- Beth arall ydych chi wedi’i wneud i baratoi y tu allan i addysg, a pham fod y profiadau hyn yn ddefnyddiol?
Bydd gan bob adran isafswm cyfrif nodau o 350 o nodau sydd a labelwyd yn glir ar flychau’r cwestiynau i sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod a ydynt ar y trywydd cywir. Bydd y tair adran yn cael eu hadolygu fel un gan brifysgolion a cholegau.
Colli terfynau amser a chlirio
Clirio yw’r system a ddefnyddir gan brifysgolion a cholegau i lenwi unrhyw leoedd sydd ganddynt ar eu cyrsiau addysg uwch. Mae'n cael ei redeg gan UCAS.
Efallai y byddwch yn ystyried Clirio fel opsiwn os ydych:
- methu’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau UCAS ar gyfer cyrsiau
- peidiwch â derbyn unrhyw gynigion gan eich dewis cadarn neu yswiriant (neu ni wnaethoch dderbyn unrhyw leoedd a gynigiwyd)
- newidiwch eich meddwl am eich dewis cadarn neu yswiriant ac eisiau gwneud cais i gwrs neu brifysgol arall.
Bydd y clirio yn agor ar 5 Gorffennaf 2025 ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Gweler tudalennau 'Clirio' UCAS am ragor o wybodaeth.
Ymgeisio am le mewn conservatoire
Os ydych chi'n ymgeisio am le ar gwrs ymarferol theatr cerdd, cerddoriaeth, dawns neu ddrama yn un o conservatoires y DU, dylech ymgeisio drwy lwybr conservatoire UCAS.
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau conservatoire yn defnyddio'r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau UCAS a roddir ar frig y dudalen, ond dylech wirio'r dyddiad cau ar gyfer y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo ar dudalennau'r cwrs ar wefan y conservatoire.
Ymgeiswyr rhyngwladol
Gweler ein hadran ar 'ymgeiswyr rhyngwladol' am wybodaeth ynghylch sut i ymgeisio o'r tu allan i'r DU.
Gohirio lle
Os nad ydych chi'n siŵr y byddwch yn barod i ddechrau'r brifysgol flwyddyn nesaf, gallech ystyried gwneud cais am fynediad gohiriedig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ymgeisio i ddechau eich cwrs flwyddyn yn ddiweddarach. Os ydych chi eisoes wedi cael cynnig lle ar gwrs ac yn penderfynu eich bod am gael blwyddyn i ffwrdd, efallai y byddwch chi hefyd yn gallu gohirio'r dyddiad dechrau tan y flwyddyn ganlynol.
Os ydych chi'n ystyried y naill opsiwn neu'r llall er mwyn gohirio, dylech holi eich prifysgol neu goleg drwy gysylltu â nhw'n uniongyrchol. Cewch ragor o wybodaeth am y broses ohirio ar wefan UCAS.
Edrychwch ar ein hadran 'sut i ddewis cwrs' i weld yr hyn y gallech fod am eu hystyried wrth ymgeisio am le mewn prifysgol.
Ymgeisio am gwrs yn uniongyrchol (ddim drwy UCAS)
Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau addysg uwch israddedig yn y DU, bydd disgwyl i chi ymgeisio drwy UCAS fel arfer. Fodd bynnag, ceir rhai eithriadau lle dylai ymgeiswyr gyflwyno cais uniongyrchol i ddarparydd y cwrs - er enghraifft, rhai cyrsiau rhan-amser neu broffesiynol.
Os mai dim ond un cwrs penodol rydych chi'n ymgeisio amdano, bydd rhai darparwyr yn derbyn cais uniongyrchol. Fodd bynnag, ni fydd hyn ond fel arfer yn berthnasol i fyfyrwyr ag amgylchiadau penodol. Os ydych chi'n ansicr ynghylch y broses ymgeisio ar gyfer cwrs penodol, y peth gorau yw holi'r brifysgol neu'r coleg yn uniongyrchol.
Back
to top
to top