Sut i ddefnyddio Darganfod Prifysgol
Ffynhonnell wybodaeth swyddogol am addysg uwch ledled y DU yw Darganfod Prifysgol. Mae'n darparu gwybodaeth i'ch helpu i gael gwybodaeth am opsiynau addysg uwch ac mae'n dangos data o arolygon cenedlaethol a data a gesglir gan brifysgolion a cholegau am eu holl fyfyrwyr.
Mae data'r cwrs yn rhoi cipolwg ar brofiadau myfyrwyr a graddedigion, gall hyn eich helpu i ymchwilio i'ch opsiynau cwrs a gwneud penderfyniad sy'n iawn i chi.
Sut i ddefnyddio Darganfod Prifysgol
- gallwch ddod o hyd i gyrsiau trwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio ar yr hafan dudalen a defnyddio’r hidlwyr i wneud eich chwiliad yn fwy manwl.
- rhowch enw’r cwrs i mewn a dewiswch y prifysgolion neu’r colegau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
- gallwch gadw cwrs os oes arnoch eisiau dychwelyd ato yn ddiweddarach neu ei gymharu â chyrsiau eraill.
Pa wybodaeth allaf ei gweld ar dudalen Darganfod Prifysgol?
Ar Darganfod Prifysgol, gallwch weld data cyrsiau sy’n rhoi mewnwelediad i brofiadau myfyrwyr a graddedigion. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fel:
- bodlonrwydd myfyrwyr ar gyfer cyrsiau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- barn myfyrwyr ynglŷn â’r cwrs gan gynnwys y sgôr a roddodd myfyrwyr i ansawdd yr addysgu, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cymorth academaidd, trefnu a rheoli, adnoddau dysgu, y gymuned ddysgu a llais myfyrwyr
- faint o fyfyrwyr sydd wedi parhau i mewn i’w hail flwyddyn
- pa swyddi y mae myfyrwyr wedi mynd i mewn iddynt ar ôl cwblhau eu gradd
- enillion graddedigion 15 mis, 3 blynedd a 5 mlynedd ar ôl y cwrs
- canfyddiadau graddedigion sy’n dangos a yw graddedigion yn teimlo bod eu cwrs yn effeithio’n gadarnhaol ar eu gwaith ar ôl graddio
- y cymwysterau a phwyntiau tariff UCAS a oedd gan fyfyrwyr pan gawsant eu derbyn ar y cwrs
Gweler enghraifft o ddata'r cwrs isod:

Bydd tudalen y cwrs hefyd yn cynnwys dolenni i wefan y brifysgol neu’r coleg er mwyn i chi allu dod o hyd i ragor o wybodaeth.
Weithiau nid oes digon o ddata ar gael ar gyfer eich dewis gwrs. Pan fo hyn yn digwydd, rydym yn ceisio arddangos data ar gyfer cyrsiau tebyg yn yr un brifysgol neu goleg. Gweler rhagor o wybodaeth yn Am ein tudalen data.
Sut i gymharu cyrsiau
Pan fyddwch wedi dod o hyd i rai cyrsiau y mae gennych ddiddordeb ynddynt, gallwch gadw a gweld manylion y cyrsiau ochr yn ochr â’i gilydd gan ddefnyddio’r offeryn cymharu cyrsiau. Bydd angen i chi:
- fynd at ‘cyrsiau a gadwyd’ a dewis y cyrsiau yr hoffech eu cymharu. Gallwch ddewis hyd at saith i’w gweld ochr yn ochr â’i gilydd
- clicio cymharu.
Yn awr gallwch weld yr holl wybodaeth ar gyfer pob un o’r cyrsiau a ddewiswyd gennych. Gweler enghraifft isod:

Mae’r offeryn yn eich cynorthwyo i wneud cymariaethau ystyrlon a llunio rhestr fer o’ch dewisiadau o ran cyrsiau. Gweler ein canllawiau ar gyfer cymharu cyrsiau i gael rhagor o wybodaeth.
Cofiwch ystyried ystod o ffactorau wrth wneud eich dewis.
Gweler y canllawiau pellach yn ein tudalennau isod i’ch helpu i feddwl beth sy’n bwysig i chi.
Back
to top
to top