Safleoedd a gwybodaeth arall

Ar y dudalen hon, rydym yn ystyried rhywfaint o'r wybodaeth arall efallai y byddwch yn dod ar ei thraws neu fod â diddordeb ynddi wrth ddewis eich cwrs, gan gynnwys tablau cynghrair a safleoedd.

Os ydych yn chwilio ar y we i ddarganfod 'y brifysgol orau ar gyfer xxxx', bydd canlyniadau eich chwiliad yn ôl pob tebyg yn cynnwys rhestr o safleoedd prifysgolion neu dablau cynghrair.

Gall tablau cynghrair ymddangos yn ffordd hawdd o ganfod y lleoedd gorau i astudio ynddynt, ond dylech feddwl am yr hyn sy'n bwysig i chi wrth wneud eich penderfyniad ac edrych ar wybodaeth arall hefyd. Maent yn defnyddio gwahanol ddarnau o wybodaeth i ddod o hyd i safle cyffredinol ac efallai y bydd rhai yn pwysoli’r pethau sydd yn bwysig i chi yn fwy nag eraill. Mae'n werth gwirio'r hyn maent yn ei ddefnyddio a'r hyn sy'n cael y pwysigrwydd mwyaf wrth ddod o hyd i'r sgôr derfynol. Yn y modd hwn, gallwch benderfynu pa rai sydd yn debygol o fod yn ddefnyddiol i chi. Mae rhai tablau yn rhoi pwysigrwydd sylweddol i ymchwil, sydd efallai ddim mor berthnasol i chi â bodlonrwydd myfyrwyr, er enghraifft. Mae rhai yn rhoi pwys ar bwyntiau mynediad tariff, nad ydynt yn ddangosydd o ddysgu ac addysgu llwyddiannus a chymorth i fyfyrwyr, ac sy’n gallu adlewyrchu mewn gwirionedd anghydraddoldeb mewn perthynas â mynediad at addysg uwch.

Nid oes diddordeb gan gyflogwyr mewn p'un a aethoch i brifysgol neu goleg sydd yn uchel yn y tablau cynghrair yn unig. Byddant yn ystyried perthnasedd y cymhwyster sydd gennych chi a'r sgiliau a'r profiadau rydych wedi eu cael.

Dyma rai enghreifftiau o dablau cynghrair:

Tablau cynghrair prifysgolion The Complete University Guide

Tablau cynghrair prifysgolion The Guardian

Mae The Times a The Sunday Times hefyd yn cyhoeddi safleoedd prifysgolion yn eu Good University Guide. Mae angen i chi danysgrifio i gael mynediad at y cyhoeddiad hwn.

Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau yn gweithredu system o ddosbarthu graddau, sydd fel system raddio â gradd dosbarth cyntaf yr uchaf y gallwch ei chael. Mae'r dosbarthiadau hyn fel arfer yn cynnwys:

  • Dosbarth cyntaf
  • Ail ddosbarth (wedi'i rannu’n ail ddosbarth uwch ac ail ddosbarth is)
  • Trydydd dosbarth
  • Graddau cyffredinol (lle nad yw’r gofynion ar gyfer gradd ag anrhydedd yn cael eu bodloni)

Nid ydym yn cyhoeddi gwybodaeth am y dosbarthiadau graddau a enillodd myfyrwyr a gwblhaodd y cwrs yn y gorffennol. Mae hyn oherwydd nad ydym o'r farn fod hyn yn berthnasol i ansawdd y cwrs.

Gallwch gael gwybodaeth am batrymau dosbarthiadau graddau ar wefan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Back
to top