Costau

Er mwyn gwneud penderfyniad deallus ynghylch mynd i brifysgol neu beidio, mae angen ichi ddeall faint fydd hynny'n gostio, a sut y byddwch yn talu amdano.

Mae'n golygu mwy na thalu ffioedd dysgu. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am lety, deunydd ar gyfer y cwrs, costau teithio, dillad neu eitemau mawr untro fel beic neu gyfrifiadur glin. Dylech chi hefyd feddwl am gostau eraill fel cymdeithasu gyda ffrindiau.

Gall costau amrywio yn ôl man astudio. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos costau llety a chostau byw eraill.

Ffioedd dysgu

Os nad ydych yn fyfyriwr o'r Alban sy'n astudio yn yr Alban, bydd angen i chi dalu ffioedd dysgu.

Nid talu am eich addysgu yn unig y mae'r ffioedd. Maent hefyd yn talu am bethau y mae angen i'r brifysgol neu'r coleg eu darparu er mwyn i chi gwblhau eich cwrs. Mae'r rhain yn cynnwys llyfrgelloedd, cyfleusterau dysgu ar-lein, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a chostau gweinyddu'r cwrs.

Ni fydd ffioedd dysgu yn amrywio rhyw lawer rhwng cyrsiau os nad ydych yn ystyried prifysgol neu goleg preifat.

Costau eraill yn gysylltiedig â'r cwrs

Yn ogystal â llyfrau, efallai y ceir costau eraill ar gyfer teithiau maes neu ddeunyddiau. Gall rhai o'r costau hyn fod yn sefydlog, ond weithiau gallant amrywio'n sylweddol, er enghraifft, costau deunyddiau ar gyfer cwrs celfyddyd gain.

Lle i gael gwybodaeth

Bydd prifysgolion a cholegau yn cyhoeddi eu ffioedd cwrs ar eu gwefannau. Dylent ddangos beth sydd wedi'i gynnwys yn y ffioedd cwrs a pha gostau ychwanegol y mae angen eu talu ar dudalennau gwybodaeth eu cyrsiau. Dylent hefyd roi syniad o gostau'r deunyddiau y bydd angen i chi eu prynu eich hunain, os yw hynny'n berthnasol.

Gallwch ddilyn y ddolen 'Costau cyrsiau' ar ein tudalennau cwrs i weld faint mae'r cwrs yn ei gostio ar wefan y brifysgol neu'r coleg.

Mae ein hadran ar lety yn cynnwys mwy o wybodaeth am gostau llety.

Dyma'r mathau o bethau y gallai fod angen i chi feddwl amdanynt yn ogystal â'ch costau llety:

  • Biliau (cyfleustodau, ffôn, y rhyngrwyd, cerddoriaeth a theledu, yswiriant)
  • Teithio
  • Bwyd a diod
  • Dillad
  • Gofal personol
  • Aelodaeth campfa.

Efallai y bydd Cyfrifiannell cyllidebu UCAS neu gynllunydd cyllidebu MoneySavingExpert i fyfyrwyr o gymorth wrth gynllunio.

Edrychwch ar ein hadran Sut y byddaf yn talu amdano? am wybodaeth am fenthyciadau a grantiau, ac i weld pa gymorth ariannol y gallech ei dderbyn.

Ceir sawl ffordd o gadw costau'n isel hefyd. Mae'r Complete University Guide yn cynnwys amryw o syniadau ynghylch sut i arbed arian.

Back
to top