Pwnc

Y cam cyntaf yn aml wrth chwilio am gwrs yw penderfynu pa faes pwnc yr ydych chi am ei astudio.

Gallwch astudio ystod eang o bynciau. Bydd rhai ohonynt yn gyfarwydd o'r ysgol neu'r coleg, ond eraill yn newydd i chi. Mae llawer o gyrsiau yn eich galluogi i arbenigo mewn maes pwnc ehangach.

Gallwch hefyd astudio mwy nag un pwnc drwy astudio gradd cyd-anrhydedd neu radd anrhydedd gyfun. Gall hyn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ehangach. Enghraifft o hyn fyddai astudio busnes ar y cyd â iaith.

Bydd angen cymwysterau mewn pynciau penodol ar gyfer rhai cyrsiau. Ar gyrsiau eraill ni fydd ond angen i chi gael y graddau cywir neu brofiad blaenorol.

Efallai eich bod wedi dewis yr hyn yr ydych chi am ei astudio. Os nad ydych chi, dyma rai syniadau i'ch helpu i benderfynu.

Astudiwch rywbeth fydd o gymorth yn eich gyrfa

Os ydych chi'n gwybod beth rydych am ei wneud ar ôl gorffen eich astudiaethau, dewiswch radd sydd ei hangen arnoch er mwyn cyflawni'r swydd honno neu i weithio yn y maes hwnnw.

Nid oes angen gradd benodol ar gyfer pob swydd ôl-raddedig. Bydd cyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau y byddwch yn eu meithrin, waeth beth fo'r pwnc dan sylw.

Astudiwch rywbeth yr ydych chi'n ei fwynhau

Mae'n iawn os nad ydych chi'n gwybod beth rydych chi eisiau ei wneud. Bydd myfyrwyr yn aml yn dewis pwnc maen nhw'n dda arno, neu bwnc y maen nhw'n ei fwynhau. Bydd dewis rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi yn eich helpu i gael mwy o fwynhad o'ch cyfnod yn y brifysgol, a chael canlyniadau da.

Gall gwefannau prifysgolion a cholegau eich helpu i ddeall:

● yr ystod o bynciau y gallwch eu hastudio

● y cyrsiau y mae angen i chi gael cymwysterau penodol ar eu cyfer.

Mae gwefan Prospects yn cynnwys proffiliau swydd sy'n dweud y canlynol wrthych chi:

● mwy o wybodaeth am y swydd

● pa gymwysterau sydd eu hangen

● faint mae pobl yn ennill yn y swydd.

Gallwch hefyd weld pa yrfaoedd y gall gwahanol raddau arwain atynt ar wefan Prospects.

Mae gan bob gwlad yn y DU wefan gyrfaoedd sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol:

National Careers Service (Lloegr)

NIDirect Careers

My World of Work (Yr Alban)

Gyrfa Cymru

Mae gan UCAS ganllawiau pwnc sy'n cynnwys mwy o wybodaeth am wahanol bynciau y gallwch eu hastudio.

Back
to top